Cwrdd a’n Cadeirydd Newydd – Yr Athro Stuart Cole CBE
Ym mis Mai 2020 cafodd Cadeirydd newydd Cymru a’r Byd ei benodi, sef Yr Athro Stuart Cole. Dyma drefnu cyfweliad gyda Stuart er mwyn dod i’w adnabod yn well a darganfod beth yw ei weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru a’r Byd.

Llongyfarchiadau ar eich penodiad! Gyntaf oll, pam roeddech chi’n awyddus i gamu i’r Gadair?
Diolch yn fawr! Wel mae gen i ddiddordeb mawr mewn Cymru yn y cyd destun rhyngwladol a diddordeb yng ngwaith Cymru a’r Byd erstalwm. Rydw i wedi eistedd ar y Cyngor ers blwyddyn a pan gynigwyd fy enw, roeddwn yn awyddus i gefnogi ac adeiladu ar waith gwych y Cadeirydd blaenorol Gerallt Hughes.
Soniwch ychydig am eich cefndir..
Rwy’n fachgen o Lanelli’n wreiddiol ac yn gyn ddisgybl o’r Ysgol Ramadeg wych yno. Yn 19 mlwydd oed es i Brifysgol East Anglia yn Norwich i astudio Economeg. Roedd y criw oedd gyda fi ar y cwrs o gartrefi bonedd cyfoethog mewn llefydd fel Chelsea, yn dipyn gwahanol i fy magwraeth i fel mab mecanydd o Lanelli. Roedd fy narlithwyr yn flaengar ac yn dod o wledydd amrywiol fel Prifysgol Caergrawnt, y Trysorlys a’r undeb Ewropeaidd. Roedd diffyg gwybodaeth am Gymru a’r Gymraeg gan y bobol yn Lloegr yn agoriad llygad i fi, ac yn anffodus mae hyn yn parhau. Mae gennym waith cenhadu i wneud a rhannu ein hangerdd am Gymru a’r Gymraeg. Dwi’n gweld rôl Cymru a’r Byd yn rhan bwysig o’r gwaith yma ac yn rhywbeth rwy’n angerddol iawn amdano.

Ydych chi’n credu bod proffil Cymru dal yn isel yn y byd sydd ohoni?
Ydw. Cyn y feirws diweddar, doedd dim sôn am Gymru yn y wasg a’r cyfryngau yn Lloegr a thu hwnt, dim ond mewn modd nawddoglyd ar y cyfan. Nawr, oherwydd bod Lloegr a’r byd yn gweld ein pwerau datganoledig a’r ffordd rydym yn ymateb ac yn gweithredu’n wahanol yma yng Nghymru, mae nhw bellach yn trafod ein Senedd a’n Gweinidogion ni ac yn dangos ein gwahaniaethau – mae’n siom enfawr bod hi’n cymryd pandemig i gael y sylw a’r gydnabyddiaeth yma. Rwy’n rhagweld bod gan Cymru a’r Byd y gallu i wneud gwahaniaeth i’r modd mae’r byd yn gweld Cymru a’r modd mae Cymru’n gweld y byd.

