Wythnos Cymru yn Efrog Newydd
Fel rhan o’n canolbwynt ar y gwahanol “Wythnosau Cymru” sydd yn digwydd ledled y byd, fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Ty Francis MBE, sefydlydd New York Welsh, fis diwethaf i drafod y gymdeithas, eu cynlluniau cyffrous ar gyfer Wythnos Cymru yn Efrog Newydd, a’r digwyddiadau i ddod y byddwn yn rhannu â chi dros y misoedd nesaf!

Mae’r gymuned Gymreig yn Efrog Newydd yn falch ac yn fywiog – yn union fel y ddinas ei hun! Fe wnaeth Ty gyd-gychwyn New York Welsh, sef cymdeithas Gymreig fwyaf Efrog Newydd, gyda Marc Walby, Gwilym Roberts-Harry, Rhodri Morgan a Sioned Wyn Morgan. Maen nhw’n recordio’r podlediad poblogaidd, “New York Welsh”. Pwrpas y podlediad yw creu llwyddiant Cymreig yn y dyfodol drwy rannu straeon i gysylltu â phobl eraill. Maen nhw’n creu a chynnal sawl digwyddiad bob blwyddyn i hyrwyddo diwylliant Cymreig a diddordeb yn Efrog Newydd. Mae’r grŵp yn cynnwys entrepreneuriaid, artistiaid, gweithwyr busnes proffesiynol, cyfreithwyr, a mwy.
Ers 2003, mae gŵyl flynyddol yn Efrog Newydd yn dathlu nawddsant Cymru gyda chelf, bwydydd, diodydd a chwaraeon. Mae’r digwyddiad eleni yn arbennig dros ben, gyda New York Welsh yn cymryd y llyw, gyda chymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru yn America, a sefydlwyr “Wythnos Cymru” (darllenwch ein cyfweliad â Dan Langford, sefydlydd Wythnos Cymru yma).

Cynhelir Wythnos Cymru yn Efrog Newydd rhwng Chwefror 23 a Mawrth 10 2019, ac mae’n gyfle i’r ymfudwyr Cymreig bywiog, a’r rheiny sydd â thras Gymreig, ddathlu eu treftadaeth ac i’r Americanwyr ddysgu am ddiwylliant cyfoethog Cymru.
Dyma rai o’r digwyddiadau a gaiff eu cynnal:
Wales v England (Six Nations) 23rd February 2019, 11.45am – 1.45pm The Liberty NYC
Read more about the best places to catch the rugby around the world in our article here.
Captains Knock Rugby Legends Ticket Only Event 27th February 2019, 6pm – 10pm The Manhattan Club
New York Welsh St. David’s Day Celebration Ticket Only Event
28th February 2019, 6pm – 11pm
The Liberty NYC.
Cymru v Lloegr (Gemau’r Chwe Gwlad) Chwefror 23 2019, 11.45yb – 1.45yh The Liberty NYC
Darllenwch fwy am y lleoedd gorau i wylio’r gemau rygbi ledled y byd yn ein herthygl yma.
Captains Knock Rugby Legends Digwyddiad â thocyn yn unig Chwefror 27 2019, 6yh – 10yh The Manhattan Club
Dathliad Gŵyl Ddewi New York Welsh Digwyddiad â thocyn yn unig
Chwefror 28 2019, 6yh – 11yh
The Liberty NYC.
Ymunwch â New York Welsh am fwydlen wedi’i hysbrydoli gan fwydlen Sunken Hundred, gyda bwydydd o Gymru gyfan, wedi ei chreu gan y cogydd enwog, Illtyd Barret. Maen nhw’n addo canu (wrth gwrs!), adloniant, “dadorchuddiad celfyddydol” rhyfeddol, a llawer o gwrw, i’r cwsmeriaid! Prynwch docynnau yma.

Gala Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Gwahoddiad yn unig
Chwefror 28 2019, 6yh – 11yh
Bydd y digwyddiad rhagorol hwn yn anrhydeddu Catherine Zeta Jones, un o drysorau Cymru.
Royal Welsh College of Music & Drama Gala Invite only
28th February 2019, 6pm – 11pm
This star-studded event will honour Wales’ sweetheart, Catherine Zeta Jones.
Yr Alban v Cymru (Gemau’r Chwe Gwlad)
Chwefror 23 2019, 09.15yb – 11.15yh
The Liberty NYC
Mae’n gychwyn gêm cynnar, ond bydd yn werth y drafferth! Bydd New York Welsh yn eich gweld chi yn y Liberty NYC i gefnogi’r bois.
Yn union fel Wythnos Cymru yn Llundain, chewch chi ddim stumog wag o gwbl wrth fod yn Efrog Newydd ar gyfer y digwyddiad hwn. Beth am fynd i un o dafarnau Cymreig arbennig Efrog Newydd? Mae bwydlen Snowdonia yn gymysg o fwydydd Celtaidd ac amrywiaeth Efrog Newydd, a bydd yn sicr o gadw’ch stumog yn llawn yn ystod Wythnos Cymru. Maen nhw’n enwog oherwydd eu brecwast Cymreig, sy’n cael ei gyflwyno gyda bara lawr, sy’n draddodiadol yng Nghymru. Caiff ei greu trwy biclo a ffrio gwymon a’i gymysgu’n fwstard. Mae ganddyn nhw gwrw Cymreig hefyd!

Mae ar Wythnos Cymru yn Llundain, ac felly, Wythnos Cymru yn Efrog Newydd ddyled i Lywodraeth Cymru, sydd yn cefnogi’r syniad o hyrwyddo Cymru gyfoes ledled y byd. Wrth gydnabod pwysigrwydd perthynas Cymru ag Unol Daleithiau America; mae gan Lywodraeth Cymru rwydwaith o swyddfeydd rhyngwladol ledled y wlad, yn cynnwys Dinas Efrog Newydd, San Francisco, Washington D.C, Atlanta a Chicago. Yma, maen nhw’n manteisio ar fasnach a buddsoddiad i Gymru ac o Gymru, ar y cyd â thwristiaeth, diwylliant ac addysg drwy ddarparu rhaglen o weithgareddau i hyrwyddo Cymru yn wlad i fuddsoddi ynddi, gwneud busnes, gweithio, astudio ac ymweld â hi, fel Wythnos Cymru UDA (mae rhagor o wybodaeth isod). Cafodd pwysigrwydd y cysylltiadau hyn ei bwysleisio gan ymweliad i Efrog Newydd a Philadelphia yn 2018 gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i hyrwyddo Cymru yn lleoliad busnes.
Am ragor o wybodaeth, y cyfle i hyrwyddo eich busnes neu restr gyfan o weithgareddau, ewch i https://walesweek.nyc/