Mae Croeso Cymreig Cynnes iawn yn eich Aros Chi!

The Chicago Tafia Welsh Society members

YMUNWCH Â’N TEULU NI!

Mae pob teulu yn cynnwys amrywiaeth o unigolion ar draws y byd, a’n teulu   ninnau yn ddim gwahanol!   Mae gennym ni fyfyrwyr yn astudio mewn prifysgolion rhyngwladol – yn chwifio’r Faner o’u lletyau myfyrwyr, oes. Mae ‘na rieni yn gofalu bod eu plant yn derbyn y rhodd o Gymreigrwydd i’w cychwyn ar eu taith bywyd eu hunain.

Mae na Deidiau a Neiniau sy’n arbenigwyr ar rannu cyfoeth o storiau am Gymru i’r rhai iau ac , yn wir rai hen-deidiau a neiniau ..sy’n chwedlau Cymreig eu hunain.  Pwy bynnag ydych chi, lle bynnag yn y byd yr ydych chi’n byw rydym yn hyderus y byddwch chi wrth eich bodd yn dod yn rhan o’n teulu ni!

Fel Un O’n Teulu Ni Ein Hunain.

Yn y teulu byddwch yn un ohonom o’r dechrau, rydym o ddifrif yn gwerthfawrogi ein haelodau. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy gyfrwng ein cylchlythyr misol. Nid ydym yn awyddus i wybod eich symudiadau dyddiol na manylion eich bywyd personol ond, os bydd gennych newyddion i’w rhannu, cwestiwn neu broblem y teimlwch y gallwn eich helpu ynglŷn â nhw cysylltwch efo ni ac fe ddown yn ôl atoch gynted ag y gallwn. Mi wrandawn arnoch ac os bydd gennych chi syniadau mi geisiwn eu cynnwys yn ein gwaith….a diolch i chi ymlaen llaw.

Rydym eich angen Chi!.

Er nad ydym am weiddi dros y lle am y peth, rydym yn dibynnu ar aelodaeth er mwyn gallu cyflawni’n gwaith fel mudiad. Nid ydym yn derbyn nawdd ariannol ond oddi wrth gyfeillion, ac mae’r rhan fwyaf o lawer o’r tîm diwyd yn gweithio’n hollol wirfoddol, lawer ohonynt  ers blynyddoedd lawer. Bydd unrhyw beth â allwch ei wneud i’n helpu ni i weld y ‘teulu’ yn tyfu a datblygu ymhellach yn golygu’r byd i ni.

 

Dewisiadau Aelodaeth.

Er ein bod ni’n dibynnu’n helaeth ar yr arian a ddaw i mewn drwy’r tâl aelodaeth, nid ydym yn awyddus iddo fod yn rhy uchel. Rydym yn awyddus iddo fod cyn ised ag sy’n bosibl er mwyn i’r ‘teulu’ barhau i dyfu a ffynnu. Mae gennym dri dewis ‘aelodaeth’ yn amrywio o £15 y flwyddyn i fyfyrwyr – sy’n agos at bris rhyw ‘bizza a pheint’  yng Nghymru heddiw i £40 y flwyddyn i fudiadau a chymdeithas. 

 

 

 

Fel rhyw ‘ddweud diolch’ bach i chi rydym wedi creu partneriaeth rhyngom â rhai busnesau Cymreig amlwg fydd yn galluogi ein haelodau unigol sy’n oedolion i gael digownt o 10% bob tro y byddant yn siopa, neu’n prynu gwasanaeth arbennig ‘ar-lein’. Bydd yn hollol bosibl i chi felly, gael eich tal £25 aelodaeth unigol yn ôl mewn byr o dro, gan wybod eich bod chi wrth wneud hynny yn cefnogi busnesau o Gymru!

Mae ein aelodau unigol yn cael 10% o ostyngiad wrth siopa
neu archebu arlein gyda’r cwmniau canlynol!

Y Pecyn Aelodaeth Unigol.

