Dydy Richard a Claire Rees ddim yn ofn o ychydig o waith caled; maen nhw’n credu bod unrhyw beth yn bosibl gyda’r meddylfryd cywir! Ar ôl sefydlu eu hysgol sledio cŵn naw mlynedd yn ôl, maen nhw’n byw’r freuddwyd! Dyma drefnu cyfweliad â Claire i ddarganfod mwy…
Yn gyntaf oll, o ble rydych chi’n dod yn wreiddiol?
Wel, rwy’n dod o Ynysmaerdy ger Llantrisant, ac mae Richard yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr.
Beth oedd eich gwaith yng Nghymru?
Roeddwn i’n gweithio i’r cyngor. Dechreuais allan fel hyfforddwr ffitrwydd ac yna es ymlaen i fod yn rheolwr prosiectau, gan ganolbwyntio’n bennaf ar brosiectau mawr i wneud gydag iechyd a helpu pobl a theuluoedd yng Nghymru i ddod yn fwy ffit ac iach. Rwy’n dal i fwynhau helpu pobl i newid eu ffordd o fyw.
Roedd Richard yn rhedeg ysgol goedwigaeth llwyddiannus yn ôl yng Nghymru. Mae ganddo feddylfryd busnes cryf iawn, ond mae hefyd yn ddi-drefn iawn; fi yw’r un trefnus!
Sut wnaethoch chi gwrdd?
Trwy ein gwaith yn ôl yng Nghymru. Symudodd Richard i Sweden gyda’i wraig a’i deulu ac roeddwn i’n dal i fyw yng Nghymru gyda fy ngŵr. Daeth y ddwy briodas i ben, ac fe wnaeth Richard fy ngwahodd i Sweden ar gyfer ein dêt cyntaf! Chwe mis yn ddiweddarach symudais i yma ac mae’r gweddill yn hanes!
Oedd hi’n hawdd ymgartrefu yn Sweden?
Roedd hi’n heriol iawn, ac mae’n parhau i fod yn heriol. Mae’r ddwy wlad yn brydferth yn eu ffyrdd eu hunain, ond mae’r diwylliant, ffordd o fyw, y tymhorau a’r bobl yn wahanol iawn. Mae’r Cymry yn agored ac yn allblyg iawn ac mae’r Swedeniaid yn fwy mewnblyg, ond ar ôl i chi ddod i’w hadnabod maen nhw’n llawer o hwyl hefyd!
Sut ddechreuodd yr ysgol sledio cŵn?
Symudodd Richard yma gydag wyth ci; mae’n caru cŵn ac rwy’n credu ei fod yn debyg i gi yn y ffordd mae’n cysgu a bwyta! Pan symudais i yma, fe wnaethom ddatblygu’r busnes gyda’n gilydd ac roedd hynny naw mlynedd yn ôl. Rydyn ni’n weithgar iawn; os ydych chi eisiau rhywbeth, mae’r cyfan yn eich meddylfryd. Rydyn ni’n brawf o hynny!
Yw hi mor hudol ag y mae’n edrych yn y lluniau?
Ydy, ond mae hi’n waith caled hefyd! Bellach mae gennym 80 ci. Maen nhw’n dod yn gyntaf; mae hi fel cael 80 o blant oherwydd mae gan bob un ohonyn nhw eu personoliaethau eu hunain. Rydym yn bridio ein rhai ein hunain ac wedi prynu grwpiau o gŵn hefyd. Mae’n costio dros £1,000 y mis i’w bwydo; nid hwn yw’r busnes i fod ynddo os ydych chi eisiau gwneud arian! Yn wahanol i bobl, mae’r cŵn yn cael eu hegni o brotein ac maent angen llawer ohono gan eu bod nhw’n gweithio mor galed. Mae eu lles yn bwysig iawn i ni, a dyna beth mae ein cwsmeriaid yn ei garu amdanon ni; maen nhw’n gwybod bod ein cŵn yn derbyn gofal da.
Pwy yw eich cwsmeriaid?
