Ein rol ni yma yn Undeb Cymru a’r Byd yw cysyllty’r Cymry byd eang, ryden ni wedi bod yn gwneud hynny ers 1948. Rwan, yn fwy nag erioed, rydym o’r farn bod angen inni gadw mewn cysylltiad, rhannu ein meddyliau, edrych ar ol ein gilydd a rhannu newyddion positif am yr hyn mae’r Cymry’n cyflawni ymhob cwr o’r byd. Yr wythnos hon, cawsom gyfle i sgwrsio gyda Chloe Wilson yn America.

Gyntaf oll Chloe, sonia ychydig am dy fagrwaeth yma yng Nghymru
Wel ges if y magu yn y Porth yn y Rhondda. O’n i’n mwynhau canu ac Eisteddfota pan o’n i’n fach, nes i ddechrau llefaru yn 4 oed ac wedyn canu’n unigol, deuwdau ac wedyn canu mewn corau. O’n i’n aelod o Gor Ysgol y Cymer ag o’n ni’n perfformio yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. O’n i’n gwybod mai ar lwyfan o’n i eisiau bod!
Sut wnes di lanio yn America?
Un o’n athrawon i wnaeth son am yr American Academy yn Efrog Newydd, mae’n enwog ac rydw i wedi bod yn obsessed gyda Broadway a Musical Theatre ers pan o’n i’n fach felly wnes i benderfynnu mynd am glyweliad yn Llundain. Ges i fy nerbyn ac o’n i mor gyffrous! Ond doedd e ddim yn hawdd, o’n i heb sylweddoli pa mor ddrud oedd ffioedd dysgu yn America, £40,000 am y cwrs a’r llety ar ben hynny.

Waw! Sut es di ati i godi arian?
O’n i’n lwcus bod fy Nain wedi penderfynnu cefnogi ac fe es i ati i wneud cyngherddau a digwyddadau codi arian. Wnes i benderfynnu ysgrifennu at bob person enwog o’n i’n gwybod am o Gymru a gofyn a fydden nhw’n hapus i noddi fi! Yn ffodus, ges i ateb nol gan Michael Sheen ac fe gytunodd e i gyfrannu, ni’n ffrindiau erbyn hyn sy’n cwl!

Sut deimlad oedd hi pan gyrhaeddaist ti yn Efrog Newydd?
Wnes i gyraedd yn 2016 ac roedd hi’n sioc i fynd o Ysgol y Cymer i Efrog Newydd! O’n i’n caru fe yn syth! O’n i ddim yn nabod neb arall yma, ond mae’n ysgol rhyngwladol ac roedd hi’n hawdd gwneud ffrindiau. Roedd popeth mor fawr ac mor brysur, roedd y campws drws nesaf i adeilad yr Empire State oedd jyst yn hollol cwl!
Oedd y myfyrwyr eraill yn gwybod am Gymru?
Na! Mae’n amlwg bod gyda ni lot o waith i wneud i roi Cymru ar y map yn rhyngwladol, ond dwi’n joio dysgu pobl am Gymru a’r Gymraeg. Mae’r bobl yma yn rhyfeddu at fy acen, o’n i ddim yn sylweddoli pa mor gyflym o’n i’n siarad nes i fi ddod yma! Mae pobl yn credu bod fi’n dod o’r India, Jamaica neu’r Iwerddon! Dwi wedi gorfod addasu fy acen ar gyfer gwaith, wedi gorfod arafu wrth siarad a pheidio rholi’r r’s mor gymaint!

Beth rwyt ti wedi gwneud ers i ti raddio?
Wnes i raddio yn 2018 ac rydw i wedi bod yn lwcus i wneud llawer o wahanol bethau, ac yn parhau i fynd i glyweliadau a gwersi canu yn gyson. Yn 2020 wnes i chwarae un o’r prif rannau mewn sioe gerdd o’r enw The Blaze, hwn oedd y New York Premiere felly roedd hi’n cwl iawn i fod yn rhan o hwn. Dwi wedi gwneud ffilmiau myfyrwyr a hefyd wedi gwneud hysbysebion colur a gwallt. Rydw i hefyd wedi bod yn gwneud sioeau Shakespeare ac mae fi a fy ffrindiau wedi sefydlu cwmni theatr, ryden ni’n perfformio mewn bariau ac ati.

