Rydym wrth ein bodd yn clywed gan aelodau o’n cymuned byd eang ac wrth ein bodd yn rhannu stareon am y Cymry ymhob cwr o’r byd. Gwych felly oedd clywed gan Alwyn ‘Taffy’ Parry draw yn Seland Newydd. Mae Alwyn newydd ryddhau ei lyfr diweddaraf ‘A Brush With Love, Life & Laughter’ sy’n rhannu stori ei fagwraeth yng ngogledd Cymru yn y 40au a’r 50au a sut laniodd y Cymro ifanc yn Seland Newydd. Dyma drefnu cyfweliad gydag Alwyn i ddysgu mwy!

Gynta’i gyd Alwyn, ble cawsoch chi eich magu?
Cefais fy magu yng Nghaernarfon. Mae’r gyfrol ei hun yn datgelu’r cyfan ond roeddwn i’n byw mewn tŷ teras yn y dref fechan hon yn y gogledd. Y castell yw’r peth mwyaf enwog am y dref wrth gwrs ac roeddwn i yno yn y 40au a’r 50au, mae’r dref wedi newid llawer ers hynny! Fel nifer, roedd fy nhad yn un o’r chwarelwyr lleol.

Pa atgofion sydd gennych chi o’r cyfnod yma yng Nghymru?
Mae rhan o fy nghalon i yn parhau yng Nghymru, er fy mod i wedi gadael y famwlad pan o’n i’n 16 oed – 72 o flynyddoedd yn ol! Rydw i’n caru’r Gymraeg a dal yn ymfalchio yn y ffaith bod modd i fi siarad yr iaith, ond mae’r iaith wedi datblygu’n aruthrol erbyn hyn. Mae gen i atgofion hapus iawn o bethau fel mwynhau’r Noson Lawen mewn ambell dafarn neu ddau!

Pam wnaethoch chi adael Cymru?
Pan o’n i’n ifanc, doedd dim llawer o gyfloedd ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru, a wnes i ddim helpu’r sefyllfa gyda fy nghanlyniadau ysgol gwarthus! Cefais fy swydd gyntaf yn Llundain gyda’r Board of Trade, ond wnaeth hi ddim cymryd llawer o amser i fi sylweddoli nad oeddwn i eisiau treulio fy mywyd i yno. Wnes i gais i’r ‘Rhodesia’ bryd hynny er mwyn dod yn heddwas, roeddwn i tua 18 oed ar y pryd, ond rhoddodd fy Nhad a’i ffrind, oedd yn gyfreithwr hwb i’r sefyllfa honna. Yn 21 oed, wnes i dalu £25 er mwyn cael lle ar yr SS northern Star am daith 6 wythnos i Seland Newydd er mwyn ymuno a’r wasanaeth gyhoeddus yno. Rydw i wedi parhau i fyw yma yn Seland Newydd trwy gydol fy mywyd, heblaw am gyfnod o 18 mis pan wned i ymuno a fy ffrindiau o Seland Newydd i wneud yr ‘overseas experience’… ym Mhrydain!!!
Cyn gadael Seland Newydd, roeddwn i wedi gadael y wasanaeth gyhoeddus ac wedi dechrau swydd fel salesman, roeddwn i’n gyfrifol am rhan gwaelod Ynys y Gogledd…wnaethon nhw ddim holi a oeddwn i’n galu gyrru, felly pan ddechreuais i’r swydd ges i dri diwrnod o wersi ac yna i ffwrdd a fi!! Cyn gadael am Brydain, roeddwn i wedi dechrau cwmni plastigion gyda fy ngwraig ar y pryd. Daeth yn un o’r cwmniau plastig mwyaf o’i fath, ac wnes i ei werthu ac ymddeol pan o’n i’n 38 oed.
Waw! Mae hynna’n dipyn o gamp!
Ydy! Mae’r stori am fy natblygiad entrepreneurial yn fy Elyfr ar Amazon – The Quarryman’s son.

Felly, beth ydech chi wedi bod yn gwneud ers ymddeol?
Sawl peth! Yn yr 17 mlynedd dwythaf rydw i wedi dod yn sengl ac wedi ysgrifennu sawl llyfr. Gwerthodd y llyfr ‘Tommy Tui’s Journey’ dros 2,000 o gopiau a hynny heb gymorth cyhoeddwr! Rydw i’n awyddus i ysbrydoli eraill i ysgrifennu a rhannu straeon. Wnes i ddechrau tynnu lluniau yn y dair mlynedd dwythaf, paentio lluniau gweddol naif o fy mhlentyndod, gallwch weld esiamplau yn y llyfr diweddaraf ‘A Brush with Love, Life & Laughter’. Arwahan i hynny, rydw i wedi byw bywyd distaw!

Soniwch ychydig am yr ardal ble rydech chi’n byw yn Seland Newydd.
Dwi’n byw tua 20km i’r gogledd o’r Brifddinas sef Wellington, sydd wedi ei amgylchynnu gan 500 acer o goediwg neu’r ‘bush’ fel ryden ni’n ei alw, dwi’n berchen ar 5 acer o’r rhain. Rydw i’n ffodus i fedru edrych allan ar y Cook Straits a’r ardal tuag at Kaikoura, gyda’i fynyddoedd sy’n wyn dan eira, mae rhain tua 80km i ffwrdd o nghartref.
Mae yna gysylltiad cryf rhwng Cymru a Seland Newydd. Faint mae nhw’n gwybod am Gymru?
Mae pobl Seland Newydd yn fobl sydd wedi arfer teithio, ac yn naturiol mae nhw’n gwybod am Gymru a’r Cymry trwy’r rygbi. Yn anffodus, prin iawn yw’r rhai sydd wedi teithio tu hwnt i Gaerdydd, felly dyden nhw ddim wedi cael y profiad llawn ac wedi clywed y Gymraeg. Does dim llawer yn gwybod am ein iaith hardd ni.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu?
Rydw i wedi bod yn ysgrifennu am y mwyafrif o mywyd, gan fy mod i wedi bod yn gweithio yn y maes marchnata a dylunio nwyddau, gan gynnwys ysgrifennu llawlyfrau ayyb. Rydw i wedi cyhoeddi tri llyfr (collais y pedwerydd pan wnaeth lladron ddwyn fy nghyfrifiadur!!) mae un allan o brint a’r llall ar Amazon, ac mae’r diweddaraf ar gael ar ffurf PDF. Rydw i’n hapus i chi rannu’r PDF gydag aelodau Undeb Cymru a’r Byd am ddim. Dydw i ddim am wastraffu’r ychydig o amser sydd gen i ar ol yma yn chwilio am gyhoeddwr, rydw i’n rhannu ar PDF yn y gobaith y bydd yn ysbrydoli eraill i sgwennu a rhannu eu stori gyda’r teulu a’r gynulleidfa ehangach.

Diolch yn fawr i Alwyn am rannu ei brofiad a’i stareon difyr gyda ni, cofiwch bori ar Amazon am ei lyfrau a’i anturiaethau a’i lwyddiant ysgubol. Edrychwn ymlaen at rannu’r PDF gyda’n aelodau.
Os nad ydech chi’n aelod o Undeb Cymru a’r Byd ewch i’n gwefan a gallwch ymaelodi arlein – cewch groeso cynnes ymhlith ein teulu byd eang ac os ydech chi’n ymaelodi fel unigolyn, cewch fanteisio ar nifer o gynigion arbennig gan ein partneriaid!
Os hoffech rannu eich stori gyda’n cymuned rhyngwladol cysylltwch a ni ar marketing@walesinternational.cymru.
Heulwen Davies, Undeb Cymru a’r Byd.