Mae yna nifer o fwydydd sy’n cael eu hystyried yn Gymraeg/Gymreig iawn. Yn amlwg, cacenni cri – a chaws pob (rarebit), a chawl. Mewn gwirionedd, yn ôl Food Britannia gan Andrew Webb, cawl ydy saig genedlaethol Cymru. Felly os ydych chi am goginio rhywbeth traddodiadol Gymreig i’ch perthnasau, neu os ydych chi’n cynnal parti Cymreig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, dyma’r 5 rysáit Cymraeg orau i chi. Cofiwch wisgo’ch ffedogau…
Sut i wneud Cacenni Cri
Ein rysáit cyntaf yn un mae pawb yn ei hoffi: Cacenni cri. Caiff eu galw’n bakestones neu pice ar y maen, maen nhw’n boblogaidd ers y 19eg ganrif hwyr. Gallwch eu bwyta’n dwym neu’n oer, ac NID sgonau ydynt. Dyma sut i’w gwneud!
Gwneud 12
8 owns o flawd codi
2 owns o siwgr mân
4 owns o fenyn (neu fargarîn)
1 neu 2 lond law o syltanas
1 neu 2 wy wedi’i guro (yn dibynnu ar y cymysg)
Hidlwch y blawd mewn i bowlen, ac yna ychwanegwch y menyn. Rhwbiwch nhw gyda’i gilydd yn fân. Ychwanegwch y siwgr a’r syltanas, a’u cymysgu’n dda. Ychwanegwch un o’r wyau – ac ychwanegwch y llall os mae’r cymysg yn rhy sych. Rholiwch y cymysg i fas ar fwrdd sydd â blawd drosto, a thorrwch gylchau gan ddefnyddio torrwr o oddeutu 2 fodfedd o hyd. Coginiwch gan ddefnyddio padell saim (ar dymheredd canolig) am oddeutu 5 munud yr ochr. Cadwch lygad arnynt: os nad ydych chi’n coginio nhw am ddigon hir, byddant yn amrwd yn y canol, ond os ydych chi’n eu coginio yn rhy hir, byddant yn sych. Ar ôl i chi eu coginio, rhowch damaid bach o siwgr mân drostyn nhw. Mwynhewch!
Sut i wneud bara brith
Nesaf ydy bara brith. Caiff ei alw’n speckled bread weithiau, oherwydd dyna yw ei enw llythrennol yn Saesneg, ac yn draddodiadol byddwch yn ei fwyta gyda haenen dew o fenyn. Dyma sut y gallwch ei wneud…
Yn gwneud 1 gacen
1 pwys o ffrwythau cymysg sych
9 owns o siwgr brown
1/2 peint o de du cynnes
2 lwy de o sbeis cymysg
1 pwys o flawd codi
1 wy (wedi’i guro)
lMwydwch y ffrwythau a’r siwgr yn y te (wedi’i hidlo), a’i adael dros nos. Bore trannoeth, cynheswch y ffwrn i 170C. Irwch dun bara 2 bwys gyda phapur saim. Cymysgwch weddill y cynhwysion i’r cymysg, a’i guro. Arllwyswch y cymysg i’r tun a’i roi yn ffwrn am 1.5 awr, neu tan i sgiwer ddod mas yn lân. Defnyddiwch yr amser hwn i drin yr ardd, wylio’r teledu neu dynnu llwch oddi ar y lle tân.
Sut i wneud Caws Pob (Welsh Rarebit)
Mae’n fwy na chaws ar dost – mae caws pob yn fwyd traddodiadol sy’n berffaith ar gyfer unrhyw bryd o fwyd – neu snac. Mae’n cael ei ôl-ddyddio i’r 18fed ganrif, ac mae ganddo sawl enw doniol: Blushing Bunny, Hot Brown, Buck Rabbit a mwy. Gallwch ei goginio eich hunan gan ddilyn y rysáit isod…
I 2 berson
225 g o gaws Cheddar wedi’i gratio
1 llwy fwrdd o fenyn
2 lwy de o saws Swydd Gaerwrangon (Worcestershire sauce)
1 llwy de o fwstard sych
2 lwy de o flawd
Tamaid bach o bupur
4 llwy fwrdd o gwrw/Guinness/lefrith – eich dewis chi
4 tafell o fara, wedi’i phobi ar un ochr
Rhowch y caws, y menyn, y saws Swydd Gaerwrangon, y mwstard sych, y blawd a’r pupur i mewn i sosban. Cymysgwch â’i gilydd, ac yna ychwanegwch y cwrw/Guinness/llefrith. Gwnewch yn siŵr nad yw’n rhy wlyb. Trowch y cymysg dros wres tan iddo doddi, ac yn dod yn bâst trwchus. Rhowch orau i’r troi a gad iddo setlo. Wrth i’r cymysg oeri, pobwch y bara ar un ochr yn unig. Mae hwn yn bwysig iawn. Lledaenwch y saws y gwnaethoch yn gynnar ar yr ochr na chafodd ei phobi, a’i rhoi o dan y gril. Gallwch hyd yn oed ychwanegu mwy o gaws ar y bara – fyddwn ni ddim yn dweud wrth neb!
