Does dim modd inni gwrdd ein aelodau a’n ffrindiau rhyngwladol ar faes yr Eisteddfod eleni ond ymunwch â ni o ddiogelwch eich cartrefi yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGen 1 – 8 o Awst!
#CaruCymru – Rhannwch eich cariad at Gymru o Bedwar Ban Byd!
Mae gan ein holl aelodau a ffrindiau un peth yn gyffredin, ein cariad at Gymru! Bob blwyddyn rydym yn mwynhau sgwrsio gyda chi yn yr Eisteddfod am pam bod Cymru mor bwysig i chi. Eleni rydym yn eich gwahodd i rannu eich cariad at Gymru arlein ar ffurf lluniau!
Rhannwch eich lluniau gyda ni ar Facebook a Trydar @CymruarByd a @WalesInternational ar Instagram. Defnyddiwch yr hashnod #CaruCymru a nodwch pam bod Cymru’n bwysig i chi!
Rydym yn awyddus i weld pawb sy’n caru Cymru yn ymuno mewn o bedwar ban byd. Rhannwch y newyddion a tagiwch eich ffrindiau er mwyn inni gael uno a chwrdd arlein yn ystod wythnos yr Eisteddfod!
Huw Stephens yn Cyfweld Alex Jones!
Nod Cymru a’r Byd yw cysylltu a rhannu straeon y Cymry a’n ffrindiau ymhob cwr o’r byd. Rydym yn gyffrous iawn bod y gyflwynwraig enwog a phoblogaidd Alex Jones yn ymuno â ni yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGen i rannu ei thaith o Rydaman i soffa’r One Show!
Gallwch ymuno yn y sgwrs rhwng y DJ poblogaidd Huw Stephens ac Alex Jones ar Ddydd Sadwrn y 1af o Awst am 17:30 ar dudalen Facebook yr Eisteddfod AmGen ac ym Mhabell y Cymdeithasau ar wefan yr Eisteddfod. Mae’r digwyddiad am ddim ac yn y Gymraeg.
Dewch yn Aelod o’n Teulu Rhyngwladol!
Mae nifer ohonnoch yn ymaelodi gyda Cymru a’r Byd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, eleni gallwch ymaelodi arlein! Mae aelodaeth unigol yn £25 y flwyddyn ac mae 10% yn cael ei gyfrannu i helpu gwaith rhyngwladol Urdd Gobaith Cymru. Fel aelod byddwch yn derbyn copi o’n cylchgrawn Yr Enfys am ddim dair gwaith y flwyddyn, cylchgrawn lliwgar sy’n llawn straeon difyr am y Cymry byd eang. Fel aelod unigol byddwch chi hefyd yn cael gostyngiad o 10% wrth siopa ac archebu arlein gyda’n partneriaid busnes; Wales Cottage Holidays, Best of Wales Holidays, Janet Radler Travel & Tourism, Niki Pilkington, Y Lolfa, Sain, Moose & Co ac Adra Home.