£12,000 ar gael i artistiaid sydd wedi’i hysbrydoli gan Gymru!
Cawsom ebost diweddar gan drefnwyr Cystadleuaeth gelf Wales Contemporary/ Cymru Gyfoes. Roeddynt yn awyddus i rannu gwybodaeth am y gystadleuaeth gyda’n cynulleidfa fyd eang. Gyda gymaint ohonnoch chi adref ar hyn o bryd, roeddem yn awyddus i drefnu cyfweliad gyda’r trefnwyr er mwyn dysgu mwy am y gystadleuaeth ac i ysbrydoli ein darllenwyr i fynd amdani!
Gyntaf oll. Beth yw’r gystadleuaeth a pryd cafodd ei lansio?
Wales Contemporary/Cymru Gyfoes yw’r enw ac mae hi bellach yn ei ail flwyddyn. Mae’n gystadleuaeth agored ryngwladol a ddatblygwyd gan Oriel y Glannau/Waterfront Gallery mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Mae Cymru Gyfoes yn dathlu pob agwedd o’r wlad drwy wahodd artistiaid i gyflwyno gwaith sy’n cael ei ‘ Hysbrydoli gan Gymru ‘ h.y. gan ei hanes hynafol, ei hanes celf, ei threftadaeth, ei thirwedd (gwledig, trefol neu wleidyddol) a’i diwylliant cyfoes. Ar gyfer yr ail rifyn hwn, bydd gwaith 2 a 3 dimensiwn yn dderbyniadwy.

Beth rydech chi’n chwilio amdano?
Rhaid bod y gwaith celf yn waith 2D neu 3D, a hwnnw mewn unrhyw gyfrwng heblaw ffotograffiaeth. Yr uchafswm maint ar gyfer gwaith 2D yw 140cm mewn unrhyw ddimensiwn, a 50cm ar gyfer gwaith 3D mewn unrhyw ddimensiwn. Nid oes unrhyw leiafswm maint.
Pwy ddaeth i’r brig yn 2019?
Enillwyd cystadleuaeth 2019 gan Day Bowman a enillodd wobr o £5,000 a phreswyliad pythefnos yng ngorllewin Cymru. Mae hi bellach yn arddangos yn eang yn y DU.
Ydy hi’n agored i bawb?
Mae’r gystadleuaeth ar agor i bob artist 18 oed a hŷn yn y DU neu’n rhyngwladol.
Fedrwch chi ddatgelu’r panel dyfarnu?
Gallwn! Yr Artist Basil Beattie RA, y Cerflunydd a Dylunydd Amgylcheddol Sebastian Boyesen a’r arlunydd Gerda Roper.
Mae’r wobr ariannol o £12,000 yn anferth! Sut mae hwn yn cael ei rannu?
Ydy! Bydd yn hwb mawr i’w gyrfa, yn enwedig rwan. Mae’r wobr gyntaf yn £4000
Canmoliaeth Uchel gwaith 2D – £2000
Canmoliaeth Uchel gwaith 3D – £2000
Gwobr Artist Ifanc (25 oed ac iau) – £1000
Gwobr i artistiaid a anwyd, a addysgwyd neu sy’n byw yng Nghymru – £1500
Dewis y cyhoedd – £1500
Os yw ein darllenwyr yn awyddus i gysylltu, sut mae gwneud hynny?
Trwy ein gwefan: https://walescontemporary.artopps.co.uk/
Neu info@parkerharris.co.uk / 020 3653 0896.
I gadw fyny gyda’r diweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol #WalesContemporary.
Trydar/ Facebook ac Instagram: @parkerharrisco
Atgoffwch ni eto o’r dyddiad cau hollbwysig
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Mawrth 14 Ebrill 2020.
Diolch o galon i’r trefnwyr am eu hamser ac os byddcwh chi’n cystadlu – POB LWC! Cifiwch rannu eich delwedda gyda ni ar @cymruarbyd ar Trydar, Facebook ac Instagram!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd
*Os hoffech rannu stori gyda’n darllenwyr, ebostiwch marketing@walesinternational.cymru