Cyhoeddir Neges Heddwch ac Ewyllys eleni ar Fai 17, 2019
Urdd Gobaith Cymru yw sefydliad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru, sydd wedi meithrin dros 4 miliwn o bobl drwy ei aelodaeth i fod yn falch o’u gwlad ac yn agored i’r byd.
Ers 1922 mae plant a phobl ifanc Cymru wedi estyn allan i’r byd gyda’i Neges Heddwch ac Ewyllys Dda flynyddol – a gyfathrebwyd yn gyntaf drwy gòd morse, ac yna gan y BBC World Service ac yn fwy diweddar drwy’r cyfryngau digidol.
Eleni cyhoeddir Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd ar ddydd Gwener 17 o Fai, ac rydym yn gofyn i chi am eich cymorth.
Beth yw’r Neges?
Thema eleni yw LLAIS ac mae’r bobl ifanc wedi penderfynu amlygu trais yn erbyn plant a phobl ifanc o fewn y thema hon, sydd yn cynnwys siarad dros blant sy’n filwyr, plant wedi eu heffeithio gan ryfel, troseddau gwn mewn ysgolion yn yr UDA a thrais cyllyll ar draws y DU a’r byd. Gweler copi o’r Neges wedi ei atodi er gwybodaeth.
Lluniwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni gan bobl ifanc sy’n aelodau o Fwrdd Syr IfanC a Chynllun Cymraeg Bob Dydd.

Daeth y criw at ei gilydd i drafod y thema ‘Llais’ mewn gweithdy arbennig, gan benderfynu eu bod am ddefnyddio’r cyfle eleni i godi eu Llais a sefyll gyda plant a phobl ifanc yng Nghymru ac ar draws y byd sydd yn dioddef o drais – trais cyllyll, trais gynnau a thrais drwy ryfel.
Rhannu’r Neges – 17 Mai 2019
This year the Message will be shared with the world on the morning of May 17, so remember to look out for it on social media and on the Urdd Gobaith Cymru website.
Bydd fersiwn ffilm fer a phoster.
A message from the Urdd:
Byrdwn ein neges yw i roi llais i’r anghofiedig, i’r difantais a’r diarddeledig a byddai eich cael chi i fod yn rhan ohoni yn help mawr i sicrhau bod y llai hwnnw yn cael ei glywed.
Beth allech chi ei wneud NAWR – dilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Urdd ar Instagram/Facebook/Twitter (@Urdd / @Urddgobaithcymru). Edrychwch allan am a rhannwch negeseuon a rannir rhwng nawr a Mai 17. Anogwch eich ffrindiau/cydweithwyr i wneud yr un peth.
Os ydych chi’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, siaradwch gyda hwy am y Neges a gofynnwch iddyn nhw os hoffent baratoi ymateb eu hunain (gweler isod)
Beth i’w wneud ar Fai 17 – bydd Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn cael ei rannu ar fideo ar y diwrnod gan ddefnyddio #heddwch2019 #peace2019. Plîs rhannwch y fideo ar draws eich llwyfannau, gan annog eraill i wneud yr un peth i ni gael sicrhau y bydd y neges yn cael ei glywed mewn cymaint o wledydd ag sy’n bosib.
(NODYN – bydd y fideo ar gael yn Gymraeg a hefyd yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg. Bydd fersiynau ysgrifenedig o’r neges ar gael o’r wefan mewn dros 40 o ieithoedd.)
Ymateb – rydym yn derbyn dros 70 o ymatebion mewn nifer fawr o ieithoedd o bob cwr o’r byd yn flynyddol gan blant a phobl ifanc. Hoffem guro’n nifer yna yn 2019.
Gall ymatebion i’r neges fod mewn unrhyw iaith, ac ar unrhyw ffurf – fideo, lluniau, gwaith celf, llythyr, e-bost, podlediad ayyb mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd, ac rydym yn annog creadigrwydd!
Gallwch rannu eich ymatebion gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #heddwch2019 neu #peace2019 neu e-bostiwch ni ar heddwch@urdd.org.