Wythnos Cymru yn Llundain, Paris a ledled y byd!
Mae’n debyg mai Dydd Gŵyl Dewi 2019 oedd y dathliad mwyaf o ddiwylliant Cymru erioed
Os oes sôn am roi sbotolau ar ddiwylliant Cymreig ledled y byd, mae Cymru a’r Byd eisiau bod yn rhan ohono! Mae’r Wythnosau Cymru wedi bod yn ffordd berffaith o ddathlu ein balchder ac amrywiaeth unigryw, ac roedden ni’n falch iawn i fod yn rhan ohonynt. Os ydych chi’n dilyn ein cyfryngau cymdeithasol, neu’n darllen ein blogiau’n rheolaidd, byddwch eisoes wedi derbyn llawer o wybodaeth am Wythnos Cymru yn Llundain, ond nid yna oedd y diwedd i’r sefydlwyr, Dan Langford a Mike Jordan yn 2019! Gwelodd eu bwriad i rannu Wythnosau Cymru ledled y byd fwy o “Wythnosau Cymru” yn cael eu lansio, yn cynnwys Wythnos Cymru ym Mharis, Wythnos Cymru yn yr Almaen, Wythnos Cymru yn Lloegr Newydd, Wythnos Cymru yn Efrog Newydd, Wythnos Cymru yn Essex, Wythnos Cymru yn Ohio, Wythnos Cymru yn Newcastle, Wythnos Cymru yn Melbourne (a gynhelir gan Aled Roberts o Gymru a’r Byd, ac Eglwys Gymraeg Melbourne).

Teithiodd Kat, ein Rheolwr Marchnata, i Lundain a Pharis i gymryd rhan yn y dathliadau. Eleni, cynhaliwyd Wythnos Cymru yn Llundain rhwng Chwefror 23 a Mawrth 9, ac roedd yn llawn digwyddiadau arbennig a ffyrdd unigryw o ddathlu diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.
Roedd ystod eang o ddigwyddiadau busnes, yn cynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn gwasgu’r botwm yn Seremoni Agor y Farchnad yn Ninas Llundain ar Fawrth 1. Dyma’r tro cyntaf mae’r seremoni enwog wedi cydnabod ei chysylltiadau i Ddydd Gŵyl Dewi, a chafodd ei defnyddio i amlygu gwaith sefydliadau arloesol Cymru sydd yn gwneud eu marc ar y llwyfan byd-eang.
“Mae Dydd Gŵyl Dewi’n ddiwrnod pwysig i bobl Cymru gael adlewyrch ar gryfder ein hanes, iaith a diwylliant unigryw”, meddai Cairns am y digwyddiad. “Mae hefyd yn ein hatgoffa am gyffro Cymru fodern. Rydym ni’n gartref i rai o gwmnïau arloesol y byd ac mae ein cynnyrch a gwasanaethau yn rhai diwydiannau megis lled-ddargludyddion, seiberddiogelwch, a’r sectorau cyllid ac yswiriant yn cael eu hallforio i bedwar ban y byd.
Hefyd, mae yna gyfleoedd i entrepreneuriaid a pherchnogion busnes i rwydweithio gyda siaradwyr o NatWest, Darwin Gray a Business Wales, ac arweinwyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Siambrau Masnach Prydain, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Ffederasiwn Busnesau Bach a mwy. Fe wnaethon ni fynychu digwyddiad cynnig (gwahoddiad yn unig) SAAS (meddalwedd fel gwasanaeth) a gynhaliwyd gan Fanc Datblygu Cymru a Match Capital, a welodd yr egin gwmnïau Buzzhire, We Build Bots, Maybe Tech, Get Shop Wave, We Predict ac Open Genius gyflwyno eu busnesau i ystod o fuddsoddwyr – yn debyg i Dragon’s Den Cymru! Dangosodd y digwyddiad diddorol hwn fod Cymru yn rheng flaen rhai o syniadau busnes byd-eang ac yn lle perffaith i fuddsoddi, lansio neu ehangu.
Gyda syniadau busnes da daw cyfrifoldeb mawr, a digwyddiad oedd yn bwysig i ni oedd y sgwrs “Future of Work, Future of Wales” (Dyfodol Gwaith, Dyfodol Cymru), a gynhaliwyd gan Delsion – arbenigwyr ym maes Dysgu a Datblygu, Amrywiaeth a Chynhwysiad. Cynhaliwyd y sgwrs ddiddorol hon yn y Senedd (gwahoddiad yn unig) ac roedd yn gyfle i glywed beth oedd sefydliadau llwyddiannus yn ei wneud o ran cynnwys a sut allwn ni ei annog yng Nghymru. Roedd Caroline Casey , sefydlwr anhygoel The Valuable 500 – sefydliad byd-eang sy’n rhoi anabledd ar agenda arwain busnes – yn pwysleisio pwysigrwydd cael amrywiaeth yn y gweithle, sy’n cynnwys un o’r 1.3 biliwn o bobl sy’n byw ag anabledd yn y byd. Gwnaethon ni glywed gan Dan Brook, Prif Swyddog Marchnata Sianel 4 a “Britain’s Best Diverse Company in 2018” gyda phwyntiau ar sut i ehangu ar arloesedd, talent a buddion brand o gynnwys anabledd yn eich gweithle. Ydych chi’n canolbwyntio ar hyn yn eich busnes chi? Gadewch i ni wybod, hoffem ni glywed mwy.
