Wedi cynrychioli Cymru yn y byd athletau a serennu ar y sgrin fawr, mae’r Gymraes Roz Richards bellach yn rhedeg busnes ei hun yn Melbourne. Dyma drefnu sgwrs i ddarganfod mwy am ei hanes.
Gynta’i gyd Roz, ble ges di dy fagu?
Caerffili yn ne Cymru. Roedd yn le braf i fyw, roedd gen i a fy efaill Lara lot o ryddid ac roedd ‘na gymuned dda yno. Mae Dad yn dod o Fryste a Mam o Jamaica, mae’n un o’r genhedlaeth Windrush ddaeth yma i Gymru ym 1963. Cafodd Mam hyffoddiant i fod yn nyrs iechyd meddwl gyda’r GIG a chael swydd yng Nghaerdydd. Mae gen i lot o atgofion hapus o Gaerffili, ond yn anffodus fe wnaethon ni brofi hiliaeth ac roedd hynny’n anodd iawn i ni fel plant.
Sut wnaeth hyn effeithio arnat ti?
Roedd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau ni ac yn greulon. Roeddwn i a fy chwaer yn awyddus i wneud gymnasteg, ond roedd y merched ifanc yno mor gas a doedd eu rhieni na’r athrawon yno ddim yn gwneud unrhyw beth i’n helpu ni. Penderfynodd Dad ein tynnu ni allan a mynd a ni i’r clwb athletau, cawson ni groeso mawr yno ac mae athletau wedi dod yn rhan enfawr o fy mywyd i ers hynny.
Sut wnes di ddechrau ymddiddori mewn chwaraeon?
Dad oedd yr ysbrydoliaeth. Roeddwn i’n mwynhau chwaraeon yn yr ysgol ac yn mwynhau rhedeg yn benodol. Pan aeth Dad a ni i’r Newport Harriers o’n i wrth fy modd, ro’n i’n cystadlu yn yr 800 metr ers pan o’n i’n 9 mlwydd oed. Pan o’n i’n 17 oed cefais fy newis i gynrychioli Cymru yn y gamp.
Sut deimlad oedd cynrychioli Cymru?
Roedd o’n arbennig. Pan ti’n blentyn ti eisiau gallu cynrycholi Cymru. Roedd gwisgo’r fest Cymru yn anghygoel ac yn gwneud i fi deimlo mor falch. Roedd y profiad yn un arbennig iawn.
Sut wnes di lanio ar Pobl y Cwm?
Ie, ddim yn gam naturiol! Roeddwn i’n mwynhau actio yn yr ysgol ac fe gefais alwad gan un o fy hen athrawon yn sôn bod Cynhyrchydd Pobl y Cwm yn awyddus i gwrdd â fi. Cafodd y rhan Kim ei ysgrifennu i fi a bues i yno am flwyddyn! Doeddwn i heb dderbyn unrhyw hyfforddiant, ro’n i’n dysgu ar y set!
Oedd gen ti fwriad i barhau dy yrfa yn y maes actio?
Oedd. O’n i wedi gwneud fy ngradd fel hyfforddwr chwaraeon yng Nghaerfaddon, ond wedi bod ar Pobl y Cwm wnes i benderfynnu mynd ymlaen i astudio yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Wnes i ambell rôl fechan ar ôl hyn, ond wnes i ddiwedd fyny yn cyflwyno eitemau ymarfer corff ar Heno ac Wedi 3 – y gorau o ddau fyd!
Roedd dy addysg Gymraeg wedi agor drysau felly?
Yn sicr! Roedd fy Mam wedi penderfynu anfon ni i’r Ysgol Gymraeg er bod fy rhieni yn ddi-Gymraeg. Roedd Mam yn dysgu gyda ni ond wnaeth Dad fyth ddysgu, mae’n Sais i’r carn!

