Benbaladr, BBC Radio Cymru






Bydd cyfres arall o Benbaladr yn dychwelyd ar BBC Radio Cymru fis Medi 2018, lle bydd y cyflwynydd, Alun Thomas yn sgwrsio gyda Chymry ar draws y byd, ac yn dysgu am eu ffordd o fyw a’r straeon sy’n bwysig yn eu rhan arbennig nhw o’r byd. Ymhlith y llefydd gafodd sylw yn y gyfres gyntaf roedd Mecsico, De Corea, Rwsia, Paraguay, Beijing, Miami, Chile, Warsaw…yden, mae’r Cymry wedi crwydro!
Dyma engraifft! http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/43953293
Mae BBC Radio Cymru yn chwilio am fwy o gyfranwyr ac yn awyddus i ymweld â llefydd newydd. Os ydych chi’n Gymro neu’n Gymraes sy’n byw dramor, os ydech chi’n hapus i rannu eich stori neu’n gwybod am rywun fyddai’n fodlon rhannu eu profiadau a phynciau’r dydd gyda chynulleidfa BBC Radio Cymru, yna cysylltwch â Sioned Lewis, cynhyrchydd y gyfres drwy ‘r cyfeiriad ebost Sioned.lewis04@bbc.co.uk
Os hoffech wrando nol ar rai o raglenni cyfres gyntaf Benbaladr, ewch i https://www.bbc.co.uk/programmes/b088rscs/clips

Nodwch ddyddiad y gyfres newydd yn eich dyddiadur heddiw! Mae rhaglen gyntaf Benbaladr yn cael ei darlledu am 12:00 ar Ddydd Gwener y 7fed o Fedi ar BBC Radio Cymru.
Cofiwch bod modd gwrando’n fyw, gwrando ar y we neu ar eich set deledu neu ar yr app iplayer radio, felly ta waeth pa gornel o’r byd rydych chi’n byw ynddi, mae modd gwrando ar arlwy BBC Radio Cymru a Radio Cymru 2 ymhobman!