Mae Gemau’r Chwe Gwlad wedi cyrraedd: Ble i’w gwylio ledled y byd
Yng Nghymru, mae Chwefror a Mawrth yn rhai o’n hoff fisoedd. Mae Mawrth 1 yn Ddydd Gŵyl Dewi, ond hefyd mae’n adeg un o’n hoff dwrnameintiau – Gemau’r Chwe Gwlad! Yr awyrgylch, y tensiwn, pawb yn tynnu coes; os ydych chi’n Gymro, gallwch deimlo’r teimlad yn gryf! Ond pa ffordd sydd orau i wylio’r gêm os nad ydych chi yng Nghymru ar ei chyfer, ond yn gweld eisiau bod yn rhan o’r cyffro?

Mae Gemau’r Chwe Gwlad yn dechrau gyda’r bois mas ym Mharis yn y Stade de France, ac roedden ni eisiau gadael i chi wybod rhai o’r lleoedd gorau i wylio’r gemau ledled y byd gyda’ch cyd-gefnogwyr. Er y’u henillwyd gan Iwerddon y llynedd, daeth Cymru’n ail, wrth ennill pob un o’r gemau cartref yn erbyn yr Alban, yr Eidal a Ffrainc. Mae nifer yn ystyried (ac yn gobeithio) mai ni fydd y rhai dan orthrwm a all ennill eleni. Gyda gemau yng Nghaerdydd yn erbyn Iwerddon a Lloegr eleni, a dyma fydd twrnamaint olaf Warren Gatland fel hyfforddwr, mae gennym ffydd y gall y bois ennill y teitl fel y gwnaethon nhw yn 2005, 2008, 2012 a 2013!
Dyma gemau tîm Cymru eleni::
- Ffrainc – Stade de France – Dydd Gwener, Chwefror 1
- Yr Eidal – Stadio Olimpico – Dydd Sadwrn, Chwefror 9
- Lloegr – Stadiwm Principality – Dydd Sadwrn, Chwefror 23
- Yr Alban – Stadiwm Murrayfield – Dydd Sadwrn, Mawrth 9
- Iwerddon – Stadiwm Principality – Dydd Sadwrn, Mawrth 16
Lleoedd i’w gwylio:
Y Deyrnas Unedig A fyddwch chi ym mhrifddinas Prydain eleni ar gyfer Gemau’r Chwe Gwlad? Hoffech chi osgoi cefnogwyr Lloegr tan i ni eu curo ar y maes?! Os felly, ymunwch â’ch cyd-gefnogwyr ym Mharc yr Hen Garw (Old Deer Park) – sydd yn gartref i Rygbi Cymreig Llundain – yn Richmond, lle bydd addewid o’r un awyrgylch â Stadiwm Principality ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr!
Opsiwn arall ydy mynd i Ganolfan Gymraeg Llundain. Maen nhw’n croeso cannoedd o gefnogwyr yn y Brif Neuadd, a wnewch chi ddim colli munud o’r gêm gan fod yna sgrîn 170 troedfedd o hyd sy’n dangos y gêm!

Gwlad Belg
Gall Cymdeithas Gymreig Brwsel eich helpu os ydych chi’n ymweld â Gwlad Belg yn ystod Gemau’r Chwe Gwlad eleni! Dewch chi o hyd iddyn nhw yn y dafarn argymelledig, The Wild Geese, yng nghanol Chwarter UE Brwsel. Gydag awyrgylch cyfeillgar, hanes helaeth o gefnogi’r rheini sydd i ffwrdd o’u cartrefi, a detholiad difyr o gwrwau, fe wnewch chi deimlo fel y petaech chi ’nôl yng Nghymru.
Ffrainc
Os ydych chi’n ddigon lwcus i gael tocyn i’r gêm rhwng Ffrainc a Chymru, gallwch chi gwrdd ag aelodau Cymdeithas Cymry Paris am ddiod fach cyn y gêm ger y stadiwm. Byddan nhw’n cyfarfod ar ddiwedd yr esgynfa sy’n cyrraedd o’r ER B station La Plaine Stade de France o 7 o’r gloch ymlaen.
Am weddill y gemau, ewch i’r Scottish Auld Alliance, sef tafarn lle mae aelodau’r gymdeithas yn cwrdd yn aml ar ddiwrnod y gêm.
America
Ydych chi yn Efrog Newydd eleni? The Liberty NYC yw’r lle gorau i wylio’r gêm yn y ddinas! Mae’r bar yma yng nghanol Manhattan ac yn steilus , gyda digonedd o le i wylio’r gêm ar un o’r sawl sgrîn sydd yna.

A beth os ydych chi yn Pennsylvania? Mae Cymdeithas Dewi Sant yn Pittsburgh yn eich gwahodd i ymuno â nhw yn Claddaugh, tafarn Wyddelig tua’r de o Pittsburgh.
Canada
Yn ôl ein ffrindiau yn Toronto, mae dim ond un opsiwn sy’n werth ei ystyried wrth wylio chwaraeon rhyngwladol:
Scallywags – Bwyty/Canolfan chwaraeon yn Rhodfa St Claire / Heol Yonge (St Claire Ave/Yonge Street) yn Toronto.
Yn Vancouver? Mae tafarn o’r enw “The Red Dragon” sy’n lle cyffredin i ddod o hyd i aelodau Cymdeithas Gymreig Vancouver.
Seland Newydd
Rygbi, ffermydd a defaid – mae llawer yn gyffredin rhyngom ni â’r kiwis! Os ydych chi o gwmpas Wellington, argymhellwn eich bod chi’n ymweld â’r Welsh Dragon Bar, yr “unig dafarn Gymreig yn Seland Newydd”, yn ôl nhw. Gyda staff a bwyd Cymreig, ac yn bwysicach oll – cwrw Cymreig! Wnewch chi ddim hyd yn oed sylwi’r gwahaniaeth yn yr amser rhwng Seland Newydd a Chymru!
Yn rhywle arall yn Seland Newydd? Er ei bod hi’n dafarn Wyddelig, mae’r Munster Inn yn dafarn lle mae Clwb Cymreig Auckland yn cyfarfod – a bydd yn ddewis perffaith ar gyfer y gêm rhwng Cymru ac Iwerddon.
Awstralia
Ydych chi o gwmpas Awstralia? Os felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud “iechyd da” yn Cheers, sef tafarn boblogaidd ar George Street yn ei hardal fusnes ganolog, ac yn dafarn leol i Gymdeithas Cymry Sydney. Maen nhw’n dangos y prif chwaraeon i gyd ac mae’n lle da i wylio’r gêm!
Beth am Melbourne? Dewch chi o hyd i’r Melbourne Welsh yn y Crafty Squire. Yn ogystal â gwylio’r gêm gyda chwmni da – cewch chi’r cyfle i flasu cwrwau o’r bragdy yma!

Hong Kong
Os ydych chi’n benderfynol o wylio’r gêm, er gwaetha’r gwahaniaeth amser rhwng Hong Kong a Chymru, rydym yn eich cymeradwyo chi! Rydym ni wedi clywed mai Delaney’s The Irish Pub yw’r lle gorau i aelodau Cymdeithas Dewi Sant Hong Kong gwrdd â’i gilydd, sef tafarn Wyddelig gyntaf Hong Kong a agorwyd ym 1994.
Ydyn ni wedi hepgor lle? Gadewch i ni wybod ble rydych chi’n cwrdd ar Facebook neu Twitter, a gyrrwch luniau o’r holl hwyl a dathlu atom! Tan hynny, bloeddiwch a chefnogwch! Dere ’mlaen bois!