O Langeitho i Ohio
Mae 2018 yn nodi 200 mlynedd ers i’r Cymry hwylio o Geredigion i Ohio, ac i gofnodi’r achlysur, mae ‘Cardi’ ifanc newydd wedi glanio yn Ohio! Mae Dan Rowbothan yn 22 mlwydd oed ac yn hannu o Langeitho, Ceredigion ac ef yw’r ‘Davies Intern’ newydd yng Nghanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymraeg, Prifysgol Rio Grande, Ohio (www.rio/edu/madog/). Mewn cyfweliad Skype, cafodd Cymru a’r Byd gyfle id dal fyny gyda Dan i ddysgu mwy am ei rôl yn y Coleg ac i holi a yw’r dreftadaeth Gymreig yn parhau’n rhan annatod o’r gymuned heddiw.
Gyntaf oll Dan, esbonia pam bod ti yn Ohio?
O’n i’n ffodus iawn i gael fy newid i fod yn ‘Daies Internship’ yma yng Nghanolfan Madog, ym Mhrofysgol Rio Grande, ble byddai’n gwiethio nes Nadolig 2019. Mae Canolfan Madog wedi’i lleoli yng nghanol un o’r criwiau mwyaf o Gymry Amercaniadd yng Ngogledd America, a bwriad y Ganolfan yw hybu a dathlu treftadaeth Cymru ac Ohio. Fel bachgen ifanc o Geredigion mae’n gyfnod cyffrous iawn i fyw yma, gan ein bod ni’n edrych ymlane i ddathlu 200 mlynedd ers i’r Cymry hwylio o Geredigion i Ohio.
Beth yw dy waith o ddydd i ddydd?
Mae’n amrywiol iawn! Dwi’n gweithio gyda nifer o sefydiadau a grwpiau bac hi hybsu’r Gymraeg a’r treftadaeth Cymreig. Heddiw, fues i’n gweithio gyda 5 ysgol gwahanol, yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn addysgu’r plant am Gymru. Rydw i’n ymweld â nifer o ysgolion ac yn trefnu sgyrsiau Skype rhwng ysgolion Cymru ac Ohio. Mae hynny’n gallu bod yn annodd oherwydd y gwahaniaeth amser rhwng y ddwy wlad, ond mae e wastad yn gyffrous iawn ac yn gyfle i’r plant ddysgu am fywyd y nail a’r llall. Mae plant Ohi bob amser yn frwdfrydig iawn am Gymru a’r Gymraeg. Mae nhw’n rhyfeddu bod gyda ni orsaf deledu Gymraeg a sin gerddorol Gymreig, mae nhw’n dwli gwrando ar gerddoriaeth Swnami ac mae hw i gyd eisiau do di Maes B a’r Eisteddfod! Yn ogystal a’r gwaith yma, rydw i hefyd yn astudio MA mewn Addysg a Chelfyddydau Cynhwysol, ac rydw i wrth fy modd gyda’r cwrs! Rydw i’n cael cyfle i ddysgu am ddiwylliannau gwahanol a sut allai ddefnyddio’r celfyddydau i gyflwyno diwylliant Cymru i Ohio.
Sut mae bywyd Ohio yn cymharu gyda bywyd adref yn Llangeitho?
Pentref gwledig yw Llangeitho ac yma, rwy’n byw yng nghanol yr ‘hill billies’ hefyd! Mae nifer o fobl Amish yn byw yma ac mae sawl peth yn gyffredin rhwng y bobl, ond y gwahaniaeth mwyaf yw’r ffyrdd, yma mae nhw’n syth yn hytrach na throellog a chul fel y mae nhw adref! Y gwahaniaeth mawr arall yw’r boblogaeth, mae llawer mwy o bobl yma nag sydd yn Llangeitho!
Ydy’n anodd integreiddio mewn i gymuned fawr?
Ddi o gwbwl, rydw i wedi cael fy nghroesawu gyda breichiau agored. Mae gan bobl yr ardal hon galonnau mawr ac me nhw’n caru eu treftadaeth a’i cysylltiad gyda Chymru, rydw i’n cael fy ngrin fel seleb! Rydw i wedi cael gwahoddiad i gartref teuluol fy narlithwyr a chydweithwyr, rydw i wedi gwneud gymaint o ffriniau mewn amser byr iawn. Rydw i hefyd wedi cwrdd a Chymro arall o Geredigion, sef Eben o Aberystwyth, sydd wedi priodi merch leol ac sy’n disgwyl eu trydydd plentyn yn Awst! Mae’r plant eraill yn dysgu Cymraeg ac rydw i’n ceisio’i helpu nhw
Ydy’r cysylltiad Cymreig yna amlwg yn y gymuned heddiw?
Ydy! Yn gryfach yma nag ydy hi adref a bod yn onest! Mae banneri Cymru i’w gweld ar y rhan fwyaf o’r strydoedd. Mae’r awryddion stryd yn cynnwys y ddraig goch, ond y peth doniol am hynny yw bod y ddraig yn wynebu’r ffordd anghywir! Mae’r ddraig goch hyd yn oed i’w gweld ar geir yr heddlu! Mae’r bobl yma yn falhc iawn o’i treftadaeth ac mae’n anhygoel i brofi ac i weld hynny.
Mae’n amlwg dy fod di’n hapus iawn yna, ond wyt ti’n hiraethu am adref?
Rydw i’n methu fy nheulu a fy ffrindiau, nd rydw i’n ffonio nhw ar Skype bob wythnos. Mae fy rheini’n rhedeg tafarn o’r enw’r Three Horseshoes yn Llangeitho, a pan rwy’n ffonio mae’r ffon yn cael ei drosglwyddo i bawb yn y dafaran er mwyn inni gael gweld ein gilydd a dal lan, mae’r dechnoleg fodern yn gwneud y profiad yn llawer haws. Ond! Rydw i’n methu’r sioceled! Mae sioceld America yn rubbish! Rydw i hefyd yn methu bagiau te da! Y pethe arall dwi’n methu yw mwynhau diod alcoholic, mae’r campws yma yn un sych, sy’n golygu nad oes hawl i unrhywun yfed alcohol yma, sy’n brofiad gwahanol ianw if y nyddie yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin!
Oes gyda ti unrhyw gynlluniau cyffrous yn y dyfodol agos?
Rydw i’n gobeithio sefydlu cor Cymraeg yma yn fuan iawn ac rydw i hefdy yn edrych ymlaen at y ffaith ein bod ni’n agor Amgueddfa arbennig, sef y ‘Welsh American Heritage Museum’. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at yr Ŵyl Gymraeg yng Ngogledd America, fyddai’n cynrychioli’r Coleg yn y digwyddiad hwn ac rydw i’n edrych ymlane id dal lan gyda nifer o Gymry syn dod draw i berfformio ac ymweld â’r Ŵyl.
Oes gyda ti gynlluniau i ddychwelyd i Gymru cyn diwedd 2019?
Oes! Yn ffodus iawn fyddai’n teithio adref i Geredgion fel rhan o’r dathliadau 200 mlynedd. Fyddai yno am bythefnos ar ddiwedd mis Mehefin ac rydw i’n edrych ymlaen i gymryd rhan a chael cyfle id dal lan gyda’r teulu a fy ffrindiau.
Hoffai Cymru a’r Byd ddiolch i Dan am gyfweliad bywiog ac am gael y cyfle i fusnesa yn ei fywyd difyr a phrysur yn Ohio. Byddwn ni’n dal lan gyda Dan yn ystod dathliadau’r 200 mlynnedd yng Ngherediion yn ystod Haf 2018!
Gan Heulwen Davies, Cymru a’r Byd.