Pwrpas ein bodolaeth? Cysylltu’r Cymry a’n cyfeillion drwy’r byd, a rhoi ein Cymru annwyl yn amlycach ar y map.

Pam? Os ydych wedi profi ‘hiraeth’, os yw Cymru yn dal lle arbennig yn eich calon chi, yna fe wyddoch yn iawn pa mor hapus y teimlwch wrth gysylltu a chyd-Gymry (a ffrindiau da i Gymru). Rydym ni yma i wneud i hynny ddigwydd, i ddod â chi yn nes at eich gilydd ac yn nes at Gymru. Ar fap, gallech yn hawdd beidio sylwi arnom. Mae gwneud yn siwr bod Cymru fach yn cael ei gweld a’i chlywed yn dipyn o dasg! Clywn yn aml, ‘Wales?! Is that in England?!’ Daethom ymhell iawn, diolch i unigolion fel Gareth Bale, Katherine Jenkins, Syr Tom Jones, Gavin a Stacey ac eraill ond mae yna lawer iawn o waith i’w wneud eto. Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i’r byd. Efo’n gilydd gallwn wneud iddo ddigwydd. 

Ein Gwaith Ni? Rhannu stori Cymru, ein pobol rhyfeddol a’n mudiadau, ein golygfeydd godidog a’n diwylliant sy’n ffynnu o hyd. Rydym yn eu rhannu drwy gyfrwng ein cylchgrawn dwyieithog ‘Yr Enfys’, ar-lein, o berson i berson, ‘wyneb yn wyneb’ a lle bynnag yr awn ni.

Digwyddiadau:
Trefnu digwyddiadau a chyfleoedd i rannu ac i ddathlu ein hiaith odidog a’n diwylliant amrywiol. 

Hybu a Chefnogi Eraill:
Hybu a Chefnogi Eraill. Gweithio gyda chymdeithasau Cymraeg a Chymreig a chyda cymdeithasau Rhyngwladol i ddathlu Cymru. Cefnogi Achosion Da. Noddi prosiectau a chyfleoedd sy’n ein galluogi ni’r Cymry a’n ffrindiau dros y byd i brofi Cymru, ei hiaith a’i diwylliant.

EIN TIM:
Gwirfoddolwyr yn bennaf, ond gyda thri aelod staff sy’n gweithio’n rhan-amser. Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r tîm yn byw yng Nghymru, ond gydag aelodau a Llysgenhadon yn byw ar draws y byd.

Aran Jones

LLYWYDD – ARAN JONES

Penodwyd yn 2020. Yn byw yn awr yng ngogledd Cymru ond cyn hynny mewn sawl rhan o’r byd. Ei frwdfrydedd dros y Gymraeg wedi ei arwain i sylfaenu’r rhyfeddol ‘Say Something in Welsh’. Mae wedi helpu dros 60,000 o bobl o dros y byd i ddysgu’n hiaith odidog. 

Darllennwch Stori Aran 

CADEIRYDD – YR ATHRO STUART COLE      

Penodwyd y Cadeirydd, Stuart Cole yn 2020. Mae’n un o fechgyn Llanelli ac mae ei waith, fel un o-arbenigwyr y diwydiant trafnidiaeth wedi ei arwain dros y byd.   

chair@walesinternational.cymru 

Darllennwch Stori Stuart 

Ein staff rhan-amser.

Rheolwraig Marchnata a Chyfathrebu – Heulwen Davies

Penodwyd Heulwen yn 2020 ac mae hi wedi ei lleoli yn ymyl Machynlleth, Prifddinas Hynafol Cymru!  Astudiodd yn U.D.A. ac wedi teithio’r byd fel Cynhyrchydd  a Chyfarwyddwraig ym myd teledu mae Heulwen yn frwd am adrodd storiau. Mae hi’n awdur a gyhoeddodd lyfrau.

marketing@walesinternational.cymru 

 

Golygydd Cylchgrawn ‘Yr Enfys’ – Nia Davies-Jones

Mae Nia, Golygydd yr Enfys yn frwd ynglŷn â chasglu, comisiynu a chyhoeddi storiau,  a phob math o gynnyrch a ddaw o Gymru.

enfys@walesinternational.cymru

 

Ysgrifennydd Undeb Cymru a’r Byd / Wales International – Gwenith Elias

Daw Gwenith o ogledd Cymru, ac erbyn hyn mae hi a’i theulu yn byw yng Ngheredigion. Mae wrth ei bodd yn cysylltu â’n haelodau rhyngwladol.

secretary@walesinternational.cymru

Ein Llysgenhadon.

Mae’r Llysgenhadon yn chwarae rhan bwysig. Maent yn gymorth mawr i’n cadw mewn cysylltiad gyda Chymry a Chymunedau Cymreig ar hyd a lled y byd. Maent yn ein helpu i rannu’n stori ni yn eu rhan hwy o’r byd.

 

Ian Samways  –  Pennsylfania, Unol Daleithiau America.

Mae Ian yn hollol ddi-wyro am hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant yn yr Unol Daleithiau. Efallai nad yw ei gysylltiad treftadol a Chymru cyn lleted a’i un  a Lloegr a’r Alban, ond mae ganddo’r bonws o allu hawlio bod ganddo rieni bedydd o Gymru!   Ei gam cyntaf tuag at ddod i ganol y ‘Pethe’ Cymreig fu dechrau mynychu dosbarth dysgu Cymraeg ei Gymdeithas Gymreig leol, sef Cymdeithas Dewi Sant, Pittsburgh. P.A.  Yn raddol daeth yn aelod o Fwrdd y Gymdeithas honno ac wedyn daeth yr anrhydedd o ddod yn aelod o Fwrdd Gwyl Cymru Gogledd America. Gwasanaethodd yr Ian brwd yn ddi-arbed gan ddod yn Llywydd y ddwy gymdeithas yn eu tro, â hynny yn rhoi cyfle iddo fynychu nifer fawr o ddigwyddiadau ‘Cymreig’ eu naws yn lleol a thros ogledd America gyfan ( Canada yn ogystal a’r Unol Daleithiau )  

Mae Ian wrth ei fodd yn ein Eisteddfod Genedlaethol ni yma yng Nghymru,-  teithiodd i lawer ohonynt dros y blynyddoedd. Daeth i’r llwyfan ddwywaith yng nghystadleuaeth y llefaru i Ddysgwyr ..a gwneud yn ardderchog!   Gan iddo gael ei ysbrydoli gan ein cenedl a’i diwylliant ni, teimlodd hi’n fraint cael bod yn Gadeirydd Eisteddfod  Gwyl C. Gog America ers dwy neu dair blynedd bellach.

Evrah Rose – Gogledd Cymru

Daw Evrah o Wrecsam yng ngogledd Cymru ac mae hi’n angerddol frwd dros  ei thref enedigol ac yn ei theimlo’n rheidrwydd arni i rannu’r datblygiadau cynhyrfus diweddar y dref – yn cynnwys y datblygiadau diddorol yng Nghlwb Peldroed Wrecsam. Yn ystod y misoedd diweddar prynwyd y Clwb gan ddau ŵr o Hollywood U.D.A,  Ryan Reynolds a Rob McElhenney! 

Mae Evrah Rose yn fardd y gair llafar a ddechreuodd ysgrifennu pan nad oedd hi ond naw mlwydd oed. Bu’n gwneud enw iddi hi ei hun yng Nghymru a thu hwnt, gan dderbyn comisiynnau gan y BBC. Mae hi’n fardd sy’n ysgrifennu am anghyfiawnder ac yn ymwybodol iawn o anhegwch cymdeithasol. Mae hi’n gyson yn fodlon ymchwilio heb ofn i faterion sy’n aml yn tabŵ i erail, gan dynnu ar ei phrofiadau hi ei hun a pherspectifau eraill.                                                     

Liz Millman – Melbourne, Awstralia a gogledd Cymru

Mae Liz Millman, gynt Williams, yn ‘deithwraig’ sydd ar y funud yn rhannu ei hamser rhwng Cymru ac Awstralia, ac yn aros gyda theulu ym Melbourne. Er ei bod hi’n dod o Loegr- o Gaerwrangon – arferai dreulio pob gwyliau gyda’i nain ym Mhorthaethwy, gan dyfu i garu ei threftadaeth Gymreig.

Sefydlodd Liz, ac mae hi’n dal i reoli ei menter gymdeithasol o’r enw ‘Learning Links International’ sydd a’i leoliad presennol yma yng Nghymru. Ei brif amcan yw archwilio’r hanes sy’n gyffredin i Gymru a gwledydd o amgylch y byd.

Pan fydd Liz yn Awstralia mae hi’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg yn y Capel Cymraeg ym Melbourne ac yn ceisio adfywio’r cysylltiadau rhwng  Beaumaris, Victoria a Biwmares ar Ynys Môn. Mae hi hefyd yn curadu storïau ar gyfer y ‘People’s Collection Wales’ mewn prosiect newydd o’r enw ‘Migration.’                 

Mae  cysylltiad (arall) ganddi â Jamaica, lle yr ymgymerodd â phrosiectau amrywiol dros yr 20 mlynedd diwetha,- diweddaraf un o’r enw y ‘Jamaica Wales Alliance.’

Dan Rowbotham – o Orllewin Cymru

Shw’mae! Dan Rowbotham dw i. Dwi’n dod o Langeitho ger Tregaron yng Ngheredigion ac yn Gardi balch! Dwi’n gweithio fel Cydlynydd Yr Atom, Canolfan Cymraeg Caerfyrddin a thiwtor Cymraeg I Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dwi’n gyn-lywydd ar Urdd Gobaith Cymru, ac wedi cael nifer fawr o gyfleoedd i mi fel aelod ac fel gwirfoddolwr, gan gynnwys staffio degfed daith y mudiad i’r Wladfa ym Mhatagonia. Yn 2016, derbyniais i Wobr Mered, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Am ddwy flynedd, gweithiais fel Intern yng Nghanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig, ar gampws Prifysgol Rio Grande yn Ne-ddwyrain Ohio yn yr Unol Daliaethau wrth astudio am fy ngradd Meistr. Gweithiais ar gampws y brifysgol ac yn y gymuned leol, i hyrwyddo treftadaeth Gymreig yr ardal. Gweithiais ar raglen o weithgareddau, gan gynnwys gwersi Cymraeg, hyrwyddo cyfleoedd i astudio yng Nghymru am dymor ac Eisteddfod ysgolion dinas Jackson, yr unig Eisteddfod sydd yn parhau i ddigwydd fel rhan o’r system addysg yng Ngogledd America.

 

Rwyf yn parhau i fod yn weithgar yng nghymuned Cymry Gogledd America, fel aelod a thiwtor Cymraeg gyda Chôr Cymry Gogledd America ac fel Tiwtor Cymraeg gyda Chanolfan Madog ynghyd a chefnogi gwaith pwyllgorau a sefydliadau ar draws gogledd America. Dwi’n hynod o gyffrous i fod yn un o Lysgenhadon Cymru a’r byd. Er bod Cymru’n fach ‘dyn ni’n gyfoethog o ran diwylliant, tirwedd a phobl. Dwi’n meddwl ei bod hi mor bwysig i ni ddathlu a chysylltu ein pobl ar draws y byd.

 

Abbie Ryan – Dubai a Llantrisant

Helo, Abbie yma, merch Llantrisant sy’n byw yn Dubai. Beth rydw i’n ei garu am fyw yma? Mae mor amrywiol ac yn caniatáu i mi herio fy hun o fewn fy Ngyrfa, mwynhau diwylliannau o bob cwr o’r Byd ac yn caniatáu imi gael fy nghyflwyno i gyfleoedd diddiwedd.

Mae Cymru yn dal i fod gartref i mi, a fi yw Sylfaenydd The Peninsula Club – Cwmni Digwyddiad Moethus sy’n gweithredu yng Nghymru.

Rwyf wrth fy modd yn cysylltu pobl ac mae’n dod â chymaint o hapusrwydd i mi weld pobl yn rhagori ym mhob agwedd o fywyd.

Un o fy hoff ddyfyniadau “If opportunity doesn’t come knocking – build a door”.

Mae croeso i chi estyn allan ar unrhyw adeg.  

Darllennwch stori Abbie

Dewch yn Llysgennad i ni!

Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu ein rhwydwaith o ‘Lysgenhadon’ dros y byd. Gallwch gynrychioli ardal ddaearyddol, cymdeithas neu fudiad. Does dim rhaid i chi fod yn Gymro o waed!  Os ydych yn daer dros Gymru ac yn teimlo fel helpu, cysylltwch â ni, byddwn wrth ein boddau yn clywed gennych. Ebostiwch ni ar  marketing@walesinternational.cymru

……Ysbrydolwyd ein Stori Ni yng Nghairo … gan Albanwyr!!

Roedd y Cymro balch T.Elwyn Griffiths yn gwasanaethu gyda’r R.A.F. yng Nghairo ym 1943 pan ddarganfu bod gan ei ffrindiau o’r Alban/Sgotland gylchgrawn, a nifer o gyrff oedd yn ei gwneud hi’n hawdd i filwyr yr Alban gysylltu â’u gilydd ac a’u mamwlad. Ysbrydolwyd Elwyn i gynnig cyfle tebyg i filwyr o Gymru. Gyda digon o gefnogaeth gan ei gyd-Gymry a llawer o waith caled gwelwyd y rhifyn cyntaf un o gylchgrawn ‘Seren y Dwyrain’ yn ymddangos, ac yn cael ei ddosbarthu i filwyr ar draws y Dwyrain Canol er mwyn lleddfu ychydig ar eu hiraeth am Gymru.

 

Wedi dychwelyd i Gymru-i ardal ei gartref yn Sir Gaerfyrddin-sefydlodd gymdeithas swyddogol i gysylltu’r Cymry dros y byd. Hon oedd Undeb y Cymry ar Wasgar a welodd olau dydd gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenybont ar Ogwr ym 1948. Bu Elwyn Griffiths yn weithredol wrth ymwneud â’r Undeb, a’r cylchgrawn ‘yr Enfys’ am dros hanner can mlynedd.

Anrhydeddwyd ef â’r radd M.A. o Brifysgol Cymru ac â Medal Anrhydedd Cymry Gogledd America. Aeth yr Undeb ymlaen yn gyson ers hynny – erbyn hyn fel ‘Undeb Cymru a’r Byd’ – ac mae’r nod o gadw Cymru mewn cysylltiad â’r Byd a’r Byd mewn cysylltiad â Chymru yn dal yr un fath yn union. Mae ein cysylltiad/ein partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol yn al yn hollbwysig i ni.

Dewch i gyfarfod y ‘The Worldwide Welsh Page’

Rydym yn cael ein hadnabod am gynhyrchu cantorion amlwg; Shirley Bassey, Syr Tom Jones a Syr Bryn Terfel, chwaraewyr rygbi fel Shane a JPR Williams, peldroedwyr fel Aaron Ramsay a Gareth Bale a ffermwyr/ddiddanwyr fel Dai Jones neu Ifan Jones Evans i enw dim ond rhai. Cymry’n cynhyrfu’r dyfroedd mewn pob math o feysydd dros y byd. Mae Undeb Cymru a’r Byd yn eich gwahodd i dywallt ‘peint’ neu ‘baned’ ac i gyfarfod y rhyfeddol Gymry’r Byd.