Partneriaid

Cymru a’r Byd: rydym ni’n gymuned sydd â chysylltiadau ledled y byd er mwyn dathlu ein treftadaeth Gymreig, yn ogystal â’n ffordd unigryw o fyw, a lleoliadau!

Mae gennym amrywiaeth o bartneriaid sy’n rhan o’n cymdeithas,  pob un ohonynt â rôl arbennig.

O’n llywydd, Rhys Meirion, i’n pwyllgor dibynadwy, o’n haelodau unigol a chorfforaethol i’n llysgenhadon byd-eang, ein cyfweledigion a chyfranwyr, y cymdeithasau Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg rydym ni’n eu hyrwyddo a’r dysgwyr Cymraeg rydym ni’n cefnogi, mae rhwydwaith Cymru a’r Byd yn tyfu bob dydd ac yn agored i aelodau newydd sydd eisiau ymuno â ni a rhannu straeon, dathlu a mwynhau digwyddiadau Cymraeg, a helpu cadw diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg yn fyw!

Darllenwch ymlaen isod i gwrdd â’n Llysgenhadon ac i ddysgu mwy am ein haelodau corfforaethol, yn ogystal â Chymdeithas y Mis! Ni sydd â’r gronfa ddata fwyaf o gymdeithasau Cymraeg, sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd ac ar gael i’n haelodau yn yr Adran Aelodaeth!

Llysgenhadon

Rydym yn falch iawn o gyflwyno i chi ein llysgenhadon Cymru a’r Byd! Rydym ni’n recriwtio pobl fywiog o’n teulu #CymruarByd i ddod â newyddion y byd i chi fel y mae’n digwydd. Rydym ni’n ddiolchgar iawn i’n llysgenhadon am ymuno â’n gobaith o ymuno Cymry’r byd â’i gilydd.

Dewch i gwrdd â nhw isod:

Mae Liz Millman, Williams gynt, yn deithiwr, yn rhannu ei hamser ar hyn o bryd rhwng Cymru ac Awstralia, yn aros gyda theulu yn Melbourne. Ganwyd tad Liz, John Williams, ym Mhorthaethwy, yn dysgu’r Saesneg yn yr ysgol.

Ymaelododd ag Ysgol David Hughes, ond daeth o hyd i waith yn Lloegr i gefnogi ei fam oedd newydd yn weddw. Er iddi fyw yn Worcestershire, treuliodd Liz bob un o’i gwyliau gyda’i Nain ym Mhorthaethwy, a thyfodd i garu ei threftadaeth Gymreig. Daeth ymddeoliad ag ystod o heriau i Liz, ond hefyd nifer o gyfleoedd, a chychwynnodd ei bywyd teithio.

Mae Liz yn aelod o Glwb Rotari Bangor Gwynedd, a hefyd yn aelod o Sefydliad y Merched Llanfairpwll. Sefydlodd y fenter busnes gymdeithasol Learning Links International, y mae hi’n dal i’w rheoli, sydd â’i lleoliad bellach yng Nghymru, ac mae’n archwilio’r hanes a rennir gan Gymru a gwledydd ledled y byd.

Pan yn Awstralia mae Liz yn gwneud cymaint. Mae hi’n mynd i ddosbarthiadau Cymraeg yn yr Eglwys Gymraeg yn Melbourne, ac yn adfywio’r cysylltiadau rhwng Biwmares (Victoria) a Biwmares (Ynys Môn), ac yn curadu straeon ar gyfer Casgliad y Werin Cymru i brosiect Mewnfudo Newydd.

Mae prif gyswllt arall Liz gyda Jamaica, lle mae hi wedi ymgymryd ag ystod o waith prosiect yng nghymunedau am dros ugain mlynedd, ac yn ddiweddar wedi sefydlu Dolen Jamaica-Cymru.

Fel arbenigwr llenyddol ac ieithyddol, gweithiodd Liz gydag Adran Addysg y Llywodraeth ac Uwch Gomisiwn Jamaica, yn ogystal â chymunedau Jamaicaidd yn y DU, yn archwilio, ac yn y pendraw yn derbyn achrediad i iaith Jamaica. Yn ddiweddar, mae Liz wedi cynnwys beirdd o Jamaica a Chymru i ddathlu eu mamieithoedd drwy gysylltiadau ar sail yr Eisteddfod, sy’n gyffredin i’r ddwy wlad. Rydym yn diolch i Liz am ymuno â ni yn nhaith #CymruarByd!