Mae gennym gwsmeriaid o bob rhan o’r byd, o bob oed a phob gallu. Dyna un o fy hoff bethau am y swydd; rwy’n cwrdd â chymaint o bobl. Rydyn ni wedi cael priodasau yma, grwpiau o gyn-filwyr gyda phob math o anableddau, grwpiau corfforaethol a llawer o deuluoedd. Rydyn ni’n darparu profiad unigryw iddyn nhw; mae rhai pobl yn cynilo am amser hir cyn dod yma ac mae’n fraint bod yn rhan o’u profiadau.
A yw Covid-19 wedi effeithio ar y busnes?
Ydy, mae wedi cael effaith arnom ni a’r diwydiant twristiaeth. Rwy’n rhedeg y gwesty wrth ymyl ein hysgol cŵn, ac mae hynny hefyd wedi cael ei hitio’n galed. Mae Richard wedi bod yn defnyddio ei sgiliau gwaith saer i wneud gwaith arall i sicrhau y gallwn fwydo’r cŵn trwy’r ychydig fisoedd nesaf. Ers ffilmio’r rhaglen ‘Escape to The Wild’ gyda Kevin McCloud, mae ein busnes wedi bod yn brysur iawn ac mae pobl yn archebu ym mhell o flaen llaw, felly rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n iawn.
Rydych chi’n byw yn y gwyllt. Ydy hi’n heriol?
Mae’n rhan o’r atyniad i’n cwsmeriaid ond rydyn ni mewn pentref felly mae gennym bopeth sydd ei angen arnom. Pan oedd Richard a minnau yn sefydlu’r busnes, roeddem yn byw mewn caban pren am y 5 mlynedd gyntaf; doedd gennym ni ddim trydan na dŵr. Roedd hynny’n heriol ond hefyd yn brofiad anhygoel a gwyllt. Dydw i ddim yn credu y gallai pawb ei wneud, ond dydw i ddim yn un i fod yn ofn o her! Wrth i’r busnes dyfu, roedd yn rhaid i ni symud i’r pentref i mewn i fflat gyda thrydan a WiFi!

Ydych chi’n colli Cymru?
Ydw, yn enwedig y bobl a fy nheulu. Mae gan Richard ferch naw oed yno ac mae’n ei cholli hi, yn enwedig eleni; dydy o heb ei gweld am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Rydym yn y broses o drefnu iddi dreulio mwy o amser gyda ni gan ei bod mor anodd i deuluoedd cymysg, yn enwedig yn ystod y pandemig. Mae ymfudo yn rhoi profiadau newydd i chi ac yn cyfoethogi’ch bywyd mewn cymaint o ffyrdd, ond mae’r aberthau yn effeithio cymaint o bobl.
Mae eich acen Gymraeg yn dal yn gryf! Ydy pobl yn rhoi sylwadau arni?
Ydyn, mae ein hymwelwyr rhyngwladol yn ymddiddori ynddo ac mae’r bobl leol yma yn fy adnabod fel y fenyw Gymreig! Mae wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus yn fy hun, ac yn falch o fy ngwreiddiau.
Beth yw eich breuddwyd mewn bywyd?
Rydyn ni’n caru ein bywyd yma. Mae’n waith caled ac yn ystod misoedd y gaeaf does dim llawer o olau dydd, ond rydyn ni wrth ein boddau. Ein breuddwyd yw byw mewn caban pren unwaith eto, ond rwyf eisiau trydan a dŵr sy’n rhedeg y tro nesaf! Rydym o hyd yn addasu ac yn meddwl am syniadau newydd. Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sydd ar y gweill i ni Gymry yn Sweden!

Diolch i Claire a Richard am rannu eu stori a phob hwyl i gyda’r busnes yn Sweden!
Os hoffech chi rannu’ch stori gyda ni, anfonwch e-bost at marketing@walesinternational.cymru ac os nad ydych wedi ymuno â’n teulu Cymreig ledled y byd eto – beth ydych chi’n aros amdano?! Cliciwch yma i gael y manylion llawn a’r cynigion arbennig unigryw gan ein partneriaid busnes!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd