Ysgol Gymraeg Llundain yn dathlu’r 60
Eleni mae’n flwyddyn fawr i ni yma yng Nghymdeithas Cymru a’r Byd, gan ein bod ni’n dathlu 70 mlynedd ers sefydlu’r gymdeithas, ond nid dim ond y ni sy’n cael dathlu pen-blwydd arbennig eleni, mae Ysgol Gymraeg Llundain yn dathlu pen-blwydd yn 60 mlwydd oed!
Mae’n wych i feddwl bod teuluoedd o Gymru sydd wedi ymgartrefu yn Llundain yn parhau i ddewis addysg Cymraeg i’w plant, ac i ddysgu mwy am fywyd yr ysgol arbennig hon, dyma drefnu cyfweliad gyda Sioned Jones, y brifathrawes dros dro.


Gyntaf oll Sioned, sut a phryd wnes di ddechrau gweithio yma yn Ysgol Gymraeg Llundain?
Dwi’n enedigol o Lanberis yng ngogledd Cymru. Ar ôl mynd i’r coleg ges i swydd fel athrawes yn Ysgol Tonyrefail yn ne Cymru, a bues i yno am bron i 4 mlynedd. Roedd fy swydd nesaf ym Mhatagonia! Bues i’n addysgu yno yn Ysgol yr Hendre, am 10 mis i fod, ond wnes i aros am 2 flynedd oherwydd fy mod i wrth fy modd yn clywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad tu allan i Gymru! Ar ol dod adref, wnes i gysylltu gyda’r Ysgol Gymraeg yn Llundain i weld a oedd swydd ar gael, roeddwn i’n awyddus i hybu’r Gymraeg tu allan i Gymru, doedd dim swydd ar y pryd ond ges i swydd yma yn fuan wedyn. Rydw i yma ers 2 flynedd ac yn brifathrawes dros dro.
Faint o ddisgyblion sydd yn yr ysgol a phwy ydyn nhw?
Mae gyda ni 27 o blant yma ar hyn o bryd, ac mae’r mwyafrif yn dod o deuluoedd sydd ag oleiaf un rhiant o Gymru, neu gyda chysylltiad cryf â Chymru.
Beth yw’r patrwm dysgu?
Rydym ni’n dilyn cwricwlwm cenedlaethol Cymru, ond yn cyflwyno’r Saesneg yn gynharach na Chymru, gan mai OFSTED sy’n arolygu’r ysgol hon fel gweddill ysgolion Lloegr, felly mae’n rhaid i ni gyraedd eu gofynion nhw o ran y Saesneg.
Ydy’n annodd i’r plant setlo mewn ysglion uwchradd Saesneg lleol ar ôl bod yma i’r Ysgol Gymraeg?
Na, mae mwyafrif y plant yn setlo i mewn i’r addysg uwchradd Saesneg yn rhwydd iawn. Mae nifer hefyd yn gwneud TGAU mewn Cymraeg ac yn llwyddo’n wych yn yr arholiad. Mae’r ysgol yn aml ddiwylliannol, mae yna deuluoedd sy’n siarad Cymraeg a Saesneg, Cymraeg ac Eidalaidd a Chymraeg ac Almaeneg a mwy. Mae bod yn ddwy neu dairieithog yn gyffredin iawn.
Beth yw’r prif heriau i chi fel ysgol wrth i chi edrych ymlaen at y dyfodol?
Yr arian yw’r prif her, mae hynny’n her i bob ysgol yng Nghymru a Lloegr! Mae teuluoedd yn cyfrannu’n ariannol at yr ysgol ac mae nhw’n gefnogol iawn i’r ysgol ac yn awyddus i weld yr iaith yn ffynnu yma yn Llundain.
Pwy yw’r staff?
Mae gyda ni bump aelod o staff llawn amser a dau rhan amser. Mae nhw unai’n dod o Gymru neu a chysylltiad cryf a’r wlad. Mae nhw i gyd yn frwdfrydig dros yr iaith ac yn awyddus i roi profiad Cymreig i’r plant.

Sut fyddwch chi’n dod o hyd i adnoddau Cymraeg ar gyfer yr ysgol a’r teuluoedd?
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn dod yma bob blwyddyn i arddangos a gwerthu llyfrau ac adnoddau addysgol i ni ac i’r teuluoedd, felly mae’n hawdd i gael gafael ar yr adnoddau diweddaraf. Mae’n hawdd inni archebu a chlywed am y nwyddau diweddaraf arlein hefyd.
Ydy’r disgyblion yn ymweld â Chymru?
Mae nifer o’r teuluoedd yn dychwelyd i Gymru neu’n ymweld a Chymru yn gyson. Ryden ni hefyd yn trefnu taith i wersyll yr Urdd yn Llangrannog bob blwyddyn ac mae’r rheini’n cael dod hefyd! Rydym ni i gyd wrth ein bodd yn dod ‘adref’ i Gymru!
Mae wedi bod yn flwyddyn o ddathlu ond oes unrhyw ddigwyddiadau pellach ar y gweill?
Oes! Ar y 27ain o Hydref byddwn yn cynnal cyngerdd mawreddog gyda chorau meibion unedig Llundain a’r unawdwyr Glenys Roberts a Huw Rhys Evans, dan arweiniad Pat Jones Chwilog. Mae’r cyfan yn digwydd yng Nghapel Jewin ac mae’r disgyblion yn gyffrous iawn i gymryd rhan yn y noson. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan
www.ysgolgymraegllundain.co.uk

Diolch o galon i Sioned Jones am ei hamser. Mae’n siwr eich bod chi fel pob un ohonom yma yng Nghymdeithas Cymru a’r Byd yn dymuno pen-blwydd hapus a hir oes i Ysgol Gymraeg Llundain.
Gan Heulwen Davies, Cymru a’r Byd