Gŵyl Gymreig Ontario
Yn 2011, bu bron i hanner miliwn o ddinasyddion Canada yn dweud eu bod nhw o dras Gymreig. Un o’r mewnfudwyr cyntaf a gredir iddo bwysleisio’r syniad i symud o Gymru i Ganada yw John Mathews, a ddaeth ei deulu i Southwold ym 1812, ger dinas London, Ontario, fel yr ydym bellach yn ei hadnabod.
Mae Ontario yn un o daleithiau Canada gyda phoblogaeth sylweddol o Gymry, ac mae’r gymuned hon yn weithgar iawn ym mywyd diwylliannol a chymdeithasol Canada. Un o’r digwyddiadau Cymreig mwyaf poblogaidd yn Ontario (a Chanada oll, mae’n debyg!) ydy Gŵyl Gymreig Ontario a ddechreuodd ym 1961. Am ffordd o ddathlu Cymru, Cerddoriaeth Cymru a thraddodiadau Cymru, cynhelir yr ŵyl eleni ar benwythnos Ebrill 26-28 yng Ngwesty Hilton Double Tree Hotel yn London, Ontario.

Cawsom sgwrs hyfryd gyda Mairwen Thornley, un o gyfarwyddwyr bwrdd Cymdeithas Gymanfa Ganu Ontario, sydd wedi bod yn noddi ac yn trefnu’r Ŵyl am sawl blwyddyn nawr. Ganwyd Mairwen yng Nghymru, ond symudodd wrth i’w theulu fewnfudo.
Helo Mairwen, rydym ni’n gwybod bod yr ŵyl hon yn digwydd ers nifer o flynyddoedd. Allet ti ddweud rhagor wrthym ni am beth i’w ddisgwyl yn yr ŵyl eleni?
Wel, mae wedi newid lot ers i’w chychwyniad, ond mae cysyniad tebyg bob blwyddyn – mae’n hyrwyddo Cymru a diwylliant Cymru, sy’n hollbwysig i’r rheiny nad ydyn nhw’n byw yng Nghymru rhagor gadw’n fyw.
Yn draddodiadol mae’r Ŵyl yn dechrau ar brynhawn dydd Gwener gyda “Daffodil Tea” fel croeso, lle’r ydym ni’n cofrestru a chwrdd â’n ffrindiau rydym ni wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Bydd telynor yn canu cerddoriaeth Cymru draddodiadol i ni, ac wedyn rydym ni’n mwynhau’r Noson Lawen a gaiff ei chynnal yng ngwesty’r pencadlys.
Mae’r dydd Sadwrn yn llawn wahanol weithgareddau, megis y cyfarfod blynyddol, seminarau a sesiynau sinema cyn prif ddigwyddiad yr Ŵyl, y cyngerdd côr. Rydym bob tro yn cael gwestai o Gymru – eleni, y gwestai ydy Côr Meibion Machynlleth, côr o Fro Ddyfi, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu croesawu.
Ar y dydd Sul, mae gennym ddau ddigwyddiad Cymanfa Ganu, un yn y bore ac un yn y prynhawn, lle’r ydym ni’n canu emynau Cymraeg gyda’n gilydd. Gyda’r ail Gymanfa Ganu, mae’r Ŵyl yn dod i ben ac rydym ni’n ffarwelio ein ffrindiau tan y flwyddyn nesaf.
Ydy nifer o’ch ymwelwyr yn mynd i’r digwyddiadau Gymanfa Ganu?
Maen nhw’n hoff iawn o allu cymryd rhan yn y Gymanfa Ganu! Roedd sôn am gael un Gymanfa Ganu (yn y bore) yn unig, gan fod nifer o bobl sy’n dod i’r ŵyl wedi teithio dros Ontario, ac felly yn gadael cyn cinio ar ddydd Sul i yrru adref yn hytrach nag aros am y Gymanfa Ganu yn y prynhawn. Ond mae’n rhaid imi ddweud roedd nifer o bobl yn y Gymanfa Ganu’r llynedd ac wedi mwynhau canu’r emynau. Rydym ni’n eu canu yn Gymraeg a Saesneg, felly gall pawb fod yn hapus â’r rhaglen. Er na chaiff pob un o’r emynau eu canu yn Gymraeg, mae thema Gymreig i’r Gymanfa!
Sut wnaethoch chi ddechrau â threfnu’r Ŵyl?
Rwy’n aelod o Eglwys Unedig Gymreig Dewi Sant, felly dysgais am yr ŵyl amser maith yn ôl. Rwy’n mynd i’r ŵyl ers blynyddoedd ond ymunais â phwyllgor yr ŵyl rhyw 3 blynedd yn ôl. Unwaith i mi gymryd rhan, fe wnes i sylweddoli faint o waith sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llen!
Ydy lot o bobl yn teithio o UDA neu y tu hwnt i Ottawa?
Daeth ychydig i Ottawa yn 2016. Cawsom ni Tri Tenor Cymru (yn cynnwys Llywydd Cymru a’r Byd Rhys Meirion) a Côrdydd. Mae grŵp gweithgar yn Ottawa a gododd lawer o arian i gael hyn.
Yn 2020, rydym ni’n cynnal yr ŵyl yn Rhaeadr Niagara, ac mae’n gyfleus iawn i Daleithiau Gogledd America, felly rydym ni’n disgwyl i fwy o bobl i ymuno â ni.

Ydy’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan wedi symud i Ganada, neu ydyn nhw’n byw yna ers sbel?
Baswn i’n dweud bod y rhan fwyaf ohonon ni’n byw yma ers sbel. Wrth gwrs, mae’n wahanol i rai o’n haelodau, ond rwy’n sôn am y mwyafrif.
Felly pa mor hir wyt ti wedi bod yma?
Rwy’n byw yn Nhoronto ers 58 mlynedd bellach. Ond rwy’n cadw mewn cysylltiad â fy nhreftadaeth a diwylliant Cymreig – dyna pam es i’r ŵyl yn y lle cyntaf. Hyd yn oed cyn i’r ŵyl gael ei lansio, roeddwn i’n mynd i gymanfaoedd canu yn Rhaeadr Niagara ac roedd yn gymysg o un grŵp o Ohio a phobl Canada yn dod at ei gilydd. Er rwy’n byw yng Nghanada am y rhan fwyaf o fy mywyd, bob tro rwy’n siarad â fy chwaer, sydd yn dal i fyw yng Nghymru, mae fy acen Gymraeg yn dod nôl yn syth!
Hoffai Cymru a’r Byd i ddiolch Mairwen am ei hamser ac am rannu gwybodaeth am Ŵyl Gymreig Ontario. Gallwch brynu tocynnau yma: https://ontariowelshfestival.ca/home/
a gallwch ddilyn y digwyddiadau yma ar Facebook: https://www.facebook.com/ontario.welsh.festival/