Siwan mewn cariad â Seland Newydd a Kiwi!
Mae

Gynta’ i gyd Siwan, sut wyt ti wedi glanio yn Seland Newydd?!
Wel dwi’n dod yn wreiddiol o Fachynlleth, ac fel merch fferm roedd genai diddordeb mawr yn y diwydiant amaeth o oedran ifanc. Es ymlaen i astudio Amaeth yn Aberystwyth ac ar ôl gorffen fy astudiaethau cefais gyfle i dreulio 3 mis ar fferm yn Seland Newydd. O’n i wedi clywed llawer o bethau da am y diwydiant amaeth yn Seland Newydd felly neidiais ar y cyfle i gael profi’r peth fy hun. Yn ystod yr amser yn y wlad, wnes i gwrdd â Greg, sydd nawr yn ŵr i fi! Dwy flynedd yn ddiweddarach wnes i ddychwelyd i Seland Newydd a phenderfynu ymgartrefu yno a ‘dwi wrth fy modd yma.
Mae bobl yn dweud bod Seland Newydd a Chymru yn debyg. Ydy hyn yn wir?
Dwi’n cytuno bod llawer o debygrwydd rhwng y ddwy wlad. Ffermio, rygbi a dylanwad diwylliannol cryf yw’r tebygrwydd amlycaf, ond mae yna wahaniaethau amlwg hefyd. Mae Seland Newydd yn llawer mwy na Chymru, y ffermydd yn sylweddol fwy, y pellter rhwng trefi yn bellach ac wrth gwrs, y boblogaeth o’i gymharu â maint y wlad yn llawer llai. Mae’r gwahaniaeth hwn yn gwneud bywyd i ymddangos yn llawer arafach ac mae bywyd yn fwy ‘care free’ yn Seland Newydd.
Beth yw dy waith bob dydd?
Rwyf yn gweithio fel Rheolwr Busnes ar gyfer cwmni sy’n rhedeg ac yn ffermio 22,000 hectar. Fi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r busnes a 10 fferm, a gwneud yn siŵr bod targedau ariannol a chorfforol yn cael eu cyraedd. Dwi ‘di bod yn gweithioi i’r cwmni ers 6 mlynedd rwan ac wedi gweithio fy hun i fyny i’r swydd yma. Cyn hynny fues i’n gweithio a’r gyfer cwmni gwerthu gwrtaith am 8 mlynedd.
Ydy’n hawdd i ddod o hyd i swydd pan ti’n symud i Seland Newydd?
A bod yn onest, wnes i ddim ffeindio hi’n annodd o gwbwl i ddod o hyd i waith yn y diwydiant amaethyddol yma, mae digon o gyfleoedd ar gyfer pobl â chymwysterau amaethyddol, hyd yn oed rhai o dramor. Mae’r theori a sgiliau a ddysgwyd yn hawdd i’w trosglwyddo i gyd fynd â systemau Seland Newydd. Dwi wedi bod yn ffodus iawn gyda fy ngyrfa yma a dwi wrth fy modd efo’r swydd sydd gen i rwan.
Ti wedi son am Greg eisioes, beth mae dy ŵr yn gwneud?
Kiwi ydy Greg ac mae e hefyd yn gweithio yn y byd amaeth fel rheolwr fferm. Ryden ni’n byw ar y fferm sy’n hanner awr o siwrne mewn car o’r dref agosaf. Mae o’n ffodus iawn bod y plant a finne wrth ein bodd yn yr awyr agored a’r bywyd fferm, ryden ni’n reit fodlon gyrru mewn ac allan bob dydd ar gyfer gwaith ac ysgol.
Sawl plentyn sydd ganddoch chi felly?
Tri o blant. Jock sy’n 11, Wil sy’n 9 a Ffion yn 6.
Ydy’r plant yn siarad Cymraeg?
Pan roedd y plant yn iau roeddwn i’n siarad Cymraeg adre hefo nhw bob amser. Roedd Jock yn gwybod mwy o Gymraeg na Saeseg ar y dechrau! Dwi’n cofio gorfod esbonio i’w feithrinfa beth oedd ‘dwi isho dŵr’ yn ei olygu! Wrth iddynt ddechrau fynd i’r feithrinfa ac yna i’r ysgol, roedd hi’n anoddach i gadw i fyny gyda’r ddwy iaith, yn enwedig gan mae Saesneg mae nhw’n arfer siarad efo’i gilydd. Bob tro fyddwn ni’n dod nol i Gymru mae nhw’n mwynhau dysgu geiriau newydd a siarad yr iaith unwaith eto.
Ydy’r system addysg yn debyg i Gymru?
