Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Aran Jones, sylfaenydd SaySomethinginWelsh yw ein llywydd newydd. Trosglwyddwyd yr awenau gan ein cyn-lywydd, y tenor Rhys Meirion, yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGen. Dyma drefnu sgwrs gydag Aran i ddysgu mwy am ei gefndir rhyngwladol a’i uchelgais fel llywydd.
Llongyfarchiadau mawr ar dy benodiad a chroeso. Sut wyt ti’n teimlo?
Diolch yn fawr! Dwi’n gyffrous ac yn edrych ymlaen at ddechrau go iawn, ond hefyd yn teimlo’r cyfrifoldeb. Fel unigolyn dwi wastad yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Beth wnaeth dy ddenu at y rôl?
Dwi’n aelod o Cymru a’r Byd ers sawl blwyddyn ac yn credu bod gwaith y gymdeithas yn hollbwysig, yn enwedig wrth ystyried sut gall y Cymry byd eang gadw cysylltiad yn y byd digidol. Pan ges i’r alwad i ddweud fy mod i wedi cael fy enwebu roedd hi’n fraint, gan fy mod i mor brysur, roedd rhaid i fi drafod gyda Catrin y wraig cyn cytuno. Ei hymateb hi yn syth oedd bod yn rhaid i fi dderbyn, bod yn rhaid i mi ganfod yr amser i wneud y rôl hon. Mae hi, fel fi yn gweld gwerth Cymru a’r Byd.
Beth yw dy uchelgais di yn y rôl?
Y cam cyntaf i fi yw dod i adnabod y tîm, y gwirfoddolwyr rhyngwladol, a dysgu mwy am y gweithrediadau o ddydd i ddydd. Hoffwn i ddefnyddio fy arbenigedd yn y byd digidol i sicrhau bod Cymru a’r Byd yn gallu cyfathrebu a chydweithio yn effeithiol. Bydd hyn yn hanfodol yn ystod y ddegawd nesaf er mwyn sicrhau bod cymdeithasu pwysig fel hon yn rhan o’r ‘sŵn mawr’.
Fel unigolyn, mae gen ti gefndir rhyngwladol.
Oes! Ges i fy ngeni yn Epsom yn Lloegr, wedyn fuon ni’n byw efo Nain a Taid yng Nghwm Cynllwyd ac yna’r Felinheli cyn symud i Guilford, Dusseldrof, yr Algarve, Sri Lanka a Kuala Lumpur! Ro’n i wastad eisiau dod ‘nôl adref i Gymru. Yn 15 oed wnes i symud adref at y teulu yn Nhre’r Ddol ac wedyn es i’r Coleg yn Aberystwyth.
Bues yn gweithio dramor fel athro hefyd!
Do, wedi graddio es i ddysgu Saesneg yn Zimbabwe a Dubai, dyna’r profiad o weld pobl yn dysgu iaith o’r newydd. Pan o’n i’n 32, wnes i benderfynu bod hi’n amser tyfu fyny a dod ‘nôl i Gymru!
Beth sbardunodd SaySomethinginWelsh?
O’n i’n teimlo cywilydd nad o’n i’n gallu siarad Cymraeg, felly pan wnes i ddychwelyd adref ‘am byth’ wnes i benderfynu bod hi’n bryd dysgu. Dwi wedi ceisio fy ngorau i ddysgu nifer o ieithoedd wrth fyw mewn gwledydd amrywiol, ond wedi methu bob tro. Pan wnes i’r cwrs Wlpan dwys yn Aberystwyth newidiodd popeth i fi, wnes i ddysgu mai nid dim ond dysgu geiriau oedd yn bwysig, mae’n rhaid dysgu i siarad yn fuan yn y broses, roedd yn wych. O’n i’n awyddus i ddatblygu system fyddai’n sicrhau bod pobl eraill yn medru dysgu’r Gymraeg o unrhyw le ac mewn modd hwylus.
Sawl un sydd wedi dysgu Cymraeg gyda chi?
Wnaethon ni lansio SaySomethinginWelsh yn 2009 ac erbyn hyn mae tua 60,000 o bobl wedi cymryd rhan ar lefelau gwahanol.
Waw, mae hynny’n anhygoel! Ble yn y byd mae nhw?
