Taith Gwyl Ddewi i Melbourne gan Rhys Meirion, Llywydd Cymru a’r Byd



Diwedd Chwefror eleni fe aeth “tri gŵr doeth” (i’w drafod) allan i Melbourne Awstralia, i ymuno yn nathliadau Gŵyl Ddewi y Capel Cymraeg yno. Y tri oedd Steffan Prys Roberts, a oedd yn mynd yno fel enillydd y Ruban Glas yn Eisteddfod Môn, ac Aled Wyn Davies a finnau, fel dau ran o Dri Tenor Cymru gan fod Aled Hall yn methu mynd.
Mae’r dealltwriaeth yma rhwng y Capel Cymraeg yn Melbourne a’r Eisteddfod Genedlaethol yma yng Nghymru, i’w glodfori a’i ganmol yn fawr. Mae’n engrhaifft o nifer o ffyrdd eraill dwi’n siwr, y gellir cael cysylltiad a dealldwriaeth rhwng sefydliadau yma yng Nghymru a sefydliadau a gŵyliau Cymreig ar draws y byd.
Gan fod Steffan yn denor fe aethom allan i Melbourne yn dri tenor yn edrych ymlaen am groeso cynnes iawn. Roeddwn i wedi bod drosodd yn 2016 ac yn gwybod am y croeso a’r cyfeillgarwch oedd yn aros amdanom.
Pan gyrhaeddom Melbourne roedd dau arbennig iawn yn aros amdanom sef Christine a Fred Boomsna, a oedd tu ôl i’r holl drefniadau, ac i ffwrdd a ni i’n cartef am ein cyfnod yno, sef, apartment yr un yn Findlers Lane.
Roedd dau arall wedi mynd drosodd yno rhyw wythnos o’n blaenau ni, Sef Ilyd Ann, a oedd yn arwain y Gymanfa ac yn arwain Côr Meibion Melbourne mewn cyngerdd arbennig Gŵyl Ddewi yn y Melbourne Recital Center, a Dewi ei gŵr a oedd yn cario copis Ilyd.
I ddod i nabod pawb fe aeth aelodau’r capel a’r pump ohonom am drip ar hyd yr arfordir ac am bicnic a barbeciw wrth gwrs. Fe gawsom hwyl fawr ac fe ganwyd rhyw gân neu ddwy yn anffurfiol i’n ffrindiau newydd. Cawsom gyfle i fynd i’r môr, ond ddim rhy bell allan, roedd Aled ofn siarcod!!

Bwyta!!! Bois bach, rhan mawr o’r croeso oedd ein bwydo ni, a hynny ar bob cyfle. Rhyw deimlad Cymreig am hynny a oedd yn ein gwneud yn hollol gartrefol.
Fe gafwyd gwasanaeth arbennig iawn i ddathlu Gŵyl Ddewi yn y Capel Cymreig dan ofal y Parchedig Siôn Gough Hughes, ac fe godwyd y faner gan Ilyd Ann ac fe gansom ein tri fel unawdwyr, ambell i ddeuawd a triawd hefyd.
Ond y Gymanfa oedd yr uchafbwynt mae’n siwr, gyda oddeuty mil o bobl a tras Gymreig wedi ymgynull i ganu. Rhai wedi teithio ymhell o bedwar ban Awstralia, rhai o Seland Newydd a rhai o Gymru hefyd. Roedd y canu yn wefreiddiol, ac erbyn hyn, efallai, dim ond yng nghymanfa’r Eisteddfod Genedlaethol y mae’r fath Gymanfa yn digwydd yng Nghymru bellach.




Diolch o galon i Gapel Cymraeg Melbourne am y croeso cynhesaf posib i ni’n tri, a dwi’n siwr y gallwn siarad dros Ilyd a Dewi wrth ddweud ein bod wedi cael amser bythgofiadwy yn eich cwmni, ac y byddem, ein pump, yn neidio ar awyren yn syth os y byddai gwahoddiad eto yn y dyfodol.