Cafodd yr erthygl ganlynol ei hysgrifennu gan David Greenslade, yr awdur a darlithydd. Bydd yr erthygl hon ar gael yn y Saesneg yn rhifyn diweddaraf Yr Enfys. Os nad ydych yn aelod o Gymru a’r Byd eto, ymunwch â ni yma i dderbyn y copi diweddaraf teirgwaith y flwyddyn!
The following article is a guest post, written by author and lecturer David Greenslade. This article will be available in English in the latest edition of Yr Enfys. Not a member of Wales International yet? Join here to receive the latest copy three times a year!
Ym Mis Mai 2019 fe welodd dinas Suceava, gogledd Rwmania, arddangosfa celf Cymru-Rwmania. Cynnwys yr arddangosfa oedd peintiadau a wnaethpwyd ar y cyd rhwng John Welson (Abergwaun) a George Ostafi (Suceava). Roedd James Green (Tonypandy) yn rhan o’r sioe hefyd gyda’i gasgliad rhyfeddol o luniau ‘Sebon Swynol’. Bydd yr arddangosfa hon a oedd mor llwyddiannus tramor yn dod i Oriel y Senedd, Bae Caerdydd, mis Tachwedd 26 tan fis Rhagfyr 15. Tachwedd 30 bydd achlysur agor swyddogol y sioe ym mhresenoldeb llysgennad Rwmania a’r Aelod Cynulliad Huw Irranca-Davies (Ogwr).
Man cychwyn y syniad i’r arddangosfa oedd cyfarfod rhyngof i a George Ostafi tra oedd innau yn rhan o symposiwm yn Rwmania yn 2017. O ganlyniad i’n cyfarfod, gwnaeth George ddangos ei waith yng Nghaerdydd, mis Mawrth 2018. Roedd hwn yn sbardun i John Welson ofyn i mi gario peintiadau hanner-orffenedig (neu hanner-anorffenedig) er mwyn i George eu cwblhau. Ymateb George oedd gofyn imi gario ei waith cychwynnol ef at John i’w gwblhau yn ei dro. Mae safon y lluniau hanner-orffenedig – neu “gwaith pedwar llaw” chwedl George, yn hynod drawiadol.
Erbyn heddiw mae’r peintiadau hyn yn rhan o etifeddiaeth gyffredin rhwng y ddwy wlad. Eisoes mae syniadau wedi codi er gyfer trydedd arddangosfa Cymru-Rwmania yn y flwyddyn 2020.
Teitl yr arddangosfa yn y Saesneg ydy Impertinent Distortions ond yn y Gymraeg Gwydion Beiddgar fel teyrnged i’r Dewin Gwydion (o’r Mabinogi) a’r gallu yntau o newid siâp fel y gwnaethpwyd gan yr artistiaid.