Mae pobl Cymru yn byw ymhob man dros y byd ac yn cyfrannu’n helaeth ble bynnag y maent. Po fwyaf y gallwn gysylltu â’n gilydd bydd yn bosibl datblygu’r gronfa anferth hon o sgiliau a brwdfrydedd i fod yn rhwydwaith sy’n gweithio’n effeithiol. O ganlyniad, daw Cymru a phawb sy’n malio am Gymru yn fwy llwyddiannus. Ymunwch â ni a dewch yn rhan o’n mudiad.
Aran Jones,
Llywydd Undeb Cymru a’r Byd. (2021)
Tybed ydych chi erioed wedi gwisgo ‘top’ rygbi Cymru, a chyn pen dim cael cyd-Gymro neu Gymraes, neu ddysgwr yr iaith yn eu cyflwyno’u hunain i chi? Rydym ni ym mhob man ac wrth ein boddau yn cysylltu â’n gilydd, yn enwedig dros baned neu beint! Ar ein blog mi wnewch chi gyfarfod Cymry, yn llwyddo mewn pob math o bethau rhyfeddol, yn cael eu huno yn eu ‘hiraeth’ ac yn chwifio’r faner dros Gymru, lle bynnag y byddant. Gwnewch ‘baned neu t’walltwch beint i chi’ch hun a gadewch i ni fynd i’w cyfarfod.

Cwrdd â Roz Richards – Melbourne
Tachwedd 16, 2020
Wedi cynrychioli Cymru yn y byd athletau a serennu ar y sgrin fawr, mae’r Gymraes Roz Richards bellach yn rhedeg...
Read MoreCwrdd â Jemima Williams – Llundain
Medi 19, 2020
O fferm deuluol yng Ngheredigion i fyd Peppa Pig a goleuadau llachar Efrog Newydd, dyma’r arlunydd Jemima Williams yn rhannu...
Read MoreCwrdd ag Aran Jones – Llywydd Newydd Cymru a’r Byd
Awst 25, 2020
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Aran Jones, sylfaenydd SaySomethinginWelsh yw ein llywydd newydd. Trosglwyddwyd yr awenau gan ein...
Read MorePartneriaid Corfforaethol
Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyrff arbennig hyn. Gyda’n gilydd rydym yn ymdrechu’n galed yn ein nod i roi Cymru ar y map. Cliciwch ar eu logos i ddysgu mwy am eu gwaith.
Undeb Cymru a’r Byd,
PO BOX 275,
Llanrhystud,
Cymru.
SY23 5AW