Dewch i gwrdd â’r Tim Marchnata newydd!
Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur a chyffrous tu ol i’r lleni wrth inni baratoi at lansiad ein gwefan newydd ac wrth inni gyflwyno ein tim marchnata newydd; Heulwen Davies a Kathy Colling.
Mae ein Tim Marchnata wedi bod yn brysur yn hyrwyddo Cymru a brandiau Cymraeg!
Mae gan y ddwy ferch yma brofiad mewn marchnata ac awduro, ac yn fwy na hynny mae nhw’n ddwy ferch sy’n angerddol am hyrwyddo Cymru ac am gysylltu Cymry o bob cwr o’r byd gyda’i gilydd.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am y tim a cadwch lygad ar eu cynlluniau cyffrous a’r blogiau diweddaraf!
Amdan Heulwen
Mae Heulwen yn disgrifio’i hun fel mam a lodes brysur, greadigol a brwdfrydig. Mae’n berson pobl ac yn caru bywyd ac yn gwneud y mwyaf ohonno wrth anelu i gyflawnu gymaint a phoisbl bob un diwrnod! Mae’n byw yn ardal Machynlleth gyda’i gwr Gareth a’i merch Elsi Dyfi.
Cafodd ei magu yng Nglantwymyn ger Machynlleth ac mae’n falch iawn o’i gwreiddiau yn y canolbarth ac yn ceisio’i gorau i roi’r canolbarth ar y map! Aeth i astudio BA mewn Theatr, Cerddoriaeth a’r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a threulio 3 mis yng Ngholeg Central, yn Pella, Iowa, cyn mynd ati i astudio a graddio gyda MA mewn Cyfryngau.
Bu’n gweithio fel Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr teledu yn Abertawe am chwe’ mlynedd a chael y fraint o deithio’r byd yn ffilmio cyfresi ar gyfer S4C a’r BBC; treuliodd gyfnod China, Indonesia, Morocco, Sbaen a Jyngl Africa, yn ogystal â’r mwyafrif o drefi a phentrefi yng Nghymru!
Symudodd adref i ardal Machynlleth yn 2010 a gweithio fel Cynhyrchydd Radio gyda’r BBC a sefydlu boutique a siop nwyddau i’r cartref yn nhref Machynlleth. Yn 2011, dechreuodd ei chwmni marchnata dwyieithog, ac mae wedi cael y cyfle i gydweithio gyda nifer o fusnesau ac unigolion i ddatblygu a gweithredu strategaethau marchnata, darparu hyfforddiant marchnata digidol a threfnu digwyddiadau a lansiadau ar hyd a lled Cymru.
Yn 2017, sefydlodd www.mamcymru.wales y cylchgrawn a’r gymuned ddwyieithog gyntaf ar gyfer mamau Cymru. Mae Mam Cymru yn rhoi’r cyfle i famau a thadau i rannu straeon, cyngor, profiadau a mwy, er mwyn cefnogi ei gilydd. Mae Heulwen bellach yn cael ei hadnabod fel llais mamau Cymru ac yn cyfrannu’n gyson i raglenni teledu a radio. Yn 2018, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf; ‘Mam – Croeso i’r Clwb!’ gyda gwasg Y Lolfa – Llyfr i helpu rhieni newydd trwy’r beichiogrwydd a’r flwyddyn gyntaf gyda’r babi, “efo lot o hiwmor!” – Roedd y llyf yn Rhif 1 ar Siart Gwerthwyr Gorau Cyngor Llyfrau Cymru yn Mawrth 2018.
O ganlyniad i’w llwyddiant gyda’r blog a’r llyfr, cafodd Heulwen ei henwebu ar gyfer gwobr Womenspire 2018, gan lwyddo i gyraedd y rhestr fer o 44 allan o 450 o enwebiadau. Mae Heulwen yn falch o’r ffaith ei bod hi’n cael ei chydnabod ymhlith merched mwyaf ysbrydoledig Cymru ac mae’n awyddus i barhau i lwyddo er mwyn bod yn ‘role model’ i’w merch Elsi.
Amdan Kathy
Mae Kathy’n hannu o Ogledd Cymru, ac wedi ei magu yn Wrecsam symudodd i Aberystwyth ar ol graddio o Brifysgol Leeds, gyda gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg – roedd hi’n methu tirlun Cymru! Mae’n caru teithio, mae wedi treulio amser maith yn Ewrop ac America Ladin, yn ogystal â threulio amser yn Ne Ddwyrain Asia a’r UAE – ac ar hyd y ffordd mae wedi gorfod pwysleisio sawl gwaith bod Cymru’n wlad ar ben ei hun ac nid yn rhan o Loegr!
Wedi symud i Aberystwyth yn 2013, cafodd swydd gyda Teithiau Cambria/ Cambria DMC, cwmni teithio sy’n arbenigo mewn trefnu teithiau i Gymru, ac mae’n parhau i weithio yno! Mae’n angerddol am greu cysylltiadau a hyrwyddo harddwch Cymru i’r byd, ac mae wedi cael y cyfle i hyrwyddo Cymru yn China, Mexico, Yr Almaen, America a mwy.
Mae’r flywddyn dwythaf wedi bod yn flwyddyn fawr i Kathy wrth iddi ddod yn Gyfarwyddwr ar Epic Retreats a sefydlu cwmni marchnata ei hun, www.sunshinePR.co.uk ac enill “Person Ifanc y flwyddyn” yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru! Roedd Epic Retreats, sef cabanau wedi’i ysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru, sylw ryngwladol a chomisiynwyd cyfres i Channel 4 yn dilyn hynt a helynt y cwmni, a Kathy’n ymddangos ar y sgrin fawr!
Mae Heulwen a Kathy yn frwdfrydig iawn am Cymru a’r Byd ac mae tan yn ei boliau i dyfu’r gymuned ryngwladol ac i rannu straeon am y pethau anhygoel sy’n digwydd yng Nghymru a straeon ryngwladol sydd â’i gwreddiau’n ddwfn yma yng Nghymru.
Os hoffech gysylltu â’r tim marchnata, ebostiwch marketing@walesinternational.co.uk a bydd un ohonom yn cysylltu â chi cyn gynted a phoisbl! Rydym yn hapus i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Kathy Colling, Cymru a’r Byd / Wales International