@Cariad77
Wnes i ddarganfod @cariad77 ar Trydar wedi i ffrind yn y gwaith son wrthai ei fod yn ddyn sy’n gwirioni ar Gymru a’r Gymraeg ac yn byw yn Sweden. Mae ei ffrwd Trydar yn ddigri ac yn llawn pethau difyr, ond hefyd yn portreadu ei gariad at y Gymraeg ac at Gymru. Roeddwn i’n awyddus i wybod mwy, ac yn ffodus roedd @cariad77 aka Richard Mole yn hapus i rannu ei stori gyda ni…

Gyntaf oll, ti’n byw yn Stockholm felly pam es di ati i ddysgu Cymraeg?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ieithoedd ac er fy mod i wedi treulio cyfnod yng Nghymru, ges i ddim cyfle i ddysgu’r iaith tra ro’n i yno, ond ro’n i’n awyddus i wneud gan ei bod yn iaith mor hyfryd ac unigryw.
Pryd oeddet ti’n byw yng Nghymru a pham?
Nid Cymro ydw i, cefais fy ngeni yng Nghaint. Wnes i symud i Gymru er mwyn astudio Ffrangeg a Swedeg ym Mhrifysgol Cymru yn Llanbedr Pont Steffan rhwng 1994 a 1997. Mae’n wlad sydd wedi bod yn agos at fy nghalon i ers hynny. Wnes i ddarganfod y Gymraeg pan es i ar wyliau i ogledd Cymru ym 1988, dwi’n cofio clywed yr iaith yn cael ei siarad mewn siopau ac esboniodd dynes o Lanfair PG beth oedd yr iaith, a’i bod yn hollol wahanol i Saesneg – gwir!
Felly sut es di ati i ddysgu Cymraeg?
Wnes i sylweddoli bod Prifysgol Uppsala yn Sweden yn cynnig cyrsiau sylfaenol yn y Gymraeg a phendefrynnias roi cynnig arni! Wnes i fwynhau’n arw ac ro’n i’n awyddus i barhau. Wnes i ddarganfod cwrs arlein wedyn gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a dwy flynedd yn ddiweddarach wnes i ddychwelyd i Lambed i wneud cwrs Cymraeg dros yr haf.
Mae yna nifer o gyrsiau arlein ac apiau ar gael er mwyn dysgu Cymraeg erbyn hyn, ond sut brofiad yw dysgu yn ynysig?
Mae yna adnoddau gwych ar gael ond mae angen llawer o ddisgyblaeth ac amynedd os ydech chi’n dysgu ar ben eich hunan ac mewn gwlad ble does dim cyfleoedd i ymarfer, fel wnes i! Mae BBC Radio Cymru ac S4C yn adnoddau gwych iawn er mwyn gwrando ar yr iaith o ddydd i ddydd a chlywed beth syn digwydd yng Nghymru ar yr un pryd.
Wyt ti wedi darganfod cymdeithasau Cymraeg yn Sweden?
Na! Mae fy ngwr yn deallt yr iaith ond dyw e ddim yn gallu siarad llawer o Gymraeg. Dwi’n ceisio ymarfer gyda fe beth bynnag! Dwi hefyd yn ymarfer yn wythnosol gyda Llinos o gwmni Gwefus. Ryden ni’n sgwrsio am bethau difyr fel y newyddion a’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru a’r Byd – mae yna llawer o drafod Trump a Brexit ar hyn o bryd! Yn anffodus dwi ddim wedi darganfod cymuned Gymraeg yn Sweden…os oes rhywun allan yna bydden i’n falch o glywed ganddynt!


O ble ddaeth y syniad i drydar yn y Gymraeg @Cariad77 ?
Yn gyntaf, mae’n bwysig i fi ymarfer sgwennu yn y Gymraeg, ac yn ail, mae’n rhoi cyfle i fi gysylltu gyda Chymry Cymraeg ar hyd a lled y byd. Mae’n bwysig iawn bod y Gymraeg yn cael ei gweld ac yn cael ei defnyddio arlein ar y rhwydweuthiau cymdeithasol.

Ti’n trydar am y ffaith dy fod yn mwynhau darllen llyfrau Cymraeg – ydy’n hawdd i brynnu llyfrau Cymraeg tu hwnt i Gymru?
Diolch i’r we, rydw i wedi llwyddo i ddarganfod cyhoeddwyr amrywiol o Gymru a digon o siopau Cymraeg sy’n gwerthu arlein, ac rydw i’n falch o’i cefnogi nhw. Mae gen i a phawb arall ddigon o ddewis o ffyrdd i brynnu llyfrau Cymraeg ac unrhywbeth arall Cymraeg neu Gymreig ryden ni’n dymuno prynnu erbyn hyn, ac mae hynny’n wych i Gymru ac i’r byd.
I fod yn fusneslyd, beth ydy dy waith yn Stockholm?
O’n i’n gweithio mewn banc yma o 2001 nes llynedd, ond penderfynnais roi’r gorau iddi er mwyn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Stockholm. Yr uchelgais yw bod yn ddarlithydd yn y coleg.
Mae’n amlwg o dy gyfrif Trydar dy fod yn mwynhau bywyd yn Stockholm – beth sydd mor arbennig am y lle?
Dwi wrth fy modd yma! Mae’r cyfan yn hawdd ac mae’r safon byw yn uchel iawn. Ryden ni’n talu trethi uchel ond mae’r holl arian yna’n cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau, ysgolion ac i helpu pobl sydd angen cymorth. Gallai Prydain ddysgu gymaint gan Sweden. Mae’n wlad fawr gyda phoblogaeth isel felly mae yma le i anadlu a gymaint o elfennau naturiol i’w mwynhau.

Mae’n amlwg bod Cymru’n agos at dy galon, oes bwriad i ddychwelyd un dydd?
Mae Cymru mor hardd a’r bobl mor groesawgar a chyfeillgar. Mae’r ffaith bod yr iaith
Gymraeg yn bodoli ac yn fyw yn golygu bod gan Gymru hunaniaith arbennig. Roedd fy nghyfnod yng Nghymru yn sbeshal iawn, os byddai’n ymddeol nol i Brydain yna yng Nghymru fyddai’n ymgartrefu, ond yn y cyfamser, byddai’n parhau i ymweld.
Beth yw dy gyngor i bobl eraill y byd sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg?
Ewch amdani, daliwch ati a pheidiwch a bod ofn gwneud camgymeriadau! Dydy’r mwyafrif ohonom ddim yn siarad ein mamiaith yn berffaith felly sdim angen i chi fod 100% mewn ieithoedd eraill chwaith! Mae’n bwysig bod yr iaith yn cael ei siarad a’i gweld felly peidwch oedi – Cymraeg amdani!
Hoffai Cymru a’r Byd ddiolch i Richard am rannu ei stori gyda ni ac am fod yn ysbrydoliaeth i Gymru Cymraeg ac i’r rhai sy’n awyddus i ddysgu. Fel mae’n dweud – ewch amdani! Diolch Cariad!
Gan Heulwen Davies, Cymru a’r Byd