Ymhobman! Mae’r mwyafrif yn Lloegr, Cymru a Gogledd America ond mae yna glystyrau yn Ne Affrica, Y Wladfa, Seland Newydd, Awstralia a’r Almaen.
Beth sy’n ysbrydoli’r awydd i ddysgu Cymraeg?
Cysylltiad teuluol yw’r prif reswm i’r mwyafrif, ond mae yma nifer o resymau difyr eraill, mae yna fwy o chwilfrydedd am y Gymraeg nag yr ydym ni fel Cymry yn ei ystyried. Mae ‘na griw mawr o ddysgwyr wedi dysgu’r Gymraeg gan eu bod nhw’n hoff o lyfrau Susan Cooper, sy’n defnyddio geiriau Cymraeg yn ei llyfrau! Mae yna nifer o Saeson yn Lloegr eisiau dysgu oherwydd eu bod nhw’n dod i Gymru yn aml, ac maen nhw o’r farn ei bod hi’n gwneud synnwyr i ddysgu’r iaith. Mae yna nifer yn mwynhau’n hanes a’n cerddoriaeth ac wedyn eisiau dysgu Cymraeg. Mae gennym Eidales sy’n hoff o ganeuon Datblygu, ac felly wedi dysgu’r iaith er mwyn deall y lyrics! Rydan ni’r Cymry’n dueddol o feddwl yn negyddol am bethau fel y diffyg diddordeb ymhlith y mewnfudwyr, ond o edrych tu hwnt i hynny mae yna ddiddordeb mawr yn y Gymraeg am nifer fawr o resymau ac mae hynny’n bositif a chyffrous.
Ydy targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn gyraeddadwy?
Yn sicr. Dwi’n credu bod targed o 10 miliwn yn gyraeddadwy, go iawn.
Pam bod SaySomethinginWelsh mor llwyddiannus?
Yn syml, oherwydd bod ni’n annog pobl i siarad yr iaith o’r dechrau. Wrth ddilyn trywydd traddodiadol mae fel pe bai unigolyn sydd eisiau gwneud pres-yps yn mynd i ddosbarth gwyddoniaeth a theori am 6 mis cyn mynd ati i wneud pres-yp am y tro cyntaf. Gyda’n dull ni ti’n gwneud pres-yp ar y diwrnod cyntaf ac yn adeiladu ar hynny ymhob gwers. Mewn hanner awr o wers SSIW ti’n dweud 200 o frawddegau, mewn dosbarth neu wers draddodiadol bydd hyn yn gallu cymryd misoedd. Mae’n bwysig bod y profiad yn un sy’n magu hyder ac yn rhoi’r gallu i’r dysgwyr i fynd ati i ddefnyddio’r iaith yn ymarferol.
Mae mwy o bobl wedi bod dysgu Cymraeg ac ieithoedd eraill yn ystod y cyfnod clo, ydach chi wedi profi’r cynnydd?
Do. Er fy mod i’n llongyfarch y rhai sydd wedi yn llwyddo i ddysgu pethau newydd yn ystod y cyfnod yma, dwi yn poeni. Mae pandemig rhyngwladol yn ddigon o straen ynddo’i hun, a dydy straen a dysgu ddim yn gyfuniad da. Bydd nifer wedi ceisio dysgu Cymraeg ac wedi methu yn ystod y cyfnod yma, dwi’n poeni na fyddan nhw’n awyddus i drio eto. Ddylai pobl ddim teimlo methiant na phwysau ychwanegol ar hyn o bryd.
Mae Cymru a’r Byd wedi bod yn gwneud arolwg o hoff eiriau Cymraeg ein dilynwyr, beth yw hoff air Cymraeg ein Llywydd newydd?
Pendramwnwgl, oherwydd cân Steve Eaves. Hon oedd cân serch Catrin y wraig a minnau.
Diolch o galon i’n Llywydd newydd am rannu ei stori, mae’n amlwg ein bod ni mewn dwylo diogel, profiadol a rhamantus hefyd efallai?! Edrychwn ymlaen at gydweithio gydag Aran.
Os hoffech ddod yn aelod o’n teulu byd eang ewch i’n gwefan i ymaelodi ac i ddysgu mwy am ein cynigion ecscliwsif i’n haelodau.