Cwrdd Niki Pilkington – Cymru
Os nad ydech chi wedi clywed am Niki Pilkington a’i gwaith celf anhygoel, ble yn y byd ydech chi wedi bod? Mae gan yr artist dalentog hon dros 61,000 o ddilynwyr ar Instagram ac rydw i wedi bod yn ffan enfawr o’i gwaith ers blynyddoedd! Mae Niki wedi byw mewn sawl gwlad yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac roeddwn i’n gyffrous iawn i ddarganfod ei bod hi adref yng Nghymru ar hyn o bryd. Esgus perffaith i drefnu cyfweliad i ddysgu mwy amdani…

Gynta’i gyd Niki, o ble ti’n dod?
O’n i’n ffodus iawn i gael fy magu yn Morfa Nefyn, Gogledd Cymru, ardal hardd iawn. Rydw i newydd ddychwelyd yma o LA gyda fy ngwr Johnny.
Ydech chi’n bwriadu setlo yng Nghymru?
Mae’n stori hir! Roedden ni i fod i symud i’n cartref newydd yn Llundain, ond oherwydd y lockdown, doedd hynny ddim yn bosibl. Rydw i’n ffodus iawn i fod yma gyda fy nheulu, ond mae’r dodrefn i gyd yn Llundain! Dwi ddim yn cwyno, mae’n le braf iawn i fod mewn lockdown ac rydw i’n mwynhau’r bywyd arafach a mwy hamddenol am ychydig.
Sonia ychydig am dy gefndir fel artist
Wel ar ol cwblhau’r chweched dosbarth ym Mhwllheli, es i ymlaen i wneud cwrs sylfaen mewn celf yng Ngholeg Menai, Bangor. O’n i wrth fy modd efo’r cwrs a phenderfynnais fynd ymlaen wedyn i astudio’r cwrs ‘fashion illustration’ yng Ngholeg Ravensbourne yn Llundain. Wel, dyna oedd y cynllun! Yn anffodus penderfynnodd y tiwtor adael ac roedd rhaid inni ail feddwl pa gwrs hoffen ni wneud. O’n i’n ypset am hyn, ond yn y diwedd, fe weithiodd pethau allan am y gorau oherwydd es i astudio cwrs hyrwyddo fashiwn ‘fashion promotion’, felly roedd yn gyfle i ddysgu llawer mwy am y diwydiant, wnes i ddysgu llawer o sgiliau digidol ac roedd yn fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith.

Ti wedi gweithio mewn sawl gwlad – sut ddigwyddodd hyn?
Mae llawer o hyn lawr i’r gwr Johnny! Wnaethon ni gwrdd yn y Coleg, mae o’n dod o Nottingham ac roedd o’n astudio dylunio graffeg, ac hefyd yn un o berfformwyr ‘parkour’ proffesiynnol cyntaf Prydain! Cafodd swydd gyda stiwdio dylunio ym Mharis ar ol graddio, felly es i efo fo! Buon ni’n byw yno am ddwy flynedd. Yn 2013 fe briodon ni yn Las Vegas, ac yn fuan wedyn gofynnodd ei gyflogwyr iddo agor ei swyddfa newydd nhw yn Efrog Newydd. Buon ni’n byw yno am 5 mlynedd cyn inni symud i LA.
Wnes di fwynhau dy amser yn America a Pharis?
Do! Fel merch sy’n dod o’r wlad, rydw i wastad wedi bod yn eithaf ‘quirky’ a gwahanol. Mae’r ffordd dwi’n gwisgo ac arddull fy ngwaith yn gweddu’r ddinas neu’r dref, ond trwy fy ngwaith, rydw i’n mynd a Chymru efo fi i bobman. Pan symudais i Lundain o’n i’n gwybod mai merch y ddinas o’n i, ac ro’n i wastad eisiau mynd i weithio yn Efrog Newydd, felly roedd hi’n freuddwyd i fyw a datblygu fy ngwaith yno. Roedd LA yn gefndir perffaith i fy ngwaith, mae fy ngwaith yn llawn neon lliwgar ac mae neon ymhobman yn LA!

Mae dy arddull yn unigryw, sut datblygodd hwn?
Cyn symud i Baris, ro’n i’n ffodus i gael gwaith gyda Oriel Plas Glyn y Weddw yng ngogledd Cymru. Yn ystod y cyfnod wnes i gwrdd a nifer o Gymru Cymraeg, a chriw o hen ferched hyfryd oedd yn dod yno’n aml. Roedden nhw’n trafod ac yn dysgu idiomau Cymraeg i fi, ac er fy mod i’n medru’r Gymraeg ac wedi fy magu yn yr ardal, doeddwn i erioed wedi clywed amdanyn nhw ac ro’n i wedi syrthio mewn cariad efo nhw. ‘Ara Deg Mae Dal Iar’, ‘Bwrw Hen Wragedd a Ffyn’…sawl un, ac o’n i’n poeni y byddai rhain yn mynd ar goll neu bod dim cyfle i bobl ifanc i ddysgu amdanynt. Penderfynnais selio fy ngwaith ar yr idiomau, i’w gwneud yn berthnasol i bobl ifanc.
Trwy gyfuno’r idiomau Cymraeg gyda’r arlunwaith neon chwareus a chyfoes, mae’n dod a bywyd newydd iddynt. Wnes i arddangos y gwaith am y tro cyntaf mewn arddangosfa ym Mhlas Glyn y Weddw, ac roedd cyfan wedi’i werthu! Ers hynny, rydw i wedi datblygu casgliad eang o waith gydag idiomau Cymraeg yn cynnwys prints a chardiau a hefyd casgliad o fapiau cyfoes o Gymru a llefydd eraill. Mae wedi bod yn braf gallu arddangos a rhannu rhain gyda chwsmeriaid a chynulleidfaoedd rhyngwladol