Mae Aran Jones yn gyd-sefydlydd o’r cwrs poblogaidd SaySomethinginWelsh.com, a gydag Iestyn ap Dafydd dros 10 mlynedd yn ôl.

Magwyd Aran yn nifer o wahanol wledydd, yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Almaen, Portiwgal, Sri Lanka, Malaysia, heb unrhyw Gymraeg, ond wedi ystyried ei hunan yn Gymraeg yn y galon; er na allai ddweud y rheswm pam! Siaradodd ei fam, a fagwyd ger Aberystwyth, Gymraeg hyd 6 oed, ond fe’i collwyd ganddi wedi i’w theulu symud i Loegr i weithio, a phenderfynodd siarad Saesneg yn y cartref wedi iddi gael ei hymosod arni yn yr ysgol.

Astudiodd Aran yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond gadawodd y brifysgol yn gwybod yr un faint o Gymraeg ag oedd yn gwybod cyn astudio, a theithiodd i weithio tramor am weddill ei ugeiniau. Daeth Aran “adref” yn 32 oed a chwblhaodd gwrs Wlpan 4-wythnos yn Aberystwyth, iddo allu siarad “rhywfaint” o Gymraeg. Ymunodd â ‘Cymuned’, carfan bwyso iaith, llety a chymunedau, a theimlodd fod ganddo hunaniaeth bersonol am y tro cyntaf.

Mae’n ystyried ei waith yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i gymunedau Cymraeg, ac yn ddiweddar fe ddysgodd y wers Gymraeg fwyaf ar Radio 2 gyda Jeremy Vine. Gallwch ddod o hyd i gynnwys Aran ar Kindle ac Amazon. Rydym yn falch iawn o’i groesawu fel llysgennad!

Wefan: www.saysomethingin.com

Twitter: @aranjones

Efallai’ch bod chi wedi clywed am Evrah Rose – mae’r bardd llafar yma wedi creu cynnwrf yng Nghymru a thu hwnt yn ddiweddar. Os nad ydych chi wedi clywed amdani, rydym ni’n sicr y byddwch chi cyn bo hir! Mae ei barddoniaeth gynhyrfus wedi’i dangos ar BBC SESH, a gallwch ddod o hyd i’w pherfformiadau egnïol ar-lein ac ar lwyfan yn agos i chi.

O Wrecsam yn wreiddiol, mae Evrah yn angerddol iawn dros ei thref enedigol, ac yn awyddus i rannu’r pethau arloesol sydd yn digwydd yn y dref. Mae Evrah yn fardd cam cymdeithasol ymwybodol sy’n trafod pynciau tabŵ heb ofn, yn defnyddio cymysg o’i phrofiadau hi ei hun, a safbwyntiau pobl eraill.

Yn dechrau ysgrifennu barddoniaeth pan oedd yn 9 oed, mae Evrah bellach yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ac ar fin cychwyn â phreswyl yn Nhŷ Pawb, canolfan adnodd cymuned ddiwylliannol yn Wrecsam.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae hi wedi dod yn fwy poblogaidd, gyda gwaith wedi’i gomisiynu gan y BBC ar gyfer ffilmiau llafar sydd wedi eu rhannu gan BBC 2, 3, 4 a BBC Cymru. Mae Evrah wedi bod yn brif berfformiwr yn sawl digwyddiad llafar ar draws y gogledd-orllewin, ac mae ei chyfuniadau o gerddoriaeth a barddoniaeth wedi’u chwarae gan BBC Radio Cymru fel rhan o BBC Introducing.

Rydym ni’n hapus iawn ei bod yn ymuno â ni fel llysgennad.

Facebook: EvrahRose

Twitter: @evrahrose

Instagram: @evrahrosepoetry

Ein Haelodau Corfforaethol:

Rydym ni’n gweithio gydag ystod o fusnesau sydd â chysylltiadau â Chymru i ddarparu cynigion i’n haelodau – felly peidiwch â cholli allan ar y cynigion arbennig hyn, ymunwch â chymuned Cymru a’r Byd!

Os ydych chi’n fusnes, a hoffech gefnogi Cymru a’r Byd, neu gael eich busnes wedi’i ddangos isod, cysylltwch â ni heddiw.

Ger Y Parc,
Dolerw Park Drive,
Y Drenewydd/Newtown,
Powys
SY16 2BA

 

Tel: 01686 627410