Nid busnes yn unig oedd yr wythnos hon, fodd bynnag – yng Nghymru, rydym ni’n gwybod sut i weithio’n galed A dathlu, ac nid oedd Wythnos Cymru yn Llundain yn eithriad o gwbl! Roedd y dathliadau trwy gydol y pythefnos yn cynnwys trafodaethau gyda gwleidyddion ac arwyr chwaraeon, sgyrsiau am ddemocratiaeth ddiwylliannol, ffilmiau, cerddoriaeth, gemau, teledu a chelf Gymraeg, comedi Rhod Gilbert a hyd yn oed y cyfle i westeion ennill gyfle i fwyta gyda Sam Warburton, hen gapten Cymru a’r Llewod.
Os ydych chi ERIOED wedi bod allan yng Nghaerdydd, byddwch yn ymwybodol o Clwb Ifor Bach. Am 35 o flynyddoedd maen nhw wedi dod ag artistiaid Cymraeg i’r byd, a goreuon y byd i Gymru. Ymwelon ni â’i noson yn The Lexington a welodd artistiaid Cymraeg yn dod i’r llwyfan i ddangos yn union pa mor dda ydy’r byd cerddoriaeth yng Nghymru! Cymerodd Alffa, y prif berfformiwr, afael o’r llwyfan gyda’u roc a rôl glas, a nhw oedd y band Cymraeg cyntaf i gyrraedd 1 miliwn o ffrydiau. Cymerwch olwg arnyn nhw os nad ydych chi wedi o’r blaen! Gwnaeth cerddoriaeth bop Private World argraff dda arnom, yn ogystal â synau ysgafn Accü sy’n cyfuno’n hudol â’i llais hyfryd.
Some other favourites from our time there included the Annual Welsh Women’s lunch in the fabulous Tom Simmons restaurant near Tower Bridge, where the conversation was sparkling and so was the wine! The food had subtle Welsh influences and every bite was delicious, even the smoked eel canapes which we were, admittedly, a bit dubious about. Ran by “Red Shoe Business Woman” and public speaker Rebecca Jones, this event was in aid of a very worthy cause, raising money for Velindre, a specialist cancer treatment centre in Whitchurch, Cardiff. This wasn’t the only excellent Welsh food options during our time in London however! We spent time at the food and drink pop-up at the famous Borough Market and Paddington Station. Seeing a host of high-quality Welsh food producers standing their ground in London surrounded by daffodils was a wonderful sight to behold, and an even better experience to taste! It’s hard to choose but our favourite has to be the Brownie Butter from Gower Cottage Brownies. We are still having dreams about it…
Daeth ein hwythnos i ben ym Mharis, lle’r ymunon ni â Chymdeithas Cymry Paris, a oedd yn groesawgar iawn, am eu pryd o fwyd Dydd Gŵyl Dewi blynyddol. Cawsom gyngerdd breifat gan Huw Chiswell, actor, cantor a chyfarwyddwr Cymraeg enwog. Sefydlwyd Cymdeithas Cymry Paris ym 1980 ac mae’n dal i ddod â phobl Gymraeg sy’n gweithio, ymweld â neu’n byw ym Mharis at ei gilydd i fwynhau treftadaeth ddiwylliannol Cymru. Roedd ei noson Gŵyl Ddewi Sant yn llawn pobl fywiog gyda gwahanol gefndiroedd a straeon i’w datgelu ond gydag un peth yn gyffredin – roedden nhw i gyd yn falch am eu Cymreictod!
Lansiwyd Le Club yn ystod Wythnos Cymru ym Mharis hefyd – Fforwm Busnes Ffrengig-Gymreig sefydlwyd gan Céline Jones, Cyfreithiwr a Phennaeth y Ddesg Ffrengig yn Geldards LLP, a Dan Langford, Cyfarwyddwr Marchnata yn Acorn, sef busnes recriwtio, a sefydlwr Wythnos Cymru. Lansiwyd yn swyddogol ar Ddydd Gwener, Chwefror 22 yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis, ac yn bwriadu i dyfu partneriaethau busnes dros y sianel. Dysgwch fwy ar eu gwefan www.walesfrance.com.
Roedd Cymru a’r byd yn hapus iawn i fod yn rhan o’r Wythnosau Cymru rhyngwladol eleni, ac rydym yn edrych ymlaen at helpu lansio rhagor yn y dyfodol gyda’n teulu #WorldwideWelsh. Os hoffech chi gymryd rhan, neu hyd yn oed ddechrau Wythnos Cymru yn eich dinas chi, gyrrwch e-bost atom: marketing@walesinternational.cymru.
Ysgrifennwyd gan Kat Colling, Cymru a’r byd