Wythnos Cymru yn yr Hwb Diwylliannol yn Llundain
Yma yng Nghymru a’r Byd, rydym yn hapus iawn i gwrdd â phobl sydd mor gyffrous â ni i gysylltu â Chymry ledled y byd! Roeddwn ni’n ffodus iawn i gwrdd â’r dyn busnes o Gymru a chyd-sefydlwr “Wythnos Cymru”, Dan Langford, i ddysgu mwy am y digwyddiad hwn, a’r twf a ddilynodd ers iddo gychwyn.

Mae Wythnos Cymru yn Llundain yn ŵyl flynyddol yn cynnwys cyfres o weithgareddau a digwyddiadau ynghylch Dydd Gŵyl Dewi, gyda’r bwriad o wefreiddio cymunedau Cymreig yn Llundain ac ar draws y DU. Mae’n gyfle i’r gymuned Gymreig ddysgu gwesteion o bob cefndir am eu hanes, eu traddodiadau a diwylliant pop cyfoes. Mae gan sefydliadau Cymreig y cyfle i gynnig eu cynnyrch, gwasanaethau, busnes, cerddoriaeth, celf, bwyd, twristiaeth, treftadaeth, chwaraeon, bywyd cyhoeddus a chyfryngau i gymuned Gymreig Llundain, yn ogystal â’r gymuned ryngwladol mae Llundain yn ei denu.
Eleni, cynhelir Wythnos Cymru yn Llundain o Chwefror 23 i Fawrth 9, a bydd diwrnod cyntaf y digwyddiad yn dechrau gyda thaith o’r Senedd, drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyflwynydd Cymraeg y BBC, Huw Edwards. Bydd y daith yn trafod lleoedd enwog, yn cynnwys Neuadd ganoloesol San Steffan, Siambrau trafod Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, a’r Neuadd (St. Stephen’s Hall) lle y clymwyd swffragetiaid er mwyn protestio am hawliau merched a’r hawl i bleidleisio yn y 1900au cynnar.

Mae pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn para i fod yn thema yn ystod yr wythnos, gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn croesawu digwyddiad i drafod elusennau sydd wedi gwella eu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg a chysylltiad uwch, yn cynnwys NSPCC a Barnado’s. Mae yna gyfleoedd i entrepreneuriaid a pherchnogion busnes i rwydweithio â siaradwyr o NatWest, Darwin Gray a Business Wales, a rheolwyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Siambrau Masnach Prydain, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, a Ffederasiwn Busnesau Bach.
Bydd y digwyddiadau busnes hyn, dros yr wythnos, yn cwmpasu sawl pwnc, yn cynnwys diogelwch a thegwch cymdeithasol. Bydd y digwyddiad diogelwch yn cyflwyno’r risgiau diogelwch yn y gymdeithas bresennol o dechnoleg sy’n tyfu, a’r effaith sydd gan y gymuned Gymreig ar seiberddiogelwch. Bydd hefyd yn cynnwys dadl ymhlith rheolwyr diwydiant ar fan cyswllt Brexit a Diogelu Gwybodaeth.
Ar wahân i rwydweithio â gweithwyr busnes proffesiynol, bydd gan westeion gyfle i fynychu trafodaethau gyda gwleidyddwyr a sêr chwaraeon enwog, mwynhau darlithoedd am ddemocratiaeth ddiwylliannol a dathlu ffilmiau, gemau, teledu a chelf o Gymru. Mae hyd yn oed cyfle i gael pryd o fwyd wrth ochr Sam Warburton, hen gapten y Llewod. Bydd cyfle hefyd i westeion weld ffilm o ffilmiau byrion Cymraeg, gyda chyfres o gwestiynau ac atebion gan Rhod Gilbert.

Gan fod yna lawer i’w weld a gwneud, byddwch chi’n siŵr o fod yn llwglyd wrth ymweld ag Wythnos Cymru yn Llundain! Peidiwch â phoeni, mae detholiad o fwydydd Cymreig ardderchog o gwmpas y digwyddiad, yn cynnwys stondinau yng Ngorsaf Paddington a Borough Market, a mewnbwn gan gogyddion o Gymru, Bryn Williams a Tom Simmons, a fydd yn cynnal digwyddiadau a bargeinion yn ystod yr wythnos.
Ac yn olaf, peidiwch â bod ag ofn o ddisgleirio gyda Dawns Gala Cymru ar ei Gorau, gyda James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers, neu unrhyw ddigwyddiad deniadol Dydd Gŵyl Dewi. Drwy gydol yr wythnos, gallwch hefyd weld sawl perfformiad gan gorau, Opera Cenedlaethol Cymru, a pherfformiadau gan Gôr Meibion Gwalia. Os ydych chi am fwcio tocynnau i unrhyw ddigwyddiad mae sôn amdano uchod, ewch i wefan Wythnos Cymru yn Llundain. Gallwch ddod o hyd i fanylion pellach am y digwyddiadau, a’n digwyddiadau ni hefyd.

Nid yn Llundain yn unig fydd Wythnosau Cymru eleni – cadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy am y digwyddiadau canlynol, a digwyddiadau nad ydyn ni wedi cyhoeddi etoales Week à Paris
- Wales Week à Paris
- Wythnos Cymru yn yr Almaen
- Wythnos Cymru yn Lloegr Newydd / Boston
- Wythnos Cymru yn Efrog Newydd
- Wythnos Cymru yn Essex
- Wythnos Cymru yn Ohio
Bydd Cymru a’r Byd yn mynychu’r digwyddiadau yn Llundain a Pharis, ac yn rhannu’r digwyddiad â chi yn fyw ar Twitter a Facebook. Os hoffech chi gwrdd â ni, cysylltwch â Kat, ein Rheolwr Marchnata ar yr e-bost hwn: marketing@walesinternational.cymru.