£25 y flwyddyn.                                                                                        

Bydd 20% o’ch tâl ymaelodi yn cael ei gyflwyno i ‘achosion da’. Un copi o’n cylchgrawn dwyieithog, Yr Enfys yn rhad ac am ddim deirgwaith y flwyddyn, drwy’r post.                                                          

10% i ffwrdd oddi ar y pris wrth i chi siopa, neu archebu gwasanaeth ar-lein gan ein partneriaid busnes.                                                              Cylchlythyr bob mis gyda newyddion o Gymru a’r byd.                 

Gwahoddiad i ddigwyddiadau ‘Aelodau yn unig’  a chyfleoedd rhyngweithio.  ‘Croeso a phaned’ / tamaid ysgafn  ‘am ddim’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol.                                 

Ymunwch â ni!

 

Y Pecyn Aelodaeth i Gymdeithasau.

£40 y flwyddyn.                                                                                                    

Tri copi o’r Cylchgrawn ‘yr Enfys’ drwy’r post deirgwaith y flwyddyn.   Cylchlythyrau  misol gyda newyddion o Gymru a’r byd.                                      Cyfle i rwydweithio â Chymdeithasau o wledydd eraill.                            

Ymunwch â ni! 

 

Y Pecyn Aelodaeth i Fyfyrwyr.

£15 y flwyddyn yn unig.      

Un copi digidol o Gylchgrawn (dwyieithog) ‘yr Enfys’ deirgwaith y flwyddyn.    

Cylchlythyrau misol gyda newyddion o Gymru.                                                  

Cyfle i gyfrannu i’n cylchgrawn ac i’n blogiau.                                               

Ymunwch â ni! ….. Heddiw!  

Cwestiynau?       Awydd dod yn bartner busnes tybed?

…..  Anfonnwch e-bost i’n Tîm Marchnata ar :

          marketing@wales international.cymru

Cysylltu â ni…

Rydym yn griw hapus, sydd bob amser mor falch o glywed gan ein cynulleidfaoedd, yma yng Nghymru a thros y byd.                                             Mae’r rhan fwyaf o’n tîm yn byw yma yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n rhan-amser ond mae’r mwyafrif mawr yn gweithio’n wirfoddol. Felly, cadwch mewn côf yr amrywiol  ‘amserau’ ar gloc y byd, y gwyliau banc, y gwyliau diwylliannol a’r gemau rygbi ac ati…. sy’n golygu y gallai, weithiau, bod ymateb yn cymryd peth amser i’ch cyrraedd.

Cyfeiriadau E-Bost

Ysgrifennydd: –   Gwenith Elias.  secretary@walesinternational.cymru

Cadeirydd – Stuart Cole chair@walesinternational.cymru

Golygydd  Cylchgrawn ‘yr Enfys.’- Nia Davies Jones. enfys@walesinternational.cymru

Rheolwraig Marchnata a Chyfathrebu – Heulwen Davies.  marketing@walesinternational.cymru

 

Cyfeiriad Postio.                                                                                                       

Undeb Cymru a’r Byd.    PO BOX 275      Llanrhystud,   Cymru. SY23 5AW

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol!

Facebook@cymruarbyd

Twitter@cymruarbyd

Instagram@walesinternation

 

 

Opsiynau Talu



Payments to Wales International/Cymru a’r Byd can be made easily in any of the following ways:

UK bank cheque

In sterling drawn on any UK Bank and made out to “Undeb Cymru a’r Byd”. Please note we cannot accept payment by cheques drawn on banks outside the United Kingdom. Please send cheques to: xxxx yyyy, Ger Y Parc, Dolerw Park Drive, Y Drenewydd/Newtown, Powys SY16 2BA

Credit card

VISA, MASTERCARD or SWITCH

BACS transfer

Account no: 07345671
Sort Code: 53-70-31

Ymunwch â ni heddiw!

Bydd eich mynediad I’r ardal Aelodau yn cael ei weithredu wedi i’r taliad gael ei brosesu. Gall hyn gymryd hyd at 3 diwrnod gwaith.

Members of St David’s Welsh Society of Singapore