Mae’r agwedd ddwyieithog yr un peth ac mae nhw’n cael llawer o gyfleoedd diwylliannol. Un gwahaniaeth mawr yw unwaith y flwyddyn mae’n draddodiad i gael diwrnod Fferm yn yr ysgolion. Mae plant yn cael magu llo neu oen a dod a nhw i’r ysgol. Mae nhw’n arwain nhw mewn cylch a chael eu beirniadu ar sut maent yn arwain, sut y cânt eu cyflwyno, gwybodaeth y plant o fagu’r anifail ac fel rheol, ceir cystadleuaeth galw lle mae’r ŵyn yn cael ei gadael yn rhydd a disgwylir iddynt ddod yn ôl at y plentyn cywir, fel y gallwch ddychmygu gall hwn fod yn ‘chaos’!
Ydy eu magwraeth nhw yn debyg i dy un di?
Nid yw’n hollol wahanol i’m magwraeth i, mae nhw bob amser yn yr awyr agored ac ar y fferm fel o’n i. Mae nhw hefyd yn cael profiad diwylliannol fel ges i, oherwydd mae eu hysgol nhw yn ysgol Maori cryf. Mae digon o gyfleoedd ar gyfer “Kapa haka”, sy’n fath o berfformio diwylliannol Maori, ac mae’n eithaf tebyg i fy atgofion i o berfformio mewn Eisteddfod.
Un peth sydd yn hollol wahanol wrth gwrs ydy’r teithio rhyngwladol, wnes i ddim llawer o hynny pan ro’n i’n blentyn! Bob blwyddyn neu ddwy mae’r plant yn teithio i ochr arall y byd i fy ‘nghartref’ i – Cymru! Mae Jock newydd wneud y daith am y 6ed tro! Mae’n nhw’n lwcus iawn o gael y profiad mor ifanc, mae nhw wedi hen arfer rwan ac yn gwybod yn iawn be i wneud yn y maes awyr ac ar yr awyren.
Wyt ti’n hiraethu am Gymru?
Dwi di bod adre bob 18 mis – 2 flynedd ers bod yma, ac mae fy rhieni neu fy mrawd neu chwaer a’u teuluoedd wedi ymweld a ni yn rheolaidd. Dwi’n siarad hefo Mam bob wythnos, a gyda Facetime a Skype mae wedi dod yn haws dros y blynyddoedd i gadw mewn cysylltiad. Mae’n neis bod y plant yn gallu eu “gweld” ar y cyfrifiadur neu’r ffôn hefyd. Mae bob amser wedi bod yn anodd iawn pan fo achlysur teuluol arbennig a digwyddiadau nad wyf wedi gallu bod yno, yn ddiweddar bu farw fy Nain, mi roedd yn amser arbennig o annodd heb allu fod yno gyda fy nheulu yn ystod y cyfnod hwn.
Oes yna gyfleodd i gymdeithasu gyda Chymry eraill yn Seland Newydd?
Mae’n anhygoel pa mor aml yr wyf yn dod ar draws rhywun o Gymru neu bobl sydd â chysylltiad gyda Cymru. Mewn cymuned wledig fel hyn, mae’n arferol bod cneifwyr o Gymru yn dod drosodd bob blwyddyn. Mae modryb i Greg yn briod â Chymro o’r De felly roedd eisoes cysylltiad Cymreig o fewn ei deulu sydd wedi bod yn braf. Dwi’n cadw mewn cysylltiad efo ambell i rai o Gymru dwi ‘di cwrdd ers i fi fod yma ac yn trio dal fynny efo nhw bob hyn a hyn, mae bob amser yn braf gallu siarad ‘chydig o Gymraeg.
Ble yw dy hoff le yn Seland Newydd a pham?
Dwi wedi bod yn ffodus i deithio’n helaeth o amgylch y wlad, a pan fydd fy nheulu’n dod draw, mae’n esgus da i archwilio ymhellach. Fel teulu, ryden ni fel arfer yn mynd a’r plant i wersylla mewn ardal wahanol o’r wlad bob blwyddyn ac mae hynny’n wych.
Llyn Taupo yw un of fy hoff lefydd, ryden ni’n treulio llawer o amser yno, taith ryw 2 awr i ffwrdd o ble rydym yn byw (sydd ddim yn bell o gwbwl o ran safonau Seland Newydd!) Ryden ni wedi prynu tŷ haf yno yn ddiweddar, ac mae’n le da i ni fel teulu i ddianc a chael amser i ffwrdd o’r fferm a gwaith. Ryden ni i gyd yn mwynhau beicio, pysgota, caiacio a nofio yn y Llyn. Mae’n le delfrydol!
Hoffai Undeb Cymru a’r Byd ddiolch yn fawr iawn i Siwan am roi blas inni o’i bywyd teuluol yn awyr agored Seland Newydd. Mae bendant ar y ‘bucket list’ rwan a gobeithio ga’i gyfle i nofio yn Llyn Taupo yn y dyfodol agos!
Gan Heulwen Davies, Undeb Cymru a’r Byd.