Sut a phryd wnes di lanio yn Melbourne?
Yn 2011, wnes i gymryd amser i ffwrdd i deithio De Ddwyrain Asia. Wnes i syrthio mewn cariad gyda’r lle. Wedi dod ‘nôl adref i Gymru, roedd gen i’r ysfa i fyw dramor. Roedd hi rhwng America ac Awstralia, gan mai dyma’r ddwy wlad oedd yn cynnig cyfleoedd yn y maes chwaraeon. Gan fod gen i ffrindiau yn Awstralia, a gan ei fod yn agosach i Dde Ddwyrain Asia, – Awstralia aeth a hi! Wnes i ddewis Melbourne gan mai dyma ble roedd y mwyafrif o’r traciau athletau! Dwi yma ers 8 mlynedd!
Pa mor hawdd oedd dod o hyd i waith?
Ges i waith yn syth fel ‘sports masseur’ i’r Melbourne Rebels, y tîm rygbi. Ges i hefyd waith gyda’r AFL. Chwe blynedd yn ôl ges i fy ‘head huntio’ gan y Western Buldogs fel y Prif ‘sports masseur’ ag o’n i wrth fy modd! Mae ysbryd a chymuned arbennig gyda’r clwb.
Ti wedi cael dy ethol yn Lysgenad i’r ‘Daughters of the West’?
Do. Mae’n rhan arall o’r clwb sy’n cynnig cymorth i fenywod yn yr ardaloedd o amgylch y clwb. Mae nifer yn profi trais yn y cartref, hiliaeth a phob math o brofiadau heriol. Y bwriad yw rhoi hyder i’r merched a rhoi’r hwb iddynt deimlo’n falch o’i diwylliant. Mae hwn yn achos sy’n agos at fy nghalon i oherwydd fy ngwreiddiau a fy mhrofiad personol o hiliaeth.

Ti bellach yn rhedeg busnes dy hun?
Ydw, yn Mawrth 2019 wnes i lansio’r busnes ‘Roz Sports’ yn cynnig therapi tylino i athletwyr. Mae’n wasanaeth ar glud sy’n golygu gallai deithio gydag unigolion a thimau. Dwi newydd dreulio 4 mis yn gweithio gyda’r AFL ar y Gold Coast, dyna ble maen nhw wedi bod yn hyfforddi oherwydd doedd dim Covid-19 yno a ddim yr un cyfyngiadau ac sydd yn Melbourne.
Faint o Gymry sydd yna yn Melbourne?
Llwyth! Rydw i wedi cwrdd â nifer trwy’r Gymdeithas Gymraeg yn Melbourne, yn benodol yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad! Mae ymgysylltu fel hyn yn bwysig ac yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio eich Cymraeg ac mae hynny mor bwysig i fi. Dwi’n annog pawb o Gymru sy’n symud tramor i gysylltu gyda’r Gymdeithas Gymraeg lleol.
Wyt ti’n hiraethu am Gymru?
Ydw. Dwi’n methu’r tirlun a’r cymoedd. Yn ddiweddar ro’n i’n gyrru o Byron Bay i Mullumbimby ac es i’n emosiynol. Roedd y tirlun fel bod nôl adref yng Nghymru, mor wyrdd a hardd ac roedd y bobl yno mor gynnes. Hoffwn i symud i fyw yno un diwrnod, mae fel Cymru ond gyda lot o haul!
Ai Cymru yw adref o hyd?
Yng Nghymru mae fy nghalon heb os, ond mae adref yn fwy o ble ti’n neud o. Ar hyn o bryd, Awstralia yw adref i fi ond bydd Cymru gyda fi o hyd.

Diolch i Roz am rannu ei stori a phob hwyl i ti gyda’r busnes yn Melbourne!
Os hoffech chi rannu’ch stori gyda ni, anfonwch e-bost at marketing@walesinternational.cymru ac os nad ydych wedi ymuno â’n teulu Cymreig ledled y byd eto – beth ydych chi’n aros amdano?! Cliciwch yma i gael y manylion llawn a’r cynigion arbennig unigryw gan ein partneriaid busnes!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd