Mae’r Ŵyl Geltaidd Genedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Portarlington, Awstralia am benwythnos 3-diwrnod ym mis Mehefin ac roedd aelod cyngor Cymru a’r Byd, Aled Roberts, yn ogystal â rhai o’n ffrindiau Cymru a’r Byd wedi mynychu’r ŵyl! Dim ond awr a hanner i ffwrdd o Melbourne, mae dros 16,000 o bobl yn dod at ei gilydd yn y dref i ddathlu diwylliant Celtaidd.
Cynhelir yr Ŵyl yn nhref fach Portarlington, ardal lle’r oedd y bobl frodorol Wathaurung (aboriginal Wathaurung people) yn arfer byw, ar Lŷn Bellarine yn edrych dros Port Phillip. Mae’r ardal yn adnabyddus am ei gwinllannau, a ffermydd cregyn gleision enwog Corio Bay, ac yn boblogaidd ymysg twristiaid felly mae’n werth aros am gyfnod hir! Mae trefnwyr yr Ŵyl yn deall pwysigrwydd yr ardal i ddiwylliannau eraill, yn enwedig pobl frodorol yr ardal, ac wedi gweithio gyda hynafiaid lleol i’w anrhydeddu.

Cynhelir yr Ŵyl ledled y dref i gyd, yn cynnwys digwyddiadau yn neuaddau’r gymuned, y gwesty, bwytai, caffis ac eglwysi, yn ogystal â phebyll mawrion ar yr arfordir yn cynnwys Llwyfan y Pentref, Clwb Celtaidd, Bar Gwin, a Marchnadoedd Celtaidd sy’n arlwyo ar gyfer bob oedran, diwylliant a diddordeb. Caiff yr ŵyl aeaf hon ei hystyried yn brif Ŵyl Werin Geltaidd yr ardal ac yn blatfform i ystod amrywiol o artistiaid megis diwylliant a cherddoriaeth sy’n pwysleisio diwylliant Celtaidd mewn lleoliad Awstralaidd.
Hanes Diwylliant Celtaid
Mae diwylliant Celtaidd yn gymysg o lwythi a oedd â tharddiad yn Ewrop, ac yn rhannu elfennau ieithyddol, gwerthoedd a thraddodiadau yn ogystal â chredau crefyddol. Heddiw, cewch hyd i’r rhain yn Iwerddon, yr Alban, Cymru, Cernyw a Llydaw.

Er y cafodd y Celtiaid eu galw’n farbaraidd yn y seithfed ganrif gan y Rhufeiniaid, nid oedd yn wir, a chedwid system o ddiwylliant a gwerthoedd ganddynt drwy gydol y blynyddoedd, ac sydd bellach yn seremoni rydym yn ei dathlu heddiw.
Mae gan bobl o bedwar ban y byd gysylltiad cryf â diwylliant Celtaidd, ac mae’r dathliadau hyn yn dod â nhw at ei gilydd. Daw artistiaid i berfformio a rhoi golwg i’w hangerdd, gwybodaeth a thalentau sydd wedi’u hysgogi gan ysbryd y diwylliant Celtaidd.
Hanes Gŵyl Geltaidd Genedlaethol Awstralia
Daeth y Celtiaid i Awstralia o Ewrop, yn bennaf o’r Alban, ond mae’r Gymraeg yn gryf hyd heddiw. Gallon nhw gyrraedd canol Ewrop, ac ymhen amser, roedden nhw ar eu ffordd i Awstralia. Caiff Glen Innes Highlands ei galw’n Sir Geltaidd am y rheswm yma. Sefydlwyd Stonehedge Station gan yr ymsefydlwr cyntaf, bargyfreithiwr o’r enw Archibald Boyd, o’r Alban, ym 1838.
Yn fuan wedi hynny, ymunodd ymsefydlwyr eraill ag ef i sefydlu’r ardal. Rhoddodd Celtiaid yr Alban yr enw Glen Innes i’r ardal, ac mae’r Celtiaid yn dal i fyw yno hyd heddiw. Heddiw, mae dinasyddion Glen Innes yn dwlu ar dreftadaeth Geltaidd yr ardal. Sefydlodd grŵp lleol yr Australian Standing Stones. Maen nhw’n unigryw i hemisffer y dde ac wedi cael eu derbyn yn gofgolofn genedlaethol i arloeswyr Celtaidd Awstralia. Mae disgwyl, felly, i’r cerrig fod yn rhan o Ŵyl Geltaidd Awstralia.
Mae gan Awstralia 5 digwyddiad Celtaidd yn cael eu cynnal eleni. Yr un nesaf fydd Diwrnod Tartan Rhyngwladol Blynyddol, a gaiff ei gynnal ar Orffennaf 6 eleni.
A hoffech chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut yr ydym yn cefnogi ein ffrindiau #CymruarByd yn Awstralia? Cymerwch olwg ar ein blog yma i weld sut rydym ni’n noddi staff yr Urdd sydd mas yn Sydney eleni.