Rydech chi wedi gweithio’n rhyngwladol fel economegydd, sut byddwch chi’n defnyddio eich profiadau rhyngwladol yn y rôl newydd hon?
Yn sicr. Yn y maes economeg trafnidiaeth rydw i’n arbenigo ac rydw i wedi gweithio mewn nifer o wledydd a threulio amser maith yn adfer a datblygu systemau trafnidiaeth proffidiol mewn gwledydd fel Estonia, Latvia, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Canada, America, Periw ac ati. Fi hefyd oedd yn gyfrifol am ffurfio Traws Cymru, rydw i’n parhau’n aelod o’r Bwrdd ac yn falch iawn o’r datblygiad llwyddiannus hwn. Bues i yn gwneud ymchwil ar effaith y rheilffyrdd ar yr economi ac hefyd yn gyfrifol am adfer a thrawsnewid planhigfa de fawr yn Zimbabwe. Rydw i hefyd yn ffodus o gael y cyfle i gyfrannu mewn cynadleddau economeg rhyngwladol mewn gwledydd fel India a China.
Mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n Gadeirydd ar sefydliad fel Cymru a’r Byd yn gweld y byd mewn cyd destun rhyngwladol, ac wedi profi diwylliannau gwahanol. Mae deall pam ein bod ni’r Cymry’n angerddol ac unigryw a deall am ein rôl a’n gwaith yn rhyngwladol o fantais mawr i fi fel Cadeirydd, a hefyd y dealltwriaeth o sut mae pobl mewn gwledydd eraill yn ein gweld ni fel gwlad ac fel Cymry.
Dwi’n angerddol iawn am roi Cymru a’r Cymry ar y map a sicrhau bod pobl yn gwybod nad rhan o Lloegr yw Cymru ac mai nid Saeson yw’r Cymry, mae pob gwlad a phob diwylliant yn wahanol ac mae angen dathlu hynny. Mae gan Cymru a’r Byd rôl allweddol i’w chwarae wrth roi’r hyder a’r platfformau i Gymru a’r Cymry i rannu ein hangerdd a’n diwylliant gyda’r byd.
Sut all Cymru a’r Byd godi proffil Cymru a’r Cymry yn rhyngwladol?
Mae gennym strategaeth newydd ar y ffordd ac rydym yn awyddus i gydweithio gydag eraill er mwyn hybu Cymru a’r Cymry. Rydym eisoes yn eistedd ar banel ymgynghorol y Gweinidog Eluned Morgan, ac rydym yn awyddus i gyfrannu ein arbenigedd a’n profiad a chefnogi Strategaeth Rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Mae gennym aelodau yng Nghymru a thramor. Rydym yn awyddus i gynyddu ein aelodaeth a chydweithio efo mwy o sefydliadau, busnesau a phobl ifanc yng Nghymru a’r byd er mwyn arwain ar y gwaith o fagu hyder a dathlu Cymry a’r Cymry a’n cyfraniad rhyngwladol.
Oes gennych chi uchelgais fel Cadeirydd?
Oes! I godi proffil Cymru a’r Byd a’i waith yng Nghymru a’r byd. I godi proffil Cymru a’r Cymry ac i ddod yn fan ble bydd pobl yn dod er mwyn cael gwybodaeth am Gymru a’r Cymry. Er mwyn gwneud hyn a chynnal Cymru a’r Byd, maen rhaid inni sicrhau incwm trwy ein aelodaeth ond o ffynonellau eraill hefyd ac fel economegydd, mae gen i’r profiad a’r gallu er mwyn sicrhau’r ffordd ymlaen. Fy ngobaith i fel Cadeirydd yw sicrhau bod pawb yn gwybod am ein gwlad fach a’n pobl anhygoel sy’n gwneud pethau mawr ymhob cwr o’r byd.

Mae gennych waith pwysig a chyffrous o’ch blaen, oes unrhyw amser ar gyfer unrhyw beth arall?
Oes! Dwi’n parhau yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru, wedi i fi fod yn Gyfarwyddwr cyntaf ar y Ganolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru a chyn hynny, yn Gyfarwyddwr cyntaf TRaC (Ymchwil ac Ymgynghoriaeth Trafnidiaeth) ym Mhrifysgol Metropolitanaidd Llundain. Eleni rwy’n dathlu cyfraniad o 40 mlynedd ar bynciau trafnidiaeth ar raglenni newyddion, materion cyfoes y BBC ac S4C. Rydw i newydd ddechrau cyflwyno a chynhyrchu yr eitemau trafnidiaeth ar gyfer Business Wales News hefyd.
Rwy’n aelod o Bwyllgor Technegol yr Eisteddfod ac yn angerddol iawn dros yr Wyl hon. Roeddwn yn aelod o’r Bwrdd Rheoli o 2006 – 2018. Rydw i hefyd yn aelod o Gyngor yr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, roeddwn yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cyllid am sbel.
Rydw i hefyd yn mwynhau bwyta allan, ond nid ar hyn o bryd yn amlwg! Fy hoff fwyd yw cig oen Cymreig yma yng Nghymru, bwyd Ffrengig yn Ffrainc, a bwyd Groegaidd yn Groeg! Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hen geir hefyd, roedd fy Nhad yn fecanydd ac fe brynodd Vauxhall Viva i fi ddysgu gyrru, hen gar fy Nhad oedd hwn yn dyddio nol i 1964 ac rydw i wedi bod yn ail weithio’r car ac rydw i’n teithio Cymru (ac ambell waith yn Lloegr) yn arddangos y car mewn sioeau. Roeddwn i fod i fynd i 15 sioe eleni ond mae’r rhain bellach wedi’i canslo nes 2021.

Llawer o ddiolch i Stuart am ei amser ac am rannu ei weledigaeth gyda’n darllenwyr. Edrychwn ymlaen at weld y datblygiadau cyffrous. I ymaelodi a chefnogi gwaith Cymru a’r Byd ewch i https://walesinternational.cymru/en/membership/ – Mae’r tâl aelodaeth unigol yn £25 y flwyddyn ac yn cynnwys cyfraniad o £5 i gefnogi gwaith rhyngwladol Urdd Gobaith Cymru. Mae pob aelod yn unigol yn derbyn gostyngiad o 10% wrth siopa neu archebu ar-lein gyda’n partneriaid busnes a threfnwyr gwyliau yma yng Nghymru!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd.