Mae cerddoriaeth yn rhan fawr o dreftadaeth a diwylliant Cymru ers miloedd o flynyddoedd, ac mae hi o hyd. Dyma 5 o’r gwyliau cerddoriaeth gorau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru bob blwyddyn…
Gŵyl Inside Out
Wedi’i lleoli ym Mharc Bute yng Nghaerdydd ar ddechrau’r haf – diwedd mis Mai/dechrau mis Mehefin – dyma ŵyl weddol newydd. Mewn gwirionedd, cafwyd dechrau da yn 2019 gyda pherfformwyr enwog megis Hannah Wants, Sean Paul a Bugzy Malone yn perfformio. Mae Gŵyl Inside Out yn ŵyl i gerddoriaeth ddawns, cerddoriaeth dŷ a garej, cerddoriaeth ddrwm a bas – mae’n barti mawr, ar dir 130 erw a oedd yn arfer bod yn dir i Gastell Caerdydd. Am ragor o wybodaeth, cliciwch YMA.
Sesiwn Fawr
Am rywbeth sydd yn fwy traddodiadol, beth am fynd i’r Ŵyl Werin yn Nolgellau. Caiff ei chynnal ym mis Gorffennaf fel arfer, gyda chyn-berfformwyr enwog megis Lewys, Glain Rhys a Tant, mae gan Sesiwn Fawr rywbeth at ddant pawb. Mae’n ŵyl i’r teulu i gyd a gynhelir ar draws sawl lleoliad yn Nolgellau, o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae yna wersyllfa, sawl lle i fwyta ac yfed, a sesiwn adrodd stori i’r plant. Caiff mynychwyr eu hannog i ddod ag offer eu hunain, oherwydd bydd sesiwn jamio dros y penwythnos rywbryd, mae’n sicr! Am ragor o wybodaeth, cliciwch YMA.
Gŵyl Steelhouse
10,000 cefnogwr i gerddoriaeth roc mewn cae yng Nghymru – dyna yw Gŵyl Steelhouse mewn gwirionedd, wedi’i lleoli yng Nglyn Ebwy bob Gorffennaf. Gan ddod â pherfformwyr roc enwog megis UFO, Myles Kennedy, The Darkness a mwy, mae’r ŵyl yn gymysg o gerddoriaeth roc glasurol a chyfoes, mewn lleoliad hardd ar gyrion Bannau Brycheiniog. Mae gan yr ŵyl ddilynwyr ffyddlon, sawl opsiwn ar gyfer llety, a theimlad teuluol er natur y gerddoriaeth sydd ar gael. Am ragor o wybodaeth, cliciwch YMA.
Gŵyl Green Man
Dechreuodd fel gŵyl werin fach ym Mannau Brycheiniog, ac mae bellach yn ŵyl indie sydd yn dod ag oddeutu 15,000 o ymwelwyr bob Awst. Mae’n ddigwyddiad 4 diwrnod gyda cherddoriaeth fyw, a pherfformwyr enwog megis Mac DeMarco, the Brian Jonestown Massacre a Stella Donnelly, ac mae’r ŵyl yn tyfu ers 2003. Mae rhywbeth at ddant pawb yn yr ŵyl, p’un ai ydych yn hoffi cerddoriaeth, gwyddoniaeth, celf, comedi neu ymlacio gyda ffrindiau, cewch amser anhygoel yn yr ŵyl hon. Am ragor o wybodaeth, cliciwch YMA.
Gŵyl Hub
Cynhelir yn hwyr ym mis Awst, mae Gŵyl Hub yn ŵyl aml-leoliad, aml-genre wedi’i lleoli ar Stryd Womanby am benwythnos yng Nghaerdydd. Bob blwyddyn mae dros 150 o berfformwyr yn perfformio ar led 12 llwyfan yn yr ardal, gyda barddoniaeth, comedi, celf a mwy. Gyda bandiau a cherddorion llai adnabyddus megis Cara Cullen, The Zinvandels a Rainbow Maniac, mae’n ŵyl berffaith os ydych chi am ddod o hyd i gerddoriaeth newydd i wrando arni. Am ragor o wybodaeth, cliciwch YMA.
Beth bynnag y fath o gerddoriaeth rydych chi’n gwrando arni, a pha fath o ŵyl yr hoffech fynd iddi, mae gan Gymru ddigon o ddewis, yn enwedig dros yr Haf. Gwisgwch eich welîs, ewch draw i’r wersyllfa, a mwynhewch!