Yn ogystal a dy waith dy hun, rwyt ti hefyd wedi gweithio gyda nifer o frandiau ffasiwn enwog
Do! Rydw i wedi cael y cyfle i weithio gyda brandiau mawr fel Nike a Ted Baker ac hefyd wedi gweithio gyda brandiau fel Google. Rydw i wedi bod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Artistig i gwmni Tanya Whitebits yng Nghymru hefyd, cwmni tan ffug ac wedi cael hwyl yn ail frandio’r poteli a chyfrannu at ddelwedd y cwmni arlein. Dwi hefyd wedi bod yn brysur yn agor siopau ‘pop up’ dros dro yn y gwledydd amrywiol, ac mae hynny’n braf iawn oherwydd dwi’n cael cyfle i gwrdd pobl a chwsmeriaid wyneb yn wyneb ac mae hynny’n bwysig i fi. Dwi’n awyddus i glywed yr adborth a chael sgwrs gyda’r cyhoedd.

Sut oedd pobl Paris ac America yn ymateb i’r casgliad Cymraeg?
Mae mor gyffrous i gael y cyfle i fynd a Chymru a’r Gymraeg efo ti i wledydd eraill, i rannu ‘adref’ gyda’r byd. Mae’r ymateb wedi bod yn wych, mae pobl wrth ei bodd yn dysgu am Gymru ac yn rhyfeddu at yr iaith Gymraeg. Mae gen i nifer o gwsmeriaid yn Awstralia ac mae nifer o bobl o amgylch y byd yn casglu fy ngwaith ac mae hynny’n gyffrous. Rydw i bob amser yn cynnwys nodyn gyda’r gwaith Cymraeg, yn cynnwys y cyfieithiad a’r ystyr Saesneg fel bod pobl o amgylch y byd yn medru deallt beth mae’r geiriau’n meddwl, ac yn medru rhannu hyn gydag eraill.

Beth yw’r darn mwyaf poblogaidd yn y casgliad?
M! Mae hynna’n anodd! Mae’n newid yn ddibynnol ar adeg y flwyddyn a’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd. Mae’r darn ‘Paid Newid Byth’ yn boblogaidd iawn, mae’n rhywbeth gall bobl ifanc a phobl o bob oed uniaethu gydag ef. Mae’r mapiau o Gymru bob amser yn boblogaidd hefyd, mae nifer o bobl yng Nghymru yn hongian rhain ar y wal neu’n anfon at deulu a ffrindiau o Gymru sy’n byw mewn rhannau eraill o’r byd, mae’n ffordd braf i’w atgoffa nhw o ‘adref’.

O ystyried yr holl bethau ti wedi gwneud hyd yma, beth oedd dy ffefryn hyd yma?
Y cytundeb cyntaf gyda Nike yn Efrog Newydd, roedd o mor gyffrous a’r cyfan yn digwydd mor gyflym. O’n i’n gweithio yn y brif siop yn Efrog Newydd ac roedd hynny’n brofiad anhygoel ynddo’i hun. Wnes i greu map enfawr o Efrog Newydd a Brooklyn ac roedd pobl yn dod mewn i ryngweithio gyda’r map yn y siop. Roedd ffotograffydd yn tynnu fy llun fel rhan o’r ymgyrch ac roedd o’n gymaint o hwyl! Dwi’n teimlo’n ffodus i gael fy nhalu am wneud yr hyn dwi’n caru gwneud.
Felly ydech chi am aros ym Mhrydain?
Dwi’n credu bod ni! Mae’r gwr yn gweithio i’r un stiwdio dylunio ac yn gweithio o’r swyddfa yn Llundain a dwi’n edrych ymlaen i rannu fy amser rhwng Cymru a Lloegr. Mae gen i nifer o siopau sy’n gwerthu fy ngwaith yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen i ehangu i Loegr rwan.
Beth yw’r uchelgais Niki?
Gallu parhau i wneud yr hyn dwi’n gwneud! Rydw i yn y broses o ehangu’r casgliad o nwyddau sydd gen i – gwyliwch y gofod! Uchelgais arall yw parhau i werthu fy ngwaith am bris rhesymol er mwyn sicrhau bod pawb yn medru mwynhau a fforddio’r gwaith. Pan o’n i’n ifanc, o’n i’n ysu i brynnu posteri a lluniau ond roedden nhw mor ddrud a doedd gen i ddim digon o arian poced. Dydw i ddim eisiau i bobl ifanc orfod safio am hydoedd i brynnu fy ngwaith. Rydw i’n gobeithio gallai barhau i rannu’r neon ymhob cornel o’r byd a gwneud i bawb deimlo’n hapus trwy fy ngwaith.

Diolch o galon i’r anhygoel Niki Pilkington am rannu’r neon a’r llwyddiant rhyngwladol gyda’r Cymry byd eang. Os ydech chi’n aelod o Cymru a’ Byd, byddwch chi’n gweld mai Niki yw seren y clawr yn y rhifyn nesaf! Newyddion cyffrous arall! Mae Niki yn un o’n partneriaid busnes, sy’n golygu bod pob aelod unigol o Cymru a’r Byd yn cael 10% o ostyngiad ar bob archeb yn siop Etsy Niki Pilkington! Os nad ydech chi’n aelod, cliciwch yma i ddarganfod mwy a manteisio ar 10% o ostyngiad gyda nifer o gwmniau o Gymru!
Os hoffech chi rannu eich stori cysylltwch a ni ar marketing@walesinternational.cymru
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd.