Dyma Junior – band pync-pop newydd o Gaerdydd
Mae nifer o bobl yn gwybod mai gwlad gerddorol yw Cymru, ac rydym yn falch ein bod ni’n dal i ddweud hyn heddiw. Mae gan Gymru gymuned gerddorol sydd wedi cyfrannu at gerddoriaeth ledled y byd. Hefyd, mae sawl enw enwog wedi dod o Gymru yn ystod yr 20fed ganrif, yn cynnwys Tom Jones, Mary Hopkins, Bonnie Tyler a llawer mwy a oedd yn rhan o rai o gynyrfiadau cerddorol mwyaf erioed, megis John Cale o The Velvet Underground neu Roger Glover o Deep Purple a Rainbow.
Aeth Kat, ein Rheolwr Marchnata, i lawr i Gaerdydd i gwrdd â band pync-pop Junior. Gyda sawl taith ledled y DU, yn ogystal â theithiau rhyngwladol yn UDA a Chanada, mae’r triawd yma’n sicrhau egni, adloniant a llawenydd yn eu perfformiadau, ac ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal!

Ond y tu hwnt i wiriondeb y band, mae pob un o’r aelodau’n llwyddiannus iawn yn eu braint eu hun, ac maen nhw’n llwyddo i wneud pethau mawr! Mae Mark Andrews, basydd y grŵp, yn reslwr Cymreig proffesiynol. Mae ef wedi cofrestru â WWE, lle mae e’n perfformio ar eu sioe arbennig, WWE 205 Live, yn ogystal ag i’w brand NXT UK. Mae hefyd yn adnabyddus am ei gyfnod o Impact Wrestling, o dan yr enw Mandrews.
Mae Si Martin, drymiwr y band, yn sefydlydd Heads Above The Waves, sefydliad nad yw’n gwneud elw sydd â’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o iselder a hunan-niwed gan bobl ifanc.
Mae Matt Attard, prif gantor a gitarydd y band, hefyd yn sefydlydd Hot Tags – Media Works, sef gwasanaeth unigryw sy’n creu caneuon mynediad reslo, ac mae wedi derbyn dros hanner miliwn o ffrydiau y flwyddyn hon ar Spotify!
Cawsom sgwrs hyfryd gyda nhw, lle’r oedden nhw’n sôn am eu profiadau wrth ddechrau’r band, a sut mae bandiau pop Cymreig eraill wedi dylanwadu ar eu harddull a datblygiad cerddorol, ond hefyd pa mor wych yw hi i gyfrannu at gerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol.
Felly, yn gyntaf oll, diolch am gwrdd â ni! Allech chi ddweud mwy wrthym ni am Junior?
Matt: Wel, rydym yn fand pop-pync o dri o dde Cymru. Daethon ni at ein gilydd yn gynnar yn 2014 ac wedi bod ati ers hynny. I ddechrau, roedd yn debyg i Blink 182 – sy’n gwneud synnwyr oherwydd y tebygrwydd. Ond wrth i ni ddechrau arbrofi â cherddoriaeth, daethon ni o hyd i’n sain gerddorol ein hunain. Mae gan y tri ohonon ni flas eclectig ar gerddoriaeth – er enghraifft, rwy’n hoff iawn o Radiohead a’r Beatles.
Si: Ers oeddwn yn fachgen bach, roeddwn i eisiau cyfrannu at gerddoriaeth Gymreig, yn bennaf oherwydd mae nifer o fandiau rwy’n eu hedmygu ers talwm yn dod o Gymru. Dyma yw fy 10fed flwyddyn yma yng Nghymru ac rwy’n dwlu arni! Des i Gymru i astudio yn y brifysgol, ac roedd eisiau arnaf aros – ac un o brif resymau dros hyn oedd y byd cerddoriaeth Gymreig. Hefyd, rwy’n dwli ar yr acen!
And your main inspirations?
Si: I’m really into alternative rock music like Bright Eyes which is nothing like Junior, but still very inspiring. Mark likes things like “Midwest Emo” with nice, twinkly melodies.
Mark: Yeah they always make fun of the music I listen to, saying I’m always trying to make all of our songs sadder that they were originally supposed to be! I do like the softer music – sometimes even sad music and I always want to add more of a melody on top of the song. Bands such as American Football and
A beth am eich ysbrydoliaeth?
Si: Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth roc amgen fel Bright Eyes sy’n hollol wahanol i Junior, ond yn ysbrydoledig iawn. Mae Mark yn hoffi pethau fel “Midwest Emo” sydd â melodïau gwibiog a phert.
Mark: Ie, maen nhw’n wastad yn chwerthin ar fy mhen oherwydd y gerddoriaeth rwy’n gwrando arni, ac yn dweud fy mod yn ceisio creu caneuon tristach na beth ddylen nhw fod! Rwy’n mwynhau’r gerddoriaeth dyner – cerddoriaeth drist hyd yn oed, ac rwy’n wastad eisiau ychwanegu melodi ar ben y gân. Bandiau megis American Football a –
Matt: Rydym ni’n falch iawn o’r gerddoriaeth roc Gymreig hefyd, gyda bandiau Cymreig fel Funeral for a Friend, Blackout, Bullet for my Valentine a Neck Deep yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r diwydiant. Mae’n rhyfedd feddwl am lwyddiant Neck Deep – un o fandiau pop-pync mwyaf y byd sy’n dod o Wrecsam!

Wel, mae’r goreuon yn dod o Wrecsam – a finnau’n dod o Wrecsam! Felly, pwy sy’n rheoli dros y gerddoriaeth, sut mae’n gweithio?
Si: Rydym ni i gyd yn cyfrannu at y caneuon, ond Matt yw’r un sy’n gwneud y mwyaf.
Matt: Beth sy’n digwydd fel arfer yw fy mod i’n creu bras gynllun y gân, neu syniad o gân fydd ddim yn dod yn gân gan Junior nes i’r tri ohonom ni gyfrannu ati. Dyna’r union bryd lle mae ein syniadau roeddwn yn sôn amdanyn nhw o’r blaen yn dod at ei gilydd.
Si: Mae bandiau fel Brand New wedi cael effaith arnaf, ac rwyf wedi dysgu sawl peth ohonyn nhw, fel curiadau rhythmig ar y drymiau rwy’n hoffi eu rhoi yn ein caneuon.
Matt: Rydym yn hoffi cymysgu patrymau cerddorol gan wahanol fandiau. Wrth ddechrau’r band, roedd yn hawdd iawn i greu caneuon pop gan mai dyna oedd beth oedd pawb arall yn ei wneud yr adeg honno. Doeddwn ni ddim yn hoff iawn o’r fath o gerddoriaeth honno, felly fe wnaethon ni drio rhywbeth gwahanol.
Mark: Mae Si yn ymwybodol o rythmau hefyd, felly mae ei rannau ef ar y drymiau yn chwarae rôl allweddol wrth greu cerddoriaeth newydd.
Ble’r ydych chi wedi teithio gyda’r band?
Si: Wel, rydym ni wedi teithio o gwmpas y DU sawl gwaith, ac aethon ni i Ganada ar ddiwedd 2017 – roedd hwnnw’n brofiad hwyl iawn. Ond, er mae’n ymddangos yn rhyfedd, dydyn ni byth wedi teithio i weddill Ewrop gyda Junior, a hoffem ni wneud hynny – dyna yw ein bwriad eleni…

Oes gennych chi lawer o gefnogaeth o Gymru?
Matt: Rydym ni’n ffrindiau â sawl cantor Cymreig ac rwyf wedi dechrau teimlo pwysigrwydd ein cefndiroedd gan mai ein Cymreictod sy’n ein hymuno ni, ac nid ein genre.
Si: Fel y soniais amdano o’r blaen, ches i ddim fy ngeni yng Nghymru, ond ers oeddwn yn fachgen bach, roeddwn i eisiau cyfrannu at gerddoriaeth Gymreig, yn bennaf oherwydd mae nifer o fandiau rwy’n eu hedmygu ers talwm yn dod o Gymru. Hefyd, roeddwn i o’r farn y byddai pob un cantor Cymreig yn adnabod ei gilydd gan fod Cymru’n wlad fach.
Y ddinas fawr leiaf yw Caerdydd, sy’n wych – mae’n debyg i Lundain, ond heb y cynnwrf, y torfeydd a’r busnes.
Oes gennych gyngor i unrhyw un sydd ar fin dechrau?
Os oes plant mas ’na sydd eisiau bod fel Junior, dw i eisiau dweud wrthych i beidio â dilyn y trywydd wnaethon ni ei ddilyn. Hefyd dw i eisiau sicrhau eich bod chi’n mwynhau’r gerddoriaeth – dyna’r peth pwysicaf. Sicrhewch eich bod gennych frand clir, a bod eich syniad yn gryf o’r dechrau – gwnewch yn siŵr fod popeth yn barod cyn i chi gyhoeddi unrhyw beth. Mae’r enw yn bwysig i feddwl amdano cyn dechrau hefyd!
Felly ble yw eich hoff le i berfformio ynddo, yng Nghymru a thu hwnt?
Matt: Wel, mae Caerdydd – wrth gwrs – yn gartref i ni, felly rydym bob tro yn teimlo’n arbennig wrth berfformio yma. Bydd yn rhaid dweud Clwb Ifor Bach gan eu bod nhw’n dod â chantorion a thorfeydd gwych!

Si: Mae’n rhaid i fi ddweud pa mor dda mae Undertone yng Nghaerdydd wedi bod i ni ers i ni ddechrau. Rydym ni wedi ffilmio fideos cerdd yno, a gigiau anhygoel hefyd. Mae’n rhagorol hefyd fod y bandiau sydd wedi ein hysbrydoli wedi perfformio yn Undertone hefyd.
Matt: A thu hwnt i’r DU, Cherry Colas yn Toronto. Mae Toronto’n wych, mae’n lle neis ac yn eithaf gwahanol i’r teimlad rydym yn ei deimlo wrth berfformio yn y DU.
Mark: Wrth gwrs mae’n rhaid i ni sôn am Download Festival hefyd!
——————————–
Wel, diolch yn fawr i Junior am siarad â ni, ac os oes gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw, gallwch fynd at eu gwefan www.musicofjunior.co.uk neu chwiliwch amdanyn nhw ar Facebook ac Instagram.
Ac os ydy’r erthygl hon wedi eich cyffroi, mae Clwb Ifor Bach yn cynnal noson arbennig yn Llundain yn The Lexington ar gyfer Wythnos Cymru yn Llundain [link] heno – y mae Cymru a’r Byd wedi cael gwahoddiad ar ei chyfer. Rydym yn gobeithio gweld chi yno!