O harddu cloriau cylchgronau i ail-ddyfeisio ei hun fel cyflwynydd ac ymgyrchydd corff-bositif, mae Jess Davies yn siarad am ei hanturiaethau rhyngwladol a sut mae hi nawr yn gweld Cymru mewn golau newydd.
Yn gyntaf Jess, 149,000 o ddilynwyr ar Instagram? Sut ddigwyddodd hynny?!
Dwi’n gwybod, mae’n wallgof! Dwi ‘di bod ar Instagram ers lansiodd y platfform deg mlynedd yn ôl; doedd dim gymaint o bobl arno ar y pryd felly roedd yn hawdd dechrau adeiladu cynulleidfa.
Sut wnes di ddechrau modelu?
Wnes i ddechrau wneud pasiantau pan oeddwn i yn Ysgol Uwchradd Penglais, Aberystwyth. Ymunais â chystadleuaeth Miss Wales pan o’n i’n 16 oed. Roedd cael fy ngwallt a cholur wedi eu gwneud yn lot o hwyl. Pan symudais i Gaerdydd i astudio Cymdeithaseg, roedd gen i asiant yn Llundain ac aeth y cyfan oddi yno. Ges i gyngor i fynd i mewn i’r ochr glamour oherwydd siâp fy nghorff. Mae gan bobl ragfarn am fodelu glamour, ond roeddwn bob amser yn gweithio trwy asiant a ches fy nhrin yn dda. Ges i lot o gyfleoedd anhygoel hefyd.
Ges di gyfle i deithio’r byd hefyd!
Do! Roedd un o fy shoots cyntaf yn y Bahamas! Dwi ‘di gweithio ar draws America, o Efrog Newydd i LA a Vegas. Dwi hefyd ‘di gweithio yn Sbaen, Mecsico a Bora Bora – roedd hynny’n bendant yn dic ar fy rhestr bwced! Roedd cael fy nhalu i deithio yn fonws hefyd!

Sut oedd bobl yn ymateb i’r ffaith bod ti’n Gymraes?
O’n i’n gobsmacked bod cyn lleied o bobl yn gwybod am Gymru heb sôn am yr iaith. Hyd yn oed yn Llundain doedd pobl ddim yn gwybod llawer amdanom ni. Rwy’n angerddol am Gymru ac wastad yn cymryd y cyfle i siarad am fy nghartref a’n iaith. Roeddwn i’n arfer chwarae ‘Y Gêm Gymraeg’ lle byddai’r modelau eraill yn gofyn imi beth oedd enwau pethau gwahanol yng Nghymraeg. ‘Popty ping’ oedd y ffefryn bob amser – wastad yn gwneud i bobl chwerthin!
Sut allwn ni godi ein proffil?
Mae’n wych gweld Cymru’n cael sylw ar raglenni Netflix fel The Crown ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld Ant a Dec yn cyflwyno I’m a Celebrity o Gastell Gwrych. Y mwyaf o bobl sy’n gweld Cymru ar y sgrin a’r fwyaf rydym yn siarad am ein gwlad, ein treftadaeth a’n iaith, y gorau. Pan oeddwn i yn Boston, roedd pawb yn dathlu Dydd Gŵyl Padrig – mae angen i fwy o bobl gymryd rhan yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ges di dy eni yn Henffordd. Pryd wnes di symud i Gymru?
Pan o’n i’n 6 oed. Roedd fy nhad yn heddwas yn y Met yn Llundain, ond fe symudon ni i Aberystwyth gan ei fod wedi cael cynnig swydd yno. Roedden ni’n byw ym mhentref bach Penrhyncoch a ro’n i’n mynd i’r ysgol Gymraeg lleol, ble ddysgais i Gymraeg. O’n i wrth fy modd yn cystadlu yn yr holl gystadlaethau chwaraeon gyda’r Urdd; ges i go ar farddoniaeth ond roeddwn i’n rybish!

