O fferm deuluol yng Ngheredigion i fyd Peppa Pig a goleuadau llachar Efrog Newydd, dyma’r arlunydd Jemima Williams yn rhannu ei stori gyda Cymru a’r Byd.

Jemima, cefaist dy fagu ger Aberystwyth – dwed ychydig am dy blentyndod gwledig.
Cefais fy ngeni yn Lloegr, ond symudon ni i fferm deuluol fy nhad yn Nhrefenter, ger Aberystwyth pan oeddwn yn chwe mis oed, felly dwi’n teimlo fy mod yn Gymraes. Roedd hi’n anhygoel i dyfu fyny ar Fynydd Bach yng nghanol nunlle. Roedd fy mamgu a’n nhadcu yn byw drws nesaf, gydag aelodau eraill o’r teulu wedi dotio o gwmpas y mynydd. Mae’r fferm ddefaid wedi bod yn y teulu ers cenedlaethau, ac mae fy rhieni yn dal i fyw yno. Es i ysgol fach Gymreig o’r enw Ysgol Myfenydd, ble dim ond pedwar ohonom oedd yn y dosbarth – roedd hi’n wych!
Ti’n byw yn Llundain bellach, ond wyt ti’n dod yn ôl i Gymru’n aml?
Treuliais i a fy ngŵr a’n merch 22 mis oed, Elodie, can diwrnod yno yn ystod y cyfnod clo – doeddwn i ddim wedi bwriadu gwneud! Ond roedd hi’n wych i dreulio peth amser gydag ein teulu mewn ardal mor brydferth. Roedd hi hefyd yn anhygoel i weld fy merch yn chwarae yn yr awyr agored yn y mwd ac yn rhedeg o gwmpas y fferm fel roeddwn i’n arfer gwneud. Doedd fy ngŵr ddim mor awyddus; mae o’n fachgen o’r ddinas ac yn cael trafferth bod mewn lleoliad mor bell o weddill y byd am gyfnod mor hir!
O ble mae dy ŵr?
Mae Ben yn ganwr a chyfansoddwr o Efrog Newydd. Mae’n rêl Americanwr ac yn berfformiwr naturiol sydd wrth ei fodd a chynulleidfa – felly roedd Trefenter yn ychydig o sioc i’w system! Pan ddaeth o yma am y tro cyntaf, roedd rhaid iddo brynu dillad newydd sbon! Mae o fel arfer yn byw a bod mewn siwtiau llachar o Saville Row, ond dywedais wrtho am brynu esgidiau glaw a jîns!
Sut wnaethoch chi gwrdd?
Roeddwn yn Llundain ar y pryd yn gweithio ar raglenni teledu Peppa Pig. Roedd y ddau ohonom yng Ngwobrau Animeiddio Prydain a gwnaethom gyfarfod yn y parti ôl-sioe! Roeddwn ychydig yn amheus ar y dechrau gan ein bod mor wahanol i’n gilydd, ond rhywsut rydyn ni’n gweithio’n dda! Mewn gwirionedd, gadewais fy swydd er mwyn rhedeg i ffwrdd i America i fod gyda Ben. Roedd hi’n sicr yn brofiad newydd i fi!
Ble yn America oeddech chi’n byw?
Ar y pryd, roedd Ben ar fin dechrau ei daith o amgylch America am 18 mis. Troais i fyny yn ei fflat yn Efrog Newydd tra roedd o’n Massachussetts! Roedd fy nheulu yn meddwl fy mod wedi troi’n wallgof gan fy mod ddim yn rhywun sy’n mentro fel rheol, ond roedd hi’n teimlo fel y peth iawn i wneud. Ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor wahanol fyddai fy mywyd ar ôl hynny.
Beth oedd y prif heriau i ti?
Doedd gennai ddim ffrindiau, teulu na chyfle i weithio gan fy mod yn trafaelio gyda Ben drwy’r amser. Roeddwn i’n eithaf isel fy ysbryd yn ystod y cyfnod hwnnw; roeddwn wedi arfer bod yn annibynnol ond roedd yn rhaid imi ddibynnu arno a gorfodi fy hun i wynebu ei gefnogwyr gyda gwên. Yn ffodus, roedd Ben a minnau dod ymlaen yn dda iawn ac fe wnaethon ni ddiweddu fyny’n priodi yn weddol gyflym!

Wnaethoch chi ymuno â unrhyw gymdeithasau Cymraeg yn America?
Do, wnes i fwynhau mynd i ddigwyddiadau Cymry Efrog Newydd. Fe wnaethant drefnu nosweithiau barddoniaeth, diwrnodau rygbi a phob math o bethau hwyl. Fe wnes i fwynhau dod ynghyd gyda’r Cymry ar Ddydd Gŵyl Dewi hefyd. Roedd hi’n hyfryd i gysylltu â Chymry eraill yn America gan fy mod yn wirioneddol colli fy nheulu – roedd hi’n help enfawr.
Felly, Peppa Pig – sut wnaethoch chi gymryd rhan yn y gyfres animeiddio hon?
Roeddwn i wedi bod am gyfweliad gyda Dreamworks, ond ni chefais y swydd yn y diwedd. Yn ffodus, roedd y cyfwelydd yn lyfli ac fe wnaethant fy nghysylltu ag ABD, y cwmni a oedd yn cynhyrchu Peppa Pig, a chefais swydd gyda nhw fel ‘runner’. Symudais i Lundain ac o fewn tri mis roeddwn yn gynorthwyydd cynhyrchu. Es i ymlaen i weithio mewn llwythi o rolau gwahanol gan gynnwys recordio lleisiau’r actorion ifanc, trefnu nwyddau’r sioe a dylunio rhan o’r parc thema Peppa Pig World! Fi oedd hefyd llais Mummy Pony a gwnes i ychydig o’r gwaith dylunio ar gyfer rhai o’r penodau Cymraeg!
Waw! Mae hynny’n anhygoel! Mae’n rhaid roedd hi’n anodd iawn i ti adael.
Oedd! Fi oedd yr unig aelod o staff llawn amser; roeddwn i yno am bron i naw mlynedd ac oeddwn wrth fy modd, yn enwedig yn gweithio gyda’r plant. Dim ond 4 oed oedd Harley Bird, actores Peppa Pig, pan ddechreuais felly gwyliais i hi’n tyfu i fyny – roedden ni fel chwiorydd. Ond ar ôl bod yn sengl cyhyd, roeddwn yn teimlo bod rhaid imi gymryd siawns a dilyn yr Americanwr golygus hwn, neu efallai fy mod yn difaru peidio am weddill fy mywyd!
Beth ddechreuodd dy ddiddordeb mewn animeiddio?
Cefais fy magu mewn teulu creadigol. Mae fy nhad, Owen Williams, yn arlunydd hunan-ddysgedig, ac roedd fy mam-gu, Pat Williams, yn ddylunydd ffasiwn ar gyfer M&S yn y pedwardegau. Roedd hi’n arfer mynd a fi i ddosbarthiadau darlunio bywyd pan roeddwn i’n ychydig yn rhy ifanc i fod yna! Doeddwn i ddim yn anhygoel yn yr ysgol, ond roeddwn i wrth fy modd yn gwneud a darlunio pethau.

Wnaethoch chi astudio celf yn y brifysgol?
Astudiais Darlunio ar gyfer Animeiddio ym Mhrifysgol Derby. Yn fy mlwyddyn olaf cefais rywfaint o brofiad gwaith gyda Doctor Who yng Nghaerdydd. Roeddwn i wrth fy modd bod ar y set! Cefais gyfle i weithio gyda’r tîm dylunio i osod y set ar gyfer sesiwn yn Nhŷ Tredegar gyda David Tennant.
Rwyt wedi mentro i’r byd cyhoeddi hefyd!
Do! Cynigiodd asiant newydd fy ngŵr gyfle iddo ysgrifennu llyfr plant yn seiliedig ar eiriau un o’i ganeuon. Soniodd Ben fod ei wraig yn ddarlunydd – rwy’n credu roeddent ychydig yn amheus nes iddynt weld fy ngwaith! Enw’r llyfr yw Hibernate With Me, sef y gân a ysgrifennodd i mi pan oeddwn yn teithio gydag ef am yr 18 mis hwnnw. Mae’n gân glyd a chynnes sy’n atseinio gyda phlant. Rydyn ni newydd wneud yr ail lyfr a gyhoeddwyd eleni o’r enw Hundred Feet Tall. Fe wnes i’r lluniau hyn pan oeddwn yn feichiog gydag Elodie! Rydyn ni eisiau gwneud mwy; byddwn i wrth fy modd yn ysgrifennu rhai Cymraeg hefyd.
Beth wnaeth dy ysbrydoli i symud yn ôl i Brydain?
Dod yn fam. Roeddwn i eisiau magu fy mhlentyn rhywle sy’n teimlo’n ddiogel, lle nad oes rhaid i ni boeni am ddiwylliant gwn America, ble mae ymarferion gwn yn normal mewn meithrinfeydd.

Wyt ti am ddod yn ôl i Gymru?
Dwi ddim yn meddwl y gallai Ben ymdopi, ac rydw i wedi hen arfer â bywyd yn y ddinas erbyn hyn. Wrth gwrs, byddai’n ymweld yn aml ac yn gwneud siŵr bod Elodie yn adnabod ei gwreiddiau Cymreig ac yn dysgu rhywfaint o Gymraeg. Dwi bob amser yn dweud ‘nos da’ wrthi cyn iddi fynd i gysgu; mae hynny’n bwysig iawn imi.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Hiraeth. Mae’n atseinio gyda mi gan fy mod yn wir wedi colli Cymru tra roeddwn yn byw yn America. Rwy’n teimlo’n llawer mwy Cymreig a gwladgarol pan rwyf tu allan i Gymru.
Yn olaf, beth yw dy freuddwydion ar gyfer y dyfodol?
Rydw i eisiau creu mwy o bethau! Lluniau, llyfrau a thecstilau. Rwy’n bwriadu cychwyn cwrs sylfaen rhan amser yn astudio tecstilau; rwyf wedi dysgu fy hun sut i wneud hetiau a gwisgoedd, ac rwyf wrth fy modd yn gwnïo dillad ar gyfer Elodie! Rwyf eisiau i Elodie fy ngweld yn gweithio ac yn gwneud yr hyn rwyf eisiau ei wneud yn ogystal â bod yn fam. Rydw i eisiau bod yn arwr iddi; dyna fy mreuddwyd.
Diolch i Jemima am rannu ei stori gyda ni, a phob lwc gyda phopeth! Os hoffech chi ddarganfod mwy, ewch i’w gwefan: www.jemimawilliams.com
Os hoffech chi rannu’ch stori gyda ni, anfonwch e-bost at marketing@walesinternational.cymru ac os nad ydych wedi ymuno â’n teulu Cymreig ledled y byd eto – beth ydych chi’n aros amdano?! Cliciwch yma i gael y manylion llawn a’r cynigion arbennig unigryw gan ein partneriaid busnes!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd