Fis nesaf, daw Eisteddfod Genedlaethol 2019 i Gonwy yng ngogledd Cymru. Yn cychwyn gyda’r gyngerdd agoriadol draddodiadol ar Awst 2, mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal tan Awst 10, ac mae disgwyl i oddeutu 150,000 o bobl ddod. Fel arfer, bydd gan Cymru a’r Byd stondin yn yr Eisteddfod i groesawu’n ffrindiau i gyd, ond eleni bydd gennym rywbeth gwahanol i’w rannu! Darllenwch ymlaen i gael hyd i fwy.
Gall y gair ‘Eisteddfod’ gael ei holrhain mor bell yn ôl â 1176 – ond mae hanes cyfoes y sefydliad yn mynd mor bell yn ôl ag oddeutu 1861. Ers hynny, cynhelid yr Eisteddfod bob mis Awst – heblaw 1914 oherwydd cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn dechrau fel gŵyl gystadlu yn wreiddiol, byddai oddeutu 6,000 o gystadleuwyr yn mynychu bob blwyddyn, ac mae’r digwyddiad yn rhan fawr ym mywydau Cymry bellach, yng Nghymru a ledled y byd, gyda phobl yn teithio o bedwar ban y byd i ddod. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o’r digwyddiadau mwyaf yn y calendr a gaiff ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddathliad o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae Cymru a’r Byd yn mynd i’r Eisteddfod bob blwyddyn, ac rydym ni’n awyddus i hyrwyddo pethau newydd ar gyfer ein haelodau.
Mae gwahanol gystadlaethau ar gyfer bandiau pres, unawdau i denoriaid, dysgwyr Cymraeg; mae gan bob cystadleuaeth reolau gwahanol, ac mae yna wobrau i’w hennill. Am ragor o wybodaeth am y mathau o gystadlaethau gallwch eu gweld yn yr Eisteddfod, cliciwch yma.
Yn ogystal â pherfformiadau a chystadlaethau, mae gan yr Eisteddfod dros 250 o stondinau yn dangos y celfyddydau, crefftau a chynnyrch Cymreig lleol gorau, yn ogystal â mynediad i ragor o wybodaeth ynghylch gwasanaethau, sefydliadau a busnesau Cymraeg. Byddwn ni’n hapus i siarad â chi am yr hyn rydym ni’n ei wneud, pam rydym ni’n ei wneud, a sut gallwch chi ymuno â’n teulu rhyngwladol! Gallwch ddod o hyd i ni yn stondinau 410-412.
Yn ystod yr Eisteddfod, mae gennym ein digwyddiadau blynyddol arferol, a charwn i chi ymuno â ni! Mae’r rhain yn cynnwys ein Cyfarfod Blynyddol ar Awst 8 am 10:30yb sy’n agored i’n haelodau i gyd (gallwch gofrestru i fod yn aelod yma), yn ogystal â’n darlith flynyddol “Cymru, Llundain a Llanrwst”, gyda’r gwestai arbennig Ifor ap Glyn am 2yh ar ddydd Iau hefyd.
Rydym ni’n lansio rhai digwyddiadau yn yr Eisteddfod i’n teulu Cymru a’r Byd fwynhau hefyd:
Panel Cerddoriaeth Cymru a’r Byd, Dydd Llun Awst 5 am 1yh

Cynhelir Panel Cerddoriaeth Cymru a’r Byd ar ddydd Llun Awst 5 am 1yh. Caiff cantorion enwog Lleuwen a Nesdi Jones eu cyfweld gan ein Llywydd, a thenor Cymraeg, Rhys Meirion.
Mae Lleuwen, cantor jazz Cymraeg, newydd fod ar daith yn dilyn ei halbwm newydd, Gwn Glân a Beibl Budr. Ar ôl ei phanel gyda ni, bydd Lleuwen yn perfformio yn Y Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod (3:45yh).
Mae Nesdi Jones, o Gricieth yng ngogledd Cymru, yn gantor a rapiwr. Mae hi’n perfformio yn 4 iaith: Cymraeg, Saesneg, Hindi a Phwnjabeg. Mae hynny’n gamp fawr, ac mae nifer o’i sgiliau iaith yn hunan-ddysgedig. Ysgogwyd ei diddordeb ar ôl trip ysgol i Delhi bron â 10 mlynedd yn ôl, a datblygai ei gyrfa ers hynny.
Rydym ni’n falch iawn o gael gwesteion mor bwysig yn ymuno â ni i drafod cerddoriaeth Gymraeg!
Panel Dysgu Cymraeg Cymru a’r Byd, Dydd Mawrth Awst 6 am 11yb
Cynhelir Panel Dysgu Cymraeg Cymru a’r Byd ar ddydd Mawrth Awst 6 am 11yb. Bydd Aran Jones, Neil Rowlands ac Eiry Miles yn ymuno â ni.
Mae Aran Jones yn sefydlwr Say Something in Welsh (neu SsiW fel y caiff ei alw) ac yn un o’n llysgenhadon balch. Mae’n angerddol dros Gymru a’r iaith Gymraeg ac wedi sefydlu cymuned dysgu ieithoedd gydnabyddedig!
Mae ein hail westai, Neil Rowlands, yn ddysgwr Cymraeg o dde Cymru ac yn rhedeg Parallel.Cymru, cylchgrawn ar-lein sy’n cynnig erthyglau am Gymru a bywyd Cymreig yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr â’i gilydd.
Hefyd rydym ni’n hapus iawn i groesawu Francesca Elena Sciarrillo, Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod yr Urdd 2019. Astudiodd Francesca gwrs Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, ac mae ei theulu’n dod o’r Eidal, er eu bod nhw’n byw yn yr Wyddgrug bellach. Mae Francesca’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn awyddus i rannu ei phrofiadau.
Mae ein gwestai olaf, Eiry Miles, yn gweithio i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac ar hyn o bryd yn creu cyrsiau Cymraeg newydd i oedolion.
Rydym ni’n falch i allu croesawu pob gwestai ein panel Dysgu Cymraeg, ac yn methu aros i glywed eu barnau am ddysgu Cymraeg.

Bydd gan ein stondin olwg newydd arni hefyd, yn cynnwys ardal i deuluoedd fwynhau gweithgareddau sy’n addas ar gyfer plant, felly dewch draw a gadewch i ni wybod os byddwch chi’n dod drwy ymuno â’n digwyddiadau Facebook. Ac wrth gwrs, drwy rannu ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio ein hashnod #CymruarByd!
Os nad ydych chi’n aelod eto, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth ar sut i ymaelodi yma i ddod yn rhan o’n teulu rhyngwladol.