Ti’n gwneud y cyfweliad yma yn y Gymraeg, felly mae o dal efo ti?
Ydy! Dydi fy rhieni ddim yn siarad Cymraeg ag es i i’r ysgol uwchradd Saesneg, ond ar ôl teithio llawer, fe wnes i ail-ddarganfod fy angerdd am yr iaith ac ers ail-ddyfeisio fy hun fel cyflwynydd, rydw i wir wedi mwynhau gweithio yn y cyfryngau Cymreig.
Ydy’r iaith ‘di agor drysau i ti?
Ydy, ac mae wedi fy ngalluogi i wneud rhaglenni a chynnwys sydd ddim fel arfer yn cael ei weld a’i glywed yn Gymraeg, fel eitemau am dungeons rhyw Cymru ar Hansh, S4C! Mae hefyd wedi fy ngalluogi i weld Cymru mewn goleuni gwahanol gan nad oeddwn i wedi gwneud unrhyw beth yn y Gymraeg ers yr ysgol gynradd.
Fy swydd gyntaf oedd cyflwyno rhaglen am benblwydd Merched y Wawr yn 50. Wnaethon ni ffilmio yn yr Eisteddfod Genedlaethol – hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o’r Eisteddfod a Maes B ac roedd hi’n anhygoel gweld yr holl bobl ifanc hyn yn mwynhau diwylliant a cherddoriaeth Cymru, yr un peth pan es i’r Sioe Frenhinol.

Beth arweiniodd ti at fyd cyflwyno?
Dwi wastad wedi bod gyda diddordeb mewn pobl a’r byd adloniant. Rydw i wedi bod yn creu cynnwys ar gyfer fy Instagram, flogiau ac ati felly daeth aeth e o fanna. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf dwi wedi bod yn ffodus i ffilmio ar gyfer Hansh, S4C a BBC Sesh, a dwi newydd orffen rhaglen dogfen ar gyfer BBC 3. Dwi ‘di bod yn gwneud gwaith radio i Radio Cymru hefyd. Mae siarad dwy iaith yn rhoi mwy o gyfleoedd i mi.
Rwyt hefyd yn gwneud gwaith anhygoel i hyrwyddo positifrwydd y corff ac iechyd meddwl.
Diolch! Mae hyn yn bwysig iawn i fi. Dwi’n gwybod faint o bwysau sydd ar bobl i edrych mewn ffordd benodol a gall cyfryngau cymdeithasol fod yn greulon. Dwi wedi cael rhai profiadau gwael ar-lein ac am ddefnyddio fy mhroffil i annog positifrwydd. Dwi wedi bod yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfres Instagram pedwar-rhan o’r enw Positivi-tea and Talk, lle dwi a thri arall wedi bod yn trafod iechyd meddwl. Dwi hefyd yn rhannu lluniau ‘go iawn’ ohono fy hun fel y gall pobl weld y fi go iawn.
Sut mae dy ddilynwyr gwrywaidd wedi ymateb i’r Jess Davies ‘newydd’?
Mae hi wedi bod yn gyffrous iawn gweld sut mae fy ngwaith yn helpu dynion i ddysgu mwy am gydraddoldeb rhywiol ac iechyd meddwl. Dwi ‘di cael gymaint o ddynion yn cysylltu yn diolch am agor eu llygaid i’r pynciau pwysig yma a sut mae hynny’n eu helpu magu plant eu hunain – mae hynny’n golygu cymaint i mi. Mae gen i lawer mwy o ddilynwyr benywaidd nawr hefyd felly mae’r cyfan yn gadarnhaol iawn a dwi’n caru sut mae fy nhaith wedi fy arwain yma.

Diolch yn fawr i Jess Davies am ei hamser ac am rannu ei stori anhygoel. Ti’n gwneud pob math o bethau gwych i roi Cymru ar y map! Os ydych chi ddim yn un o’r llu o bobl sy’n dilyn Jess ar lein, @_jessdavies yw ei chyfrif hi!
Os hoffech chi rannu’ch stori gyda ni, anfonwch e-bost at marketing@walesinternational.cymru ac os nad ydych wedi ymuno â’n teulu Cymreig ledled y byd eto – beth ydych chi’n aros amdano?! Cliciwch yma i gael y manylion llawn a’r cynigion arbennig unigryw gan ein partneriaid busnes!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd