Wedi ei magu mewn pentref gwledig yng Ngogledd Cymru, mae Heledd Williams wedi ymgartrefu yn Hong Kong ers dros 14 mlynedd ac am ddechrau swydd newydd fel Athrawes Ymgynghorol yn Adran Addysg Llywodraeth Hong Kong. Dyma drefnu sgwrs gyda Heledd i glywed am ei thaith o Ogledd Cymru i Hong Kong.
O ble ti’n dod yn wreiddiol?
Dwi’n dod o bentre’ o’r enw Betws yn Rhos yng Ngogledd Cymru. Es i i’r ysgol gynradd yno; roedd hi’n ysgol andros o fach ond yn le hapus. Dwi’n cofio athro ffantastig o’r enw Mr Morgan, roedd o’n wych ac yn ddylanwad mawr arnai. Es i ymlaen i Ysgol y Creuddyn yn ymyl Llandudno.
Sut datblygodd dy yrfa ar ol gadael yr ysgol?
Hanes amrywiol iawn sydd gen i o ran cymwysterau – ddim yn linell syth o gwbl a hynny’n eirionig a minnau bellach yn gweithio ym myd addysg. Wnes i ddim pasio Lefel A, ond es i Goleg Technegol Llandrillo yn Llandrillo yn Rhos a gwneud cwrs ysgrifenyddol cyn gweithio fel copi teipydd yn darparu newyddion wythnosol i wahanol bapurau yng Nghogledd Cymru. Yn ogystal â phrawf-ddarllen ‘wnes i ysgrifennu erthyglau. Heddiw mae ysgrifennu straeon byr dal yn un o fy niddordebau i a ges i fy ngwobrwyo gyda chanmoliaeth uchel mewn cystadleuaeth flwyddyn ddiwethaf, dwi’n falch iawn o hynny. Es i ymlaen i astudio cwrs busnes a chyllid cyn gwneud gradd mewn gweinyddiaeth busnes. Fues i’n gweithio fel ysgrifennydd cyfreithiol am deng mlynedd. Taith zig-zag fel o’n i’n dweud!
Pryd benderfynias di fentro i’r byd addysg?
Pan o’n i’n 35, sydd yn reit hen! O’n i wedi diflasu yn y byd cyfreithiol. O’n i’n gwneud cwrs PGCE rhan-amser ac yn parhau i weithio, roedd hynny’n anodd. Ro’n i’n gweld yn gynnar iawn bod yna broblemau efo’r system addysg ym Mhrydain a dyna pryd benderfynnais symud yma i Hong Kong 14 mlynedd nol erbyn hyn.
Pa fath o broblemau ot ti’n gweld?
Y system yn fwy na dim. Fel athrawes newydd, roedd o’n anodd i gael swydd parhaol mewn ysgol achos y cystadleuaeth. Roedd yna broblemau mawr o ran disgyblaeth mewn ysgolion hefyd. Wnes i benderfynu dod yma i Hong Kong i ddysgu ar ôl ddarllen bod mwy am y cyfleodd yma, gwell cyflog ac amodau a siawns anhygoel i ehangu fy mhrofiad fel athrawes. Dwi ddim yn dyfaru a dwi’n gweld bod y problemau yn y system Prydeinig yn parhau.

Sut brofiad oedd hi i symud i ochr arall y byd?
Roedd y merched yn fy mywyd i gyd yn fy annog i fynd amdani, ond yn ddiddorol, roedd y dynion i gyd yn dweud bod o’n syniad drwg. Dwi’n meddwl bod merched yn fwy dewr o bell ffordd! Gwerthais y tŷ, pacio popeth a mynd! O fewn pythefnos ar ol cyrraedd, o’n i’n gwybod fy mod i eisiau aros am hir a gwneud cais am breswyliad parhaol pan fuaswn yn cael y siawns, saith mlynedd wedyn.
Sut brofiad oedd bod yn athrawes yn Hong Kong?
Nes tua canol mis Gorffennaf blwyddyn yma, dwi wedi bod yn Athrawes Saesneg Brodorol yn dysgu Saesneg i blant 7-9 oed. Oherwydd bod Saesneg yn iaith estron i’r plant o’n i’n cyd ddysgu efo athrawes lleol (‘Local English Teacher’ – LET). Os oedd yna air anodd a dieithr i’r plant, fel ‘strange’ sy’n anodd ei gyfleu trwy gerdyn fflach neu weithred, roedd y LET yn esbonio iddyn nhw yn Cantonese.
Wyt ti wedi mynd ati i ddysgu’r iaith Cantonese?
O na! Mae o mor anodd! Yn y flwyddyn ddiwethaf ‘dwi wedi dechrau dysgu Putonghua (Mandarin) ac mae hwnnw’n ddigon o sialens!
Sonia ychydig am dy swydd newydd…
Wel, ar ol gweithio yn yr un ysgol am dros ddeuddeg mlynedd trwy’r Cynllun Addysgu Saesneg Brodorol, dwi ar fin dechrau swydd newydd fel Athrawes Ymgynghorol i’r Llywodraeth yma. Hop, sgip a naid ymlaen ond rydw i wedi cyraedd ‘na yn y diwedd ac yn edrych ymlaen am her newydd!

Ydy’r trigolion lleol yn gwybod am Gymru?
Pan ddechreuais yn yr ysgol wnes i gymryd rhan yn y gwasanaeth er mwyn cyflwyo fy hun a Chymru, gwlad 6,000 milltir i ffwrdd. Doedd yr un ohonynt wedi clywed am Gymru, ond wrth i mi ddangos y faner gyda’r ddraig goch, roedd y plant wedi cyffroi oherwydd mae’r ddraig yn bwysig iawn yma yn Hong Kong a Tseina. Roedden nhw’n gweiddi ‘Draig! Draig!’ yn Saesneg.
Pam ti’n meddwl bod diffyg gwybodaeth am Gymru?
Efallai bod y marchnata ar fai a mae Cymru yn gwlad mor fach a bellter i ffwrdd. Mae rhai oedolion yn gwybod am bethau fel y cig oen Cymreig, oherwydd mae Cymru’n gwneud ymdrech fawr i farchnata’r cig oen, ac mae nhw’n gwybod mwy oherwydd llwyddiant Cymru yn y maes chwaraeon, ond dim byd arall. Mae angen i Gymru farchnata fwy o agweddau twristiaeth, ei llwyddiannau a’i chynnyrch yn rhyngwladol er mwyn cael mwy o sylw ac ennyn mwy o ddiddordeb gan y byd.

Wyt ti wedi dod ar draws unrhyw Gymry eraill yn Hong Kong?
Mae ‘na gôr meibion Cymraeg, a ‘dwi wedi gwylio nhw’n perfformio ond ddaru nhw ddeud ar y pryd doedd yr un ohonynt yn siarad Cymraeg! Oherwydd bod y trigolion lleol a’r alltudion o wledydd eraill mor groesawgar, mae wedi bod yn hawdd i setlo a gwneud ffrindiau; felly ‘dwi heb fynd ati i chwilio am unrhyw gymdeithas Gymraeg yma.
Mae’n siwr bod y ffordd o fyw yn Hong Kong yn wahanol iawn i’r bywyd yng nghefn gwlad Cymru?
Ydy! Mae Hong Kong yn gyflym a phrysur a deinamig iawn, mae yna gymaint o bethau i’w gweld a’i gwneud yma trwy’r amser. Wedi dweud hynny, Cymru yw adref i fi a dwi’n gwybod y byddai’n dychwelyd adref i ymddeol. Bydd Cymru’n fy siwtio i’n well pan fyddai’n barod i ymlacio ac arafu.
Wyt ti’n hiraethu am Gymru?
Dwi’n methu’r iaith ac yn amlwg yn methu fy nheulu. Mae Hong Kong yn berffaith i fi rwan oherwydd mae’n cynnig yr holl gyfleoedd ac mae gen i swydd dda iawn, ond mi fyddai nol adref yng Nghymru un dydd ac yno i aros bryd hynny.