Yr wythnos ddiwethaf, bu Cymru a’r Byd yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yng Nghonwy wrth stondin 410-412, yn croesawu ein ffrindiau Cymru a’r Byd! Gyda disgwyl i’r Eisteddfod gael oddeutu 150,000 o ymwelwyr dros yr 8 diwrnod, roedden ni’n edrych ymlaen at rannu ein newyddion a digwyddiadau â hen ffrindiau a ffrindiau newydd.
Er gwaetha’r tywydd, daeth nifer o bobl i ddathlu Cymru a’r Gymuned Gymreig yng ngŵyl Gymraeg fwyaf y byd. Gyda thros 250 o stondinau a digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y dydd, cafodd T. James Jones ei gyhoeddi’n enillydd y Gadair 2019, cafodd Gareth Evans Jones ei gyhoeddi’n ennillydd y Fedal Ddrama, a Fiona Collins oedd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2019. Rydym yn llongyfarch pob enillydd a chyfranogwyr dros gystadlaethau’r Eisteddfod eleni.
Am ragor o wybodaeth ynghylch canlyniadau a newyddion yr Eisteddfod eleni, cliciwch yma: https://eisteddfod.wales/2019/news
Yn ystod y digwyddiad, cawsom ein Cyfarfod Blynyddol a’n Darlith Flynyddol, ‘Cymru, Llundain a Llanrwst’, ar Awst 8 gyda’n siaradwr gwadd, Ifor ap Glyn. Yn ogystal, cawsom ddigwyddiadau newydd a chyffrous yn digwydd wrth ein stondin ar ddechrau’r wythnos.
Ar ddydd Llun, cynhaliwyd Panel Cerddoriaeth Cymru a’r Byd gennym, gydag artistiaid enwog megis Lleuwen a Nesdi Jones, a chawsant eu cyfweld gan ein Llywydd, a thenor Cymraeg, Rhys Meirion yn trafod cerddoriaeth Gymraeg a’i lleoliad yn ein diwylliant!

Y diwrnod wedyn, ein hail drafodaeth panel oedd Panel Dysgu Cymraeg Cymru a’r Byd. Roedd yn drafodaeth am ddysgu’r iaith Gymraeg, ac roedden ni’n falch iawn o gael panel o siaradwyr Cymraeg ardderchog! Cawsom eiriau gan ein llysgennad, Aran Jones, sefydlwr Say Something in Welsh, Francesca Elena Sciarrillo, Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod yr Urdd 2019, ac Eiry Miles, sy’n gweithio i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Un o’r prif bynciau gafodd ei drafod oedd cynlluniau ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru – sef un o’r ymgyrchoedd mwyaf erioed ynghylch yr iaith Gymraeg. Rydym ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn llwyddo mewn ei hamcan o gael 1 MILIWN o siaradwyr Cymraeg! Drwy gysylltu â Chymry ledled y byd a chreu trafodaethau megis y rhai gawsom yn yr Eisteddfod, rydym ni’n helpu i ddatblygu’r iaith Gymraeg ac yn annog pobl eraill i ailgysylltu â’u hiaith a deall ei phwysigrwydd. Hefyd, rydym ni’n adeiladu adnodd i ddysgwyr yn ein hadran Aelodau yn Unig; gallwch ddysgu mwy am ein haelodaeth yma.
I’n ffrindiau Cymru a’r Byd i gyd, byddwn ni wrth ein boddau i glywed eich sylwadau ar y cynlluniau hyn, a bydden ni’n eich annog chi i gysylltu â ni a rhannu eich syniadau ar sut gallem ni ddatblygu hyn ymhellach o fewn eich cymunedau!