Yn ardal Mohawk Valley yn nhalaith Efrog Newydd y mae dinas Utica. Dyma’r 10fed ddinas fwyaf poblog yn y dalaith, ac mae ganddi boblogaeth amrywiol, sawl coleg a phrifysgol, yn ogystal â llyn mwyaf y dalaith. Mae hefyd yn gartref i Gymdeithas Dewi Sant Utica – cymdeithas sydd yn bwriadu cadw cyfraniadau i ddatblygiad yr ardal gan Americanwyr Cymreig, ac yn hyrwyddo digwyddiadau sy’n unigryw i ddiwylliant Cymru.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Utica yn un o hybiau diwylliannol i gymuned yr Americanwyr Cymreig, wedi i’r ymsefydlwyr Cymreig cyntaf gyrraedd yno ac i sir ehangach Oneida, mor bell yn ôl â 1790. O ganlyniad, mae yna sawl cyfenw Cymreig yn bodoli yn America ar hyn o bryd, megis Parry, Lloyd a Morris – ac mae sawl Llywydd wedi bod â threftadaeth Gymreig hefyd, yn cynnwys Thomas Jefferson a John Quincy Adams! Hefyd mae nifer o sêr Americanaidd sydd â threftadaeth Gymreig: The Osmonds, nofiwr Olympaidd Michael Phelps, a Sinclair Lewis, yr Americanwr cyntaf i ennill y Wobr Lenyddiaeth Nobel.

Mae Cymry Efrog Newydd, a Chymry America, yn rhan fach iawn o’r boblogaeth. Mae oddeutu 1.8 miliwn Cymry yn America, gyda chyfran o’r rhain yn byw yn Efrog Newydd. Dyma ffaith hwyl: mae yna dref yn nhalaith Efrog Newydd, tua’r de-ddwyrain i Buffalo yn Eerie County, o’r enw Cymru!
Cynhaliwyd Wythnos Cymru yn Efrog Newydd eleni, ac mae sawl cymdeithas yn bodoli yn y dalaith, gan gynnwys Cymdeithas Cymry Efrog Newydd, a gallwch ddarllen mwy amdani yma. Mae Efrog Newydd hefyd yn cynnal Gŵyl Ddewi bob blwyddyn – ers 2003. Mae’n ddiwrnod bendigedig, llawn cerddoriaeth, chwaraeon, bwyd, diod a mwy. Mae hyn yn oed podlediad “Cymry Efrog Newydd”, sy’n cysylltu’r Cymry yn Efrog Newydd ac yn rhannu straeon eu llwyddiant. Mae crewyr y podlediad a’u cymuned, sy’n cynnwys gweithwyr busnes proffesiynol, artistiaid ac entrepreneuriaid, yn trefnu cyfarfodydd misol, nosweithiau diwylliannol a mwy er mwyn hyrwyddo diddordebau Cymreig yn Efrog Newydd.
Does dim rhaid i chi fod yn Gymro i ymuno â Chymdeithas Dewi Sant Utica – mae’r grŵp yn agored i’r rheiny sydd â diddordeb yn niwylliant Cymru hefyd. Mae eu gwefan yn dangos llawer o wybodaeth am dreftadaeth Cymru, megis cefndir y genhinen Bedr, a rysáit am bice ar y maen. Mae’r Gymdeithas yn gwneud llawer o waith i Gymru a’r Byd yn Efrog Newydd drwy ddigwyddiadau a’u rhaglen ysgoloriaeth.

Fel grŵp, mae Cymdeithas Dewi Sant Utica yn cyfarfod yn aml iawn: am bicniciau, dyddiau treftadol, partïon a mwy. Mae cyn-ddigwyddiadau eleni yn cynnwys Cymanfa Ganu, diwrnod treftadaeth Gymreig (gydag arddangosiad coginio, sioe cwiltio, cerddoriaeth Gymraeg a mwy), a chodwyd baner Cymru yn Utica City Hall.
Cafodd y digwyddiad olaf yma ei ddarlledu ar raglen newyddion leol – mae Cymdeithas Dewi Sant Efrog Newydd yn gwneud pethau da ar gyfer cynrychioli Cymry Efrog Newydd a Chymru a’r Byd. Eleni, cafodd yr Ŵyl Gerddoriaeth Gymraeg ei ffilmio gan y BBC yng Nghapel Cymraeg yn Enlli (Gorffennaf 7, 1yh) ar gyfer rhaglen deledu arbennig.
Mae’r gymdeithas yn dosbarthu cylchlythyr o bryd i’w gilydd, a gall aelodau roi arian i gadw’r gymdeithas i fynd ar ei blaen, yn ogystal â rhoi arian i gronfa’r ysgoloriaeth. Os ydych chi’n byw yn yr ardal ac â diddordeb o ddod yn aelod o Gymdeithas Dewi Sant Utica, Efrog Newydd am ond $5 y flwyddyn, ewch i’w gwefan i lawrlwytho ffurflen gais! Ar y cyd â Chymdeithas Dewi Sant Utica, mae yna sawl cymdeithas ledled y dalaith ar gyfer y Cymry yn Efrog Newydd: Mae Cymdeithas Gymraeg Gorllewin Efrog Newydd, Cymdeithas Dewi Sant Prifardal Albany, ac Eglwys y Cymry Efrog Newydd.
Mae’n glir gweld bod Cymdeithas Dewi Sant Utica, Efrog Newydd yn gwneud llawer i Gymry Efrog Newydd a Chymru a’r Byd, ac mae’n anhygoel. Am ragor o wybodaeth am y gymdeithas, beth maen nhw’n ei wneud, a sut i ddod yn aelod, ewch i’w gwefan YMA.