Mae’r Gymraes Abbie Ryan yn creu tonnau draw yn Nubai ac wedi cychwyn menter yn ddiweddar sydd am alluogi iddi dreulio mwy o amser adref yng Nghymru. Cawsom gyfarfod Zoom i holi hi am ei chynlluniau…
Yn gyntaf oll Abbie, mae hi’n edrych yn chwilboeth ar dy falconi, beth ydi’r tymheredd?
Mae hi’n ganol y 30au! Sori, dwi ddim eisiau digalonni’r darllenwyr, ond dyma’r tywydd arferol yma. Ryden ni’n ei gymryd yn ganiataol yma, tra mae fy nheulu yn gwneud y gorau ohoni pan yn braf adref yng Nghymru.
Felly Cymru ydi adref yn dal i fod, lle ges di dy eni a magu?
Merch Llantrisant ydw i, o De Cymru. Roedd Dad yn un o sefydlwyr cyntaf Edwards Coaches ac roedd Mam yn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru. Mae fy nheulu a fy chwaer dal i fyw yno, mae’n athrawes mewn ysgol gynradd Gymraeg.
Wyt ti’n siarad Cymraeg?
Ydw. Es i Ysgol Rhydfelen a dwi’n siarad Cymraeg gyda fy chwaer, ac yn trio fy ngorau gyda gweddill y teulu, er dwi’n gweld hi’n anodd weithiau gan nad ydw i’n siarad llawer o Gymraeg yma yn Nubai.

Sut a pham es di draw i Dubai?
Nes i ddod yma ar fy ngwyliau pan oeddwn i tua 16, a ges i’r teimlad od ‘ma fel fy mod i wedi bod yma o’r blaen. Dwi methu egluro yn iawn, ond yn ystod y gwyliau roedd popeth yn teimlo fel Déjà vu. Roedd y diwylliant yn teimlo’n gyfarwydd ag o’n i’n teimlo fel fy mod i fod yma. Nes i symud yma yn 2017, wrth i fi droi yn 30, er mwyn rhoi hwb i fy ngyrfa.
Beth oeddet ti’n ei wneud ar y pryd?
O’n i wedi astudio Rheoli Digwyddiadau yng Nghaerdydd ac wedi bod yn gweithio gyda asiant PR ac wedyn gyda’r Celtic Manor, ble o’n i wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid egsliwsif a phobl oedd yn hoffi bywyd o safon uchel. Wnaeth hynny fy ysbrydoli. Nes i symud ymlaen i weithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru ac o’n i wir wrth fy modd yno, roedd yn un o fy hoff swyddi gan fy mod i’n cael teithio o amgylch Cymru gyfan yn cyfarfod pobl o bob math, yn annog nhw i roi gwaed, ond o’n i eisiau datblygu fy ngyrfa ymhellach.
Sut nes ti ganfod gwaith yn Nubai?
Nes i ddanfon ychydig o geisiadau am nifer o swyddi ac o’n i’n ddigon ffodus i gael swydd fel Rheolwr Datblygu Busnes i Bishop Design, cwmni dylunio a phensaernïaeth adnabyddus yma sy’n gweithio gyda nifer o westai fel y Ritz Carlton ymysg eraill.
Mae’n swnio’n hudolus iawn! Beth oedd y gwaith yn ei olygu?

Mae’r cwmni yn arwain popeth o’r cychwyn nes y diwedd, o ddylunio bwytai newydd i’r profiad llawn nes roedd y cwsmer cyntaf yn camu mewn. Roeddwn yn rheoli’r broses i gyd, roedd yn lot o gyfrifoldeb rheoli’r holl dimoedd, a delio gyda’r cleientiaid i sicrhau ein bod yn darparu popeth roeddynt yn eu ddisgwyl a mwy. O’n i’n caru’r gwaith, roedd yn gyffroes iawn ac o’n i’n caru bod aelodau o’r tîm yn dod o bob rhan o’r byd.
Beth wyt ti’n ei wneud bellach?
Dwi’n gweithio i gwmni Creneau. Un elfen o fy ngwaith ydi gweithio ar Fasnachfraint Belgium Beer Café. Mae gyda ni 18 dros y byd bellach o Efrog Newydd i Ewrop ac ymhellach.

Rwyt ti hefyd wedi lansio menter dy hun yn ystod y cyfnod clo!
Do, y Peninsula Club. Yn wahanol i Gymru a’r DU, pan gyrhaeddodd Cofid-19 yma, doedd dim pecynnau cefnogi ar gael i helpu pan gaeodd y gweithle. Roedd yn rhaid i mi feddwl ar fy nhraed! O’n i wedi bod eisiau datblygu ffordd o ddod a’r Cymry yn Nubai at ei gilydd, ac i hyrwyddo cynnyrch Cymru yn ogystal â Chymru ei hun.
Dyma lansio ‘The Peninsula Club Lunch’ ac mae’n frand ‘lifestyle’ sy’n galluogi’r Cymry ac eraill o’r un meddylfryd i rwydweithio yma yn Nubai. Ryden ni’n trefnu nosweithiau, ciniawa clwb a digwyddiadau ‘pop up’. Mae’r prif hwb yma yn y Mina Brasserie yng ngwesty’r Four Seasons yma yn Nubai, lleoliad gwych ac mi ydw i’n falch ofnadwy o fod wedi partneru gyda nhw i gynnal y Peninsula Club yma yn y Dwyrain Canol.
Ydi hyn ar gyfer pobl busnes cyfoethog Cymreig yn unig?
Does dim rhaid bod yn Gymreig, ond mae’n sicr wedi ei anelu tuag at gwsmeriaid sydd yn mwynhau’r pethau gorau mewn bywyd. Mae’n le i fwynhau bwyd da, cerddoriaeth a mwy gyda phobl o’r un meddylfryd. Dwi’n awyddus i arddangos a hyrwyddo’r cynnyrch gorau o Gymru yn ogystal â’r diwylliant. Dwi’n rhoi 2.5% o’r incwm i elusennau Cymreig. Mae hyn yn rhywbeth mae nifer o bobl Islamaidd yn eu wneud ac rwy’n awyddus i wneud yr un peth, dwi’n hoffi rhoi yn ôl.
Ti’n bwriadu cynnal rhai yng Nghymru hefyd
Ydw! Dwi wedi partneru gyda’r Celtic Manor a byddwn ni’n cynnal dau benwythnos ‘Peninsula Club Lunches’ yn fisol yno o fis Awst. Byddan nhw’n digwydd ar y penwythnos cyntaf a’r trydydd o bob mis. Byddai’n hedfan adref i fynychu rhain.
Dwi’n ofnadwy o falch i gael y cyfle i dreulio mwy o amser adref gyda fy nheulu. Fel arfer dwi’n dod adref unwaith y mis ond mae Cofid-19 wedi rhoi stop ar hyn. Adref yn Llantrisant bydd fy mhencadlys Cymreig. Mae fy chwaer wedi cae merch fach yn ddiweddar o’r enw Elodie a dwi wrth fy modd i fod yn Fodryb! Dyma reswm arall pam dwi’n awyddus i dreulio mwy o amser yng Nghymru.
Pam wyt ti mor awyddus i roi Cymru ar y map?
Pan dwi’n dod a ffrindiau o Dubai adref i Gymru maen nhw wedi’u syfrdannu gyda’i harddwch a faint sydd gan y wlad i’w chynnig. Maent hefyd mewn sioc gan fod neb yn gwybod am hyn. Roeddynt wedi’u mesmereiddio wrth gerdded i fyny Pen y Fan a chrwydro o amgylch Ddinbych y Pysgod. Mae hyn wedi fy ngwneud i’n fwy angerddol byth am hyrwyddo’r hyn sydd gennym i’w gynnig yma. Mae wedi fy ysbrydoli i brynu cartref yn Ninbych y Pysgod un diwrnod hefyd!

Hoffai Cymru a’r Byd ddiolch i Abbie am rannu ei stori ddifyr gyda ni, a dymunwn pob llwyddiant iddi yn ei menter rhyngwladol newydd. Rydym hefyd yn gyffroes i rannu’r newyddion fod Abbie yn un o’n Llysgenhadon newydd ni yn Dubai! Bydd Abbie yn ein helpu drwy ein diweddaru gyda newyddion am y Cymry yn Dubai a sicrhau bod y Cymry yno’n cael y newyddion diweddaraf ganddom ni!
Os hoffech fod yn Llysgennad i Cymru a’r Byd yn eich rhan chi o’r byd, e-bostiwch ni ar marketing@walesinternational.cymru i ddarganfod mwy!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd