Tybed ydych chi erioed wedi gwisgo ‘top’ rygbi Cymru, a chyn pen dim cael cyd-Gymro neu Gymraes, neu ddysgwr yr iaith yn eu cyflwyno’u hunain i chi? Rydym ni ym mhob man ac wrth ein boddau yn cysylltu â’n gilydd, yn enwedig dros baned neu beint! Ar ein blog mi wnewch chi gyfarfod Cymry, yn llwyddo mewn pob math o bethau rhyfeddol, yn cael eu huno yn eu ‘hiraeth’ ac yn chwifio’r faner dros Gymru, lle bynnag y byddant. Gwnewch ‘baned neu t’walltwch beint i chi’ch hun a gadewch i ni fynd i’w cyfarfod.