Pa mor hawdd yw cael gwaith yn Efrog Newydd?
Mae’n rhaid i chi weithio’n galed a chwilio am bethau o hyd, ond mae gweithio’n galed yn fy ngwaed i! Dwi’n mynd o un clyweliad i’r llall ond ar y cyfan mae’n oce ac rwy’n lwcus.

Sonia am y sefyllfa yn Efrog Newydd ar hyn o bryd
Mae’n ddinas gwahanol iawn i’r arfer nawr. Mae’r Coronavirus wedi taro’r ddinas yn wael iawn fel rydech chi siwr o fod wedi gweld yn y newyddion. Rydw i wedi symud i fyw i Boston dros dro, mae teulu fy nghariad yn byw yma ac mae nhw wedi caniatau i fi aros. Fel pobman yn y byd, mae popeth lan yn yr awyr ar hyn o bryd a neb yn gwybod pa mor hir fydd hyn yn parhau. Does dim gwaith ar gael a ddim i’w wneud ac mae’n eithaf dychrynllyd. Mae hi mor bwysig inni gadw’n saff a helpu’n gilydd a chadw cysylltiad gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd ar hyd y byd. Mae technoleg yn help mawr.
Pan ti yn Efrog Newydd, rwyt ti’n rhan o’r gymdeithas Gymraeg yno, sonia am hyn
Ydw, rydw i wedi ymuno â New York Welsh yn ddiweddar ac rydw i hefyd yn perfformio ac yn darllen i’r criw. Mae na tua 400 o aelodau; actorion, newyddiaduwryr, cerddorion, pob math o bobl o Gymru a hefyd nifer sy’n teimlo cysylltiad gyda’r Cymry am wahanol resymau. Mae fel teulu, ac ryden ni’n cefnogi ein gilydd. Mae mynd i’r cyfarfodydd yn gwneud inni deimlo fel bod ni nol gartref. Ni’n cwrdd yn nhafarn y Liberty, mae’r perchennog yn dod o Gymru! Mae wedi trasnewid y gofod lawr stair i fod yn hwb i’r Cymry, mae’n cwl! Mae’r trefnwyr yn wych ac ryden ni wedi cael cyflwyniadau gan Mathew Rhys, Erin Richards, Michael Sheen a llawer mwy. Dwi’n edrych mlaen i ddal lan gyda’r ‘Welshies’ pan mae hyn drosodd.
Wyt ti’n bwriadu aros yn America?
Dwi’n methu Cymru, yn methu fy nheulu a ffrindiau a byddai’n trio mynd gartref unwaith neu ddwy bob blwyddyn os dwi’n gallu. O’n i fod i fynd gartref yn yr haf ar gyfer priodas ffrind, ond mae hynny’n ansicir nawr fel popeth. Dwi moyn aros yma yn Efrog Newydd am sbel, dwi ddim yn teimlo fel bod fi wedi cael y profad llawn eto. Dwi’n caru’r ‘work ethic’ a’r cyffro felly os allai gael y visa byddai’n aros yma am y tro.

Beth yw’r freuddwyd?
Broadway. Dwi moyn neud y sioeau mawr. Dwi’n caru’r buzz sydd yna wrth berfformio i gynulleidfa fyw.
Yn olaf, pa gyngor sydd gen ti i bobl ifanc yng Nghymru sydd eisiau dilyn gyrfa o’r fath?
Paid meddwl bod hyn tu hwnt i ti, paid meddwl bod e’n amhosibl neu’n rhy fawr i ti. Dilyn dy freuddwyd a rho gynnig arni. O’n i’n breuddwydio am hyn pan o’n i yn yr ysgol a nawr dwi’n neud e!
Diolch yn fawr i Chloe am y sgwrs ac edrychwn ymlaen i ddilyn dy hanes a dy anturiaethau yn Efrog Newydd. Ewch draw i’n sianeli Cyfryngau Cymdeithasol i weld neges fideo a mwynhau can gan Chloe.
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd.
Os hoffech gyfrannu a rhannu eich stori chi ar y blog, ebosiwch ni ar marketing@walesinternational.cymru