Gyda digwyddiad Fringe wythnos o hyd yn gorffen gyda digwyddiad 3-diwrnod yng Nghastell Caerdydd. Mae Tafwyl yn ddathliad o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ehangach. Wedi’i threfnu gan Menter Caerdydd, elusen yn y ddinas, daeth yr ŵyl â thros 40,000 o ymwelwyr yn 2018, ac wedi cael ei galw’n Ŵyl Orau Caerdydd yn seremoni Gwobrau Cerddoriaeth Caerdydd. Beth yw’r ŵyl, felly?

Mae Caerdydd yn hwb i deulu Cymraeg lleol a rhyngwladol, ac mae Tafwyl yn arddangosiad sy’n cwmpasu: cerddoriaeth, chwaraeon, llenyddiaeth, comedi, celf, drama, a bwyd a diod. A’r gorau oll, mae’n rhad ac am ddim i’w mynychu (bydd angen talu am rai o’r digwyddiadau dros yr wythnos ond cewch chi ddigon am y pris) ac mae ar agor i bawb, boed eich bod yn siarad Cymraeg neu beidio! Mae Menter Caerdydd yn benderfynol o sicrhau bod yr iaith Gymraeg yng nghalon bywyd yng Nghaerdydd gan hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o iaith, ac mae’r gwahanol ddigwyddiadau yn sicr yn adlewyrchu hyn.

Rhwng digwyddiadau blasu jin Cymreig, “teddy bear’s picnic” i ioga mewn amgueddfa, a phopeth arall rhyngddynt. Mae gan ddigwyddiad Fringe Tafwyl rywbeth at ddant pawb, beth bynnag eich diddordebau na’ch sgiliau Cymraeg. Mae’r prif ddigwyddiad, wrth gwrs, yn benwythnos llawn cerddoriaeth (a mwy) yn dechrau ar ddydd Gwener hyd at ddydd Sul; gyda cherddoriaeth o Ani Glass, Lleuwen A’R Band, Y Niwl, Rhys Gwynfor, Chroma, I Fight Lions, Jack Mac’s Funk Pack, Omaloma, Fleur De Lys, Glain Rhys a llawer mwy, mae’n ddigwyddiad na ddylid ei golli. Mae amrywiaeth o gerddoriaeth, gyda bandiau ledled Cymru yn dod at ei gilydd ar wahanol lwyfannau i gynhyrfu’r dorf – ac mae llwyfannau eraill hefyd, gyda llenyddiaeth yn cael ei darllen, ac wrth gwrs, llwyfan ar gyfer Dysgwyr Cymraeg sy’n cynnal gemau, cwestiynau ac atebion, tipiau, a llawer mwy.

Mae pob digwyddiad sy’n cael ei gynnwys yn wythnos Tafwyl, hyd at yr ŵyl ei hunan, wedi ei gynllunio’n dda iawn; fel yr oedd sôn amdano uchod, mae’r teddy bear’s picnic am ddim ym Mharc y Mynydd Bychan yn golygu bod gan blant bach rhywbeth i’w fwynhau – a bydd yr oedolion yn siŵr o fwynhau clwb swper Tafwyl, a gynhelir gan Imran Nathoo o MasterChef yn Dusty Knuckle ar Heol Llandaff. Bydd helfa drysor am ddim yn dechrau yn The Woodville, gyda phob cliw yn Gymraeg, a theatr gan Dirty Protest ym mwyty Mae Maria. Am fanylion am y digwyddiadau hyn a phopeth arall a gaiff ei gynnal dros yr wythnos, ewch i wefan Tafwyl.
Gyda rhyw 19% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae gŵyl sy’n canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg yn hollbwysig, ac mae Cymru a’r Byd yn awyddus i’w dathlu a’i rhannu gymaint â phosib! Mae Tafwyl wedi tyfu ers iddi ddechrau yn 2006, gyda phob gŵyl yn denu mwyfwy o ymwelwyr, rhwng arbenigwyr Cymraeg i’r rheiny sydd ar fin dechrau dysgu Cymraeg. Mae’r gallu i ddathlu’r iaith Gymraeg hyfryd drwy gerddoriaeth, celf, llenyddiaeth a phopeth arall mae’r ŵyl yn cynnal yn arbennig iawn, ac mae Tafwyl yn ŵyl i bawb yn y teulu.
Am ragor o wybodaeth am Tafwyl a Menter Caerdydd, amserau’r llwyfan a manylion am leoliadau, ewch i wefan Tafwyl a’i thudalennu cyfryngau cymdeithasol. Ac os bydd unrhyw un o’n teulu Cymru a’r Byd yn ymweld â’r ŵyl, gadewch i ni wybod gan ddefnyddio’r hashnod #CymruarByd.