Yma yng Nghymru rydym yn caru cwrdd â’r Cymry byd-eang, i glywed am eich cariad chi at Gymru a’n diwylliant. Un fenyw sydd wedi cwympo mewn cariad gyda Chymru yw Latifa, symudodd hi a’i theulu yma o Syria bron i 4 mlynedd yn ôl. Mae Cymru wedi ei hysbrydoli ac wedi gwneud iddi deimlo’n heddychlon am y tro cyntaf ers amser maith. Dyma drefnu cyfweliad i ddysgu mwy am ei stori…
Latifa, o ble ti’n dod a lle ges di dy fagu?
Dwi’n dod o ddinas Homs yn Syria, yng ngorllewin y wlad. Cafodd ei ddinistrio yn ystod y rhyfel, ac roedd yn le anniogel iawn, dyna pan wnaethom adael. Cafodd fy mhlentyn cyntaf ei geni yno 9 mlynedd yn ôl, yn ffodus dim ond dwy oed oedd hi pan adawon ni i fyw yn yr Aifft, dyw hi ddim yn cofio fe.
Sut wnaethoch chi lanio yn Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru?
Buon ni’n byw yn yr Aifft am dair blynedd a hanner, ganed fy ail blentyn yno. Wnaeth Y Groes Goch ein helpu ni symud i ddiogelwch yma yng Nghymru. Rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw am yr holl gefnogaeth barhaol i fy nheulu a fy rheini, maen nhw hefyd yn byw yma yn Aberystwyth.
Beth oedd eich argraff gyntaf o Gymru?
Roeddwn i’n caru fe o’r ddechrau. Mae’r Cymry mor gyfeillgar a chroesawgar, ac mae pobl Aberystwyth wedi’n croesawn ni gyda breichiau agored. Ni allaf ddiolch digon iddynt. Pan gyrhaeddon ni, doeddwn i methu siarad lot o Saesneg, mae’r Groes Goch ‘di helpu ni i gael mynediad i gyrsiau yng Ngholeg Ceredigion ac mae’r athrawon mor ardderchog a gefnogol. Mae’r Cymry mor garedig, yn cynnig ein helpu ni i wella’n Saesneg, roedd e’n hawdd iawn integreiddio i’r gymuned yma a gwneud ffrindiau hyfryd.
Ydych plant chi’n mwynhau byw yma?
Maen nhw’n caru fe! Cafodd fy nhrydydd plentyn ei eni yma yn Aberystwyth, roedd staff yr ysbyty a’r bydwragedd yn bobl arbennig, y gorau rydw i wedi eu profi ac mor hyfryd! Mae’r plant hynaf yn mynd i’r ysgol leol ac mae’r athrawon ‘di bod mor gefnogol a chroesawgar. Mae’n ysgol amlddiwylliannol felly mae’n wych iddyn nhw ac i ni, ac mae’r addysg yn wych – maen nhw’n cywiro fy Saesneg i nawr!
Ydy nhw’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol?
Ydyn, maen nhw’n dysgu caneuon hefyd sy’n wych. Fel teulu, mae’n bwysig i ni ddysgu Cymraeg oherwydd rydym ni’n meddwl bod hi’n bwysig i ddysgu a rhannu iaith a diwylliannau gwahanol. Mae rhai o’r synau yn yr wyddor Cymraeg yn debyg i Arabeg, fel y ‘ch’ felly mae hi’n hwyl ac yn haws i ddysgu.
Ydych chi ‘di mynychu unrhyw wersi Cymraeg?
Ydw! Cyn y cyfnod clo ro’n i a sawl un arall o’r gymuned o Syria yn yr ardal yn mynychu gwersi pob Dydd Gwener. Rydw i’n awyddus i ail gydio pan mae’r cyfnod clo drosodd.

Soniwch am eich ‘Syrian Dinner Project’.
Mae bwyd yn rhan bwysig iawn o’n bywyd a diwylliant yn Syria. Wnaeth Rose o’r Groes Goch sbarduno’r syniad fy mod i a dwy fenyw arall o deuluoedd o Syria yn Aberystwyth yn cwrdd â rhannu ein diwylliant gyda’r bobl leol trwy rannu ein bwyd. Roedd yr ymateb yn ysgubol, roedd pobl yn caru ein bwyd ac yn dweud bod ein coginio yn anhygoel. Rhoddodd hyder i mi ac ysbrydoli’r Syrian Dinner Project, sy’n fwyty ‘pop-up’. Rydym yn gweithio gyda bwytai lleol fel Medina yn Aberystwyth a Cletwr yn Nhaliesin, ac yn cynnal nosweithiau a digwyddiadau lle gall pobl flasu ein bwyd a’n diwylliant.
Ydy Covid-19 wedi effeithio ar y prosiect?
Rydyn ni’n ffodus ein bod ni’n gallu cynnal digwyddiadau tecawê, mae’r un nesaf ar y 29ain o Awst yng Nghletwr, maen nhw wastad yn boblogaidd felly mae rhaid i chi archebu lle! Mae’r arian a godir yn ein helpu i ariannu ein gweithgareddau gyda’r plant ac rydym wrth ein bodd yn ei wneud.

Wyt ti’n mwynhau ein bwydydd Cymreig a Phrydeinig?
Dwi’n hoffi’r bwydydd melys! Mae ffrindiau’n gwneud cacennau banana a danteithion melys i mi a chawsom ein gwahodd hefyd am Ginio Nadolig traddodiadol un flwyddyn, roedd yn flasus iawn. Rwyf hefyd yn hoff iawn o’r holl gawl blasus rydych chi’n ei wneud yma.
Oes gen ti hoff le yng Nghymru?
Dy ni’n caru’r ardaloedd o gwmpas Aberystwyth, a aethom ni i Ogledd Cymru yn gynharach yn y flwyddyn ac roedd hi’r un mor brydferth yno. Cwm Elan a Phont Diafol yw dau o’n hoff lefydd, mae gweld y golygfeydd yn syfrdanol ac ni allwn gredu bod y llefydd hyn yn bodoli ar garreg ein drws. Ni’n teimlo’n lwcus iawn, iawn i gael bod yma.
Ai Cymru yw eich cartref am byth?
Dyna fy mreuddwyd, rydw i eisiau aros yma. Ers dod i Gymru fi ‘di teimlo’n ddigynnwrf am y tro cyntaf am flynyddoedd, mae teimlo’n saff ac mae’n fraint i gael y cyfle i fod o gwmpas pobl mor gyfeillgar. Dwi wir yn hynod o ddiolchgar am. Dwi’n andros o falch bod fy mhlant yn cael eu magu mewn rhan mor anhygoel a diogel o’r byd. Rwy’n ymweld â ffrindiau yn Lloegr, ond pan gyrhaeddaf yn ôl yn Aberystwyth mae’r teimlad llethol hwn o ymdawelwch a hapusrwydd yn dychwelyd ac ni allaf feddwl am fyw yn unrhyw le arall. Fy mreuddwyd yw aros yma ac agor bwyty Syriaidd un diwrnod.
Diolch yn fawr i Latifa am rannu ei stori gyda Cymru a’r Byd. Rydym mor falch o’ch cael chi yma yng Nghymru ac yn dymuno pob lwc i chi a’ch teulu. I gael mwy o wybodaeth am y Syrian Dinner Project, ewch i’r dudalen Facebook ac Instagram.
Os hoffech chi rannu’ch stori gyda ni, anfonwch e-bost at marketing@walesinternational.cymru ac os nad ydych wedi ymuno â’n teulu Cymreig ledled y byd eto – beth ydych chi’n aros amdano?! Cliciwch yma i gael y manylion llawn a’r cynigion arbennig unigryw gan ein partneriaid busnes!
Heulwen Davies, Cymru a’r Byd.