Wyth mlynedd yn ôl cafodd Lynne Hughes o Geredigion gyfle i gyfnewid mynyddoedd a glaw Cymru am gamelod ag anialwch Kuwait. Mae hi bellach yn hyfforddwr ffitrwydd a dawns ac yn hyfforddi rhai o Sheikha’s Kuwait. Dyma drefnu cyfweliad i ddysgu mwy am ei stori.

O ble ti’n dod yn wreiddiol?
O Benrhyncoch ger Aberystwyth. Es i Ysgol Penrhyncoch ac wedyn i Ysgol Uwchradd Penweddig.
Ti’n gweithio yn y byd ffitrwydd, o ble ddaeth y diddordeb?
O’n i wastad yn joio ffitrwydd yn yr ysgol ac yn gwneud dipyn o ddosbarthiadau dawns yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Ar ol gadael ysgol, wnes radd BSC Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yng ngogledd Cymru.
Yn 2007, wnes i symud i Gaerdydd er mwyn ehangu fy ngorwelion. Ges i brofiad anhygoel o weithio mewn gym, gweithio gyda Motion Control Dance yn y Bari Rubicon Dance, yn ystod prentisiaeth gyda nhw, ges i gyfle i ddysgu dawns mewn cartrefi’r henoed, ysgolion a phob math o lefydd eraill.

Sut ti’n gweld dawns a ffitrwydd yn elwa pobl?
Mae’r ‘benefits’ ymarferol yn amlwg ond hefyd mae’n magu hyder. Un engraifft gwych ydy pan o’n i’n gweithio gyda Rubicon a ges i gyfle i gydweithio gyda chriw o fechgyn ifanc yn ardal Caerdydd. Roedd yr ysgol a’r pobl o’i hamgylch wedi’i labelu nhw fel ‘bechgyn drwg’, ond yn ystod y gweithdai dawns wnaethon nhw drawsnewid. Achos bod rhywun yn buddosddi amser ynddyn nhw ac yn rhoi’r cyfle iddynt i wneud rhywbeth creadigol wnaethon nhw ddatblygu gymaint fel unigolion.
Sut es di o Gaerdydd i Kuwait?
Cydweithwir mewn campfa yng Nghaerdydd wnaeth sbarduno’r cyfan. Ges i gynnig i weithio gyda fe mewn gwersyll gwyliau exclusive i ‘A Listers’ yn St Lucia ac wedi iddo fe symud i Kuwait ges i gynnig mynd yno. Fel lot o bobl o’n i ddim yn gwybod dim am y lle, dim ond am y rhyfel. Ar ôl bach o google search i weld ble’n union oedd Kuwait ar y map wnes i fynd am y cyfweliad yn Llundain a chael swydd hyfforddwr mewn gwersyll plant i ddechrau. Y bwriad oedd dod nol adref, ond ges i gynnig aros yma. 8 mlynedd yn ddiweddarach a dwi dal yma ac wrth fy modd!

Sut le ydy o i fyw?
Hollol wahanol i Gymru! Mae’n boeth ofnadwy, yn y 50au weithiau ac yn amlwg does dim mynyddoedd. Mae gen i ddigon o ryddid o ran beth dwi’n gallu gwneud, ond dwi’n gorfod meddwl am sut dwi’n gwisgo, mae’n bwysig parchu’r diwylliant lleol. Mae’r celfyddydau yn newydd yma, mae’r tŷ opera yn newydd yma ac mae ambell gyngerdd wedi dechrau digwydd ond mae’n wahanol iawn. Roedd ABBA tribute yna amser Nadolig, roedd llwyth o bobl yn hollol gyffrous, ond doeddwn i ddim yn cael dawnsio yn ystod y perfformiad oedd yn rhyfedd i fi. Roedd grwpiau o bobl yn gwrthwynebu’r cyngerdd o flaen llaw, yn dweud ei fod yn anweddus. Mae’r diwylliant yn wahanol iawn yma a chyfnodau fel y ramadam yn gofyn am fwy o barch a chynllunio, ond mae’n le gret ac yn wlad gyfoethog a llawn cyfleoedd.

Wyt ti wedi cwrdd ag unrhyw Gymry allan yna?
Ydw! Mae un o fy ffrindiau gorau yma yn dod o’r Rhondda! Wnes i recriwtio hi i ddod allan yma i weithio yn y maes ffitrwydd. Does dim cymdeithas Gymraeg yma, mae’n awyrgylch rhyngwladol iawn. Dwi’n gweithio fel hyfforddwraig ffitrwydd mewn resort exclusive yma, ac mae gen i gydweithwyr o Ffrainc, Sbaen, Brasil, Seland newydd, Awstralia, yr Aifft, y Philippines, Pakistan ac India.
Sut mae nhw’n ymateb i Gymru a’r Gymraeg?
Dydyn nhw ddim yn gwybod am Gymru nes bod fi a fy ffrind yn son amdano, ond mae diddordeb ganddynt wedyn. Mae’r ddwy ohonom yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd ac mae nhw’n rhyfeddu at yr iaith, yn enwedig pan ryden ni’n taflu’r geiriau Saesneg mewn yn y sgwrs!

Ti’n dysgu mewn complex ecscliwsif iawn, pa fath o gleientiaid sydd gyda ti?
Ydw, mae’n le anhgoel a’r cyfleusterau yn wych! Dwi’n hyfforddi nifer o bobl gwahanol, pobl fusnes a phobl gyffredin ac yn ddiweddar dwi wedi sylweddoli bod dwy Sheikha ar fy llyfrau! Doeddwn i ddim yn gwybod mai Sheikh’as oedden nhw tan tua dau fis yn ôl achos bod nhw’n y low-key iawn a fi jyst yn gwneud y gwaith achos dwi’n ei fwynhau gymaint. Dwi eisiau helpu pobl felly dwi ddim wir yn edrych mewn i pwy yw’r clients, dwi’n trin pawb yr un peth. Dwi’n credu bod hynny’n un peth sy’n apelio amdanai. Cymraes o Geredigion ydw i ar ddiwedd y dydd! Yn ystod Covid dwi wedi bod yn hyforddi nhw arlein, felly mae’r Sheikha’s wedi bod yn fy lolfa i!
Ydy’n wir bod dawns a ffitrwydd i bob pwrpas yn iaith rhyngwladol a bod modd i ti ddysgu’r sgiliau unrhywle yn y byd?
Ydy. Roedd rhaid i fi feddwl am sut i ddysgu dawns a ffitrwydd yn effeithiol yma. Mae’r diwylliant yn wahanol ond mae modd addasu yn ddigon rhwydd. Mae’n rhaid meddwl am bethau fel gwneud yn siŵr bod y ‘shutters’ lawr am y sesiynau i fenywod yn unig, fel bod y dynion methu gweld i mewn.
Wyt ti’n methu Cymru?
Ydw, ond dwi’n mwynhau bywyd yma. Dwi’n colli’r teulu a ffrindiau ac yn colli lliwiau a’r tymhorau yng Nghymru, mae popeth mor brydferth yno. Dwi’n methu’r glaw hefyd mewn ffordd hollol ryfedd. Mae tirlun Kuwait yn wahanol iawn i Gymru, mae’n sych a phopeth yn beige! Dwi dal yn mynd yn gyffrous pan dwi’n gweld y tywod a’r camelod ond mae nhw’n fyd arall i fynyddoedd gwyrdd Cymru a’r defaid!

Diolch o galon i Lynne am y sgwrs ddifyr ac am roi blas o’r bywyd yn Kuwait. Os hoffech rannu eich profiad gyda’n darllenwyr cysylltwch â ni ar marketing@walesinternational.cymru