Sut i wneud cawl
Fel y sonion ni o’r blaen, mae cawl yn cael ei adnabod fel saig genedlaethol Cymru. Mae’n cyfeirio at unrhyw fath o gael y dyddiau yma, ond yn draddodiadol mae cawl Cymreig yn cynnwys cig oen neu gig eidion gyda llwyth o lysiau. Mae ryseitiau yn mynd yn ôl hyd at y 14eg ganrif! I flasu’r pryd gaeafol, dilynwch y rysáit isod…
I 8 person
1 winwnsyn
1 kg o asgwrn gwddf oen, wedi’i dorri’n dalpiau 5cm (gadewch i’r cigydd wneud hynny)
1 kg o feipen
2 foronen
2 banasen
500 g o datws Maris Piper
3 cenhinen fawr
Bach o gaws, os hoffech
Dydy’r rysáit hwn ddim yn defnyddio glwten. Heb y caws, fydd y rysáit hwn ddim yn defnyddio cynnyrch llaeth!
Rhowch 2 litr o ddŵr i mewn i badell (fawr) – neu ffwrn agored neu grochan – gyda thamaid bach o halen. Berwch y dŵr ac yna ychwanegu’r winwnsyn lawn (wedi’i bilio) a’r cig oen. Berwch y dŵr eto a chael gwared ag unrhyw sgỳm oddi ar wyneb y cawl. Gadewch iddo fudferwi ar wres canolig am 10-15 munud, neu tan i chi’n siŵr y caiff y cig oen ei goginio yn ei gyfanrwydd.
Gan ddefnyddio llwy agennog, tynnwch y cig oen o’r badell. Rhowch ar blât a gad iddo oeri. Wrth i chi aros, paratowch y llysiau. Piliwch y feipen, moron a phannas. Torrwch y feipen yn dalpiau 1cm, a’r moron a phannas yn dafellau 1cm. Does dim angen tâp mesur arnoch. Piliwch y tatws – torrwch nhw’n dalpiau 4cm. Ychwanegwch bopeth i’r badell wrth i chi fynd ymlaen.
Tynnwch gig yr oen oddi wrth yr asgwrn, a’i roi yn ôl yn y badell gyda phopeth arall. Berwch eto, ac wedyn gadael iddo fudferwi am oddeutu 15-20 munud. Yn y cyfamser, torrwch y cennin yn dafellau 1cm. Ychwanegwch y cennin ar ôl iddo orffen berwi, ac yna rhaid berwi a mudferwi eto am oddeutu 10 munud. Neu, tynnwch oddi wrth y gwres, ac ychwanegwch y cennin amrwd wrth i chi ei roi yn yr oergell yn barod i’w fwynhau dros y nos. Rhaid mudferwi’r cawl tan iddo’n gynnes, ac yna bydd yn barod i’w fwyta!
Sut i wneud bara lafwr
Dydy bara lafwr ddim at ddant pawb, ond mae’n rysáit traddodiadol Cymreig felly man a man i chi roi dro arno! Nid bara yw e, ond gallwch ei roi AR fara. Math o wymon ydy e. Ymlaen â ni…
I 4 person
600 g o wymon lafwr ffres
3 llwy fwrdd o olew olewydd
1 neu 2 lwy de o sudd lemwn ffres
halen a phupur
Golchwch y gwymon gyda dŵr glân, a’i roi mewn ffwrn araf am 6 awr. Os nad oes gennych ffwrn araf, gallwch ei fudferwi ar wres isel am 6 awr yn lle. Bydd yn troi’n fwydion tywyll, a gallwch gymysgu’r olew olewydd, sudd lemwn, halen a phupur. Rhowch ar ben tost â menyn, a mwynhewch!
Dyma obaith nawr bod gennych 5 rysáit Cymreig, y gallwch gynnal partïon a gwneud argraff dda ar eich mam yng nghyfraith dros gyfnod y Nadolig. Pob lwc!