Sioned yn y Big Apple!
ae Sioned Wyn Morgan yn 33 mlwydd oed ac yn hannu o ogledd Cymru, a chredwch neu beidio, mae hi wedi symud tŷ 25 o weithiau! Yn 2016, symudodd yn bellach o Gymru nag erioed, pan benderfynnodd hi a’i gwr Rhodri adael eu cartref yn Llundain ac ailgartrefu yn Efrog Newydd. Mewn cyfweliad Skype gyda Cymru a’r Byd, cawsom gyfle
Gyntaf oll Sioned, sonia ychydig am dy fywyd nol yng Nghymru…
Dwi’n adnabod Cymru yn dda iawn oherwydd ‘dwi wedi byw yn y gogledd, y canolbarth a’r de! Es i dair ysgol gynradd; Ysgol Cymerau ym Mhwllheli, Ysgol Gynradd Llanrug ac Ysgol Hafren y Drenewydd, cyn mynd i Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug. Es i lawr i’r de wedyn i astudio gradd BA mewn Theatr, Cerddoriaeth a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Ar ol graddio fues i’n gweithio fel actores yng Nghymru a Llundain. Wnes i ymddangos ar sawl rhaglen blant ar S4C, gan gynnwys Rownd a Rownd a Cei Bach, a gwneud nifer o swyddi difyr yn Llundain, gan gynnwys actio rhan Sponge Bob Square Pants ar gyfer Nickelodeon! Glam iawn! Ro’n i’n caru’r gwaith!
Felly pam wnes di bendrfynnu rhoi’r gorau i’r cyfan a symud i Efrog Newydd?
Roedd fy nghytundebau actio newydd ddod i ben pan ddaeth Rhodri’r gwr adref un diwrnod a dweud bod ei gyflogwyr yn Ernest and Young wedi cynnig iddo symud i weithio i’w swyddfa nhw yn Efrog Newydd, dyma ni’n neidio at y cyfle a dwy flynnedd yn ddiweddarach ryden ni dal yma ac yn mwynhau bywyd yn yr Afal Mawr!
Sut oeddet ti’n teimlo pan wnaethoch chi symud yno gyntaf?
Dwi’n cofio glanio yma efo 4 ces, dim ffrindiau a dim cartref a gofyn i fi fy hun “Beth wyt ti’n ‘neud?!” Ro’n i’n gweld y pedwar mis cyntaf yn anodd oherwydd yn wahanol i Rhodri, doeddwn i methu gweithio oherwydd bod y visa heb gael ei brosesu. Doedd gen i ddim rwtin na rheswm i godi yn y bore. Rydw i’n berson positif a dwi’n hoffi bod yn brysur, felly dyma fynd ati i gychwyn flogio am lefydd i fynd a phethau i wneud yn y ddinas, ac ro’n i’n mwynhau’r cyfan yn fawr!
Sut ges di’r syniad am flogio neu blogio ar ffurf fideo?
Rydw i wastad wedi bod yn agos iawn i fy nheulu a ffrindiau, ac felly ro’n i’n ffonio adref bob dydd ar Skype a Facetime, ac yn dangos i’r teulu ble ro’n i’n byw, ble ro’n i’n mynd ac ati. Y teulu gafodd y syniad a dweud y byddai’n syniad da i fi fynd ati i wneud fideos am fy mywyd yn Efrog Newydd, felly dyna wnes i! Cyn pen dim roedd gen i sianel YouTube fy hun ac ro’n i’n ffilmio eitemau am ble i ymweld, ble i fwyta cacen ac ati yn Efrog Newydd. Ro’n i’n ffilmio’r cyfan ar fy ffon symudol ac yn golygu’r cyfan ar ben fy hun, ac roedd yr ymateb yn wych!
Ai dyma dy swydd di erbyn hyn felly?
Na! A dweud y gwir dydw i ddim wedi cael cyfle i ffilmio vlog ers dipyn, ond rydw i’n gobeithio dychwelyd ati cyn bo hir. Rydw i’n gweithio fel person colur erbyn hyn!
Colur? Sut ddigwyddodd hyn?!
Mae fy ffrind Erin Richards yn actores yn Efrog Newydd, ac un diwrnod fe ffoniodd a gofyn a oedd modd i fi wneud ei cholur ar gyfer ffilm roedd hi’n saethu yn y ddinas. Dydw i ddim yn un i wrthod her, felly dyma fynd amdani, ac aeth y cyfan yn dda iawn. Yn fuan wedyn, roedd cynigion eraill yn dod i mewn a chyn pen dim ro’n i’n gweithio fel artist colur llaw-rydd bob wythnos! Penderfynnias ddilyn cwrs colur yng ngholeg MUD, un o’r colegau colur gorau yn Efrog Newydd, er mwyn cael hyfforddiant proffesiynnol, ac erbyn hyn rydw i wedi gweithio ar gytundeb llaw-rydd gyda nifer o gwmniau fel Fox, Warner Brothers, National Geographic a llawer iawn mwy! Efrog Newydd yw’r lle gorau i weithio fel person colur, oherwydd mae ffilmiau’n cael eu saethu yma a digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yma bob dydd!
Beth yw rôl y gymdeithas?
Mewn un frawddeg, ryden ni’n dathlu straeon Cymreig llwyddiannus yn Efrog Newydd tra’n ysbrydoli eraill i lwyddo. Mae Efrog Newydd yn gymdeithas sy’n gefnogol iawn o’r Cymry a’r rhai sydd a chysylltiad gyda Chymru. Ryden ni’n trefnu cyfleoedd i gwrdd yn fisol hefyd er mwyn i’r aelodau gymdeithasu a rhwydweithio. Ryden ni hefyd yn gweithio efo’r Llywodraeth a busnesau Cymreig i hyrwyddo Cymru yn Efrog Newydd.
Ers lansio’r cyfan yn 2017, ryden ni wedi gweithio ar ddwsinnau o ddigwyddiadau; fuon n’n gweithio efo nifer o entrepreneurs Cymreig i drefnu Diwrnod Dylan Thomas yn Efrog Newydd gyda chyflwyniadau gan Mathw Rhys, ryden ni wedi trefnu digwyddiad sgrinio ffilm byw ar y cyd gyda BAFTA. Fuon ni hefyd yn hyrwyddo’r digwyddiadau Dydd Gwyl Dewi oedd yn cael eu cynnal gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, yr actor Luke Evans a Hillary Clinton. Mae 2018 yn ymddangos yn flwyddyn gyffrous arall i ni wrth i nifer o aelodau ddefnyddio’r platform hwn i hyrwyddo Cymru ymhellach!
Ydy hi’n anodd dod o hyd i Gymry Cymraeg mewn dinas llawn pobl?
Fel ymhob dinas a gwlad arall, mae gan y Cymry eu hoff lefydd yma yn Efrog Newydd, ac mae’n ddigon hawdd i ddod o hyd i Gymry ar y platfformau digidol. Rydw i’n synnu at yr hyn mae’r Cymry’n cyflawni yma yn Efrog Newydd! Mae Efrog Newydd yn cael ei gydnabod fel dinas y brueddwydion, mae fel pe bai pawb yn dod yma i wireddu uchelgais, mae pobl yn ‘driven’ iawn yma ac mae’r Cymry yn canu’r un gan yn yr ystyr yma!
Dwi’n siwr bod nifer o’n darllenwyr wedi ymweld ag Efrog Newydd, ond sut ddinas ydy hi i fyw ynddi?
Nyts! Mae’n wahanol i unrhywle arall fyddwch chi’n byw! Unwaith rydech chi wedi agor drws y tŷ ac wedi camu allan i’r stryd, rydech chin gweld bod popeth yn symud ar gyflymder gwyll! Mae’n ‘over dose’ i’r synhwyrau! Mae hi hefyd yn ddinas sy’n ysbrydoli oherwydd bod pawb sydd yma eisiau llwyddo ymhopeth mae nhw’n ei wneud. Rydw i’n teimlo’n freintiedig iawn i gael byw yma a chael y profiad anhygoel yma.
Wyt ti’n hiraethu am adref?
Ydw, yn enwedig fy nheulu a fy ffrindiau. Mae’n anodd pan mae pethau’n digwydd adref a bod dim modd i chi fod yno i helpu neu i ddathlu. Wnes i fethu genedigaeth plentyn fy chwaer, er fy mod i wedi hedfan adref yn arbennig ar gyfer yr achlysur, ond roedd y babi’n hwyr! Rydw i hefyd yn teimlo’n rhwystredig bod dim modd i fi fod yno i helpu fy Nain a hithau’n wael ar hyn o bryd. Mae technoleg yn gwneud y profiad yn haws, ac rydw i’n siarad efo nhw bob dydd ar Skype!
Oes cynlluniau i ddychwelyd adref yn y dyfodol agos?
Wel mae’r Visa’n ein galluogi ni i fod yma am 5 mlynedd felly fyddwn ni yma nes bod hwnnw’n rhedeg allan. Pwy a wyr ble ewn ni wedyn!
Hoffai Cymru a’r Byd ddiolch i Sioned am adael i ni fusnesa yn ei bywyd cyffrous hi a Rodri yn Efrog Newydd! I ddarllen cyngor Sioned ar gyfer y rhai sy’n symud i fyw i wlad newydd, arwyddwch i fyny i dderbyn copi o’n cylchgrawn Yr Enfys…
Gan Heulwen Davies, Cymru a